Neidio i'r prif gynnwy

Datganiad Ysgrifenedig: Rheoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) 2021

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi crynodeb o ymatebion i ymgynghoriad diweddar ar Reoliadau Ardrethu Annomestig (Eiddo Heb ei Feddiannu) (Diwygio) (Cymru) drafft. 

Agorodd yr ymgynghoriad ar 1 Hydref am gyfnod o chwe wythnos ac fe ddaeth i ben ar 12 Tachwedd. Cafodd ystod o safbwyntiau polisi mewn ymateb i'r ymgynghoriad. Ni chodwyd unrhyw faterion gydag agweddau technegol y rheoliadau. Mae'r  crynodeb o'r ymatebion ar gael yn: https://llyw.cymru/rhyddhad-ardrethi-eiddo-gwag

Mynegwyd safbwyntiau am yr amgylchiadau economaidd digynsail parhaus a newidiadau posibl sy'n dod i'r amlwg yn y marchnadoedd eiddo o ganlyniad i Covid-19. O ganlyniad, gosodir y rheoliadau hyn yn yr wythnosau nesaf gyda dyddiad cychwyn o 1 Ebrill 2022, flwyddyn yn ddiweddarach na'r hyn a gynigiwyd yn yr ymgynghoriad. Bydd hyn yn caniatáu digon o amser i fusnesau a thalwyr ardrethi erail baratoi ar gyfer y newidiadau i ryddhad eiddo heb ei feddiannu.

Rwyf wedi ymrwymo o hyd i leihau achosion o dwyll ac osgoi talu o fewn y system ardrethi annomestig. Byddaf yn parhau i ymgysylltu â phob partner i sicrhau nad yw ymdrechion y mwyafrif helaeth o fusnesau sy'n talu eu cyfran deg tuag at gost gwasanaethau lleol yn cael eu tanseilio gan yr ychydig sy'n ecsbloetio'r system.