Lynne Neagle, Y Dirprwy Weinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Bydd aelodau o'r Senedd yn dymuno gwybod fy mod wedi rhoi cydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol arfer pŵer i wneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig o ran Cymru.
Ceisiwyd cytundeb gan yr Is-ysgrifennydd Gwladol Seneddol ar 6 Chwefror i wneud OS o'r enw Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) (Rhif 2) 2023 (“yr OS cywiro”) sy'n gwneud darpariaeth sy'n gymwys o ran Prydain Fawr. Gwnaed yr OS cywiro gan yr Ysgrifennydd Gwladol drwy arfer y pwerau a roddwyd gan adrannau 16(1)(a) a 48(1) o Ddeddf Diogelwch Bwyd 1990, Erthyglau 11(1)(b) a (g), 16(1)(a) ac 16A(2) o Reoliad (EU) Rhif 609/2013 o Senedd Ewrop a'r Cyngor o 12 Mehefin 2013 ynghylch bwyd a fwriedir ar gyfer babanod a phlant ifanc, bwyd at ddibenion meddygol arbennig, ac amnewid deiet yn llwyr er mwyn rheoli pwysau a rheoliad 2(2) a 5(3) o Reoliadau Maeth (Diwygio etc.) (Ymadael â’r UE) 2019.
Mae'r OS cywiro yn diwygio'r ddarpariaeth gychwyn bresennol (rheoliad 1(2)) yn Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd a Bwyd ar gyfer Grwpiau Penodol (Diwygiadau Amrywiol) 2023 (“y Rheoliadau Diwygiadau Amrywiol”) er mwyn darparu ei bod yn dod i rym ar 10 Chwefror 2023, fel y bwriadwyd. Mae hyn yn mynd i'r afael â gwall yn y ddarpariaeth gychwyn a oedd yn golygu nad oedd modd gweithredu'r ddeddfwriaeth.
Mae'r OS cywiro hefyd yn mewnosod darpariaethau trosiannol yn Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Lloegr) 2003, Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (yr Alban) 2003 a Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd (Cymru) 2003 (“Rheoliadau Atchwanegiadau Bwyd 2003 Prydain Fawr”). Mae'r darpariaethau yn rhoi amddiffyniad mewn unrhyw achosion gorfodi perthnasol mewn cysylltiad â gwerthu atchwanegiadau bwyd a oedd yn defnyddio copr a sinc yn y broses weithgynhyrchu ac a gafodd eu marcio neu eu labelu cyn i'r diwygiadau priodol yn rheoliad 6(2) o'r Rheoliadau Diwygiadau Amrywiol ddod i rym. Mae hyn yn cywiro hepgoriad sy'n golygu na chafodd darpariaeth sy'n sicrhau cyfnod pontio ar gyfer atchwanegiadau bwyd sy'n cynnwys copr ei chynnwys yn unol â’r bwriad polisi ar gyfer y Rheoliadau Diwygiadau Amrywiol. Mae hefyd yn gwneud darpariaeth ar gyfer cyfnod pontio tebyg ar gyfer atchwanegiadau bwyd sinc.
Gosodwyd yr OS cywiro gerbron Senedd y DU ar 8 Chwefror a bydd yn dod i rym fesul cam.