Neidio i'r prif gynnwy

Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae iechyd ein cyrff dŵr daearol a'n hamgylchedd morol yn hanfodol i bawb yng Nghymru. O fynediad at ddŵr i'w yfed, hamdden a chynhyrchu bwyd, i ecosystemau iach, ffyniannus, mae llesiant cenedlaethau'r presennol a'r dyfodol yn dibynnu'n fawr ar ddŵr glân. Oherwydd ei bwysigrwydd, mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cymryd camau sylweddol i wella ansawdd dŵr.

Yn ogystal â rhaglen amlflwyddyn i wella ansawdd dŵr sy'n dod i gyfanswm o dros £40 miliwn, rydym wedi ymrwymo £16m arall ar gyfer cyweirio safleoedd mwyngloddio, wedi gweithio gydag Ofwat a chwmnïau dŵr i wneud y mwyaf o fuddsoddiad gan arwain at fuddsoddiad y cytunwyd arno o £6bn drwy ddau gwmni dŵr Cymru, ac wedi bwrw ati â'n huwchgynadleddau ar afonydd ACA.

Drwy'r gyllideb, byddwn yn gweld buddsoddiad ychwanegol o ran gwaith gorfodi ansawdd dŵr, yn bennaf ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru, yn ogystal â £5m ychwanegol i wella gwaith cynllunio a rheoleiddio. Rwyf hefyd wedi dyrannu £16m o gyllid cyfalaf sydd wedi'i neilltuo'n benodol i fynd i'r afael â materion ansawdd dŵr, cynnydd o £3m yn gyffredinol o'r gyllideb ddiwethaf.

Ers cyflwyno Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021 (CoAP), mae Llywodraeth Cymru wedi darparu £52m mewn cymorth ariannol i ffermydd fuddsoddi mewn seilwaith i fynd i'r afael ag achosion llygredd amaethyddol, gan helpu ffermwyr i weithredu'n fwy cynaliadwy. At hynny, mae Llywodraeth Cymru yn parhau i ariannu gwaith gorfodi'r rheoliadau gan Cyfoeth Naturiol Cymru, gyda £1.58m wedi'i ymrwymo ar gyfer blwyddyn ariannol 2025-26.

Fodd bynnag, mae ansawdd dŵr yng Nghymru yn dal i ddioddef a rhaid inni barhau i wneud gwelliannau. Er nad dim ond un sector yn unig sy'n achosi llygredd, amaethyddiaeth yw un o'r prif gyfranwyr o hyd. 

Ym mis Gorffennaf 2024, cyhoeddais fod Dr Susannah Bolton wedi'i phenodi i oruchwylio'r adolygiad 4 blynedd o Reoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) (Cymru) 2021. Diben yr adolygiad yw ystyried effeithiolrwydd y mesurau a osodir gan y Rheoliadau fel modd i leihau neu atal llygredd dŵr o ffynonellau amaethyddol. Mae'r adolygiad yn cyflawni ein hymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i weithio gyda'r gymuned ffermio i weithredu'r rheoliadau, gan dargedu'r gweithgareddau hynny yr ydym yn gwybod eu bod yn achosi llygredd.

Hoffwn ddiolch i Dr Bolton am ei gwaith ar yr adolygiad. Mae Dr Bolton wedi bod yn drylwyr, nid yn unig o ran adolygu'r rheoliadau yng ngoleuni'r dystiolaeth dechnegol sydd ar gael, ond mae hefyd wedi ymdrechu'n fawr i ymgysylltu'n helaeth ag ystod eang o randdeiliaid a phartïon â diddordeb, cyn dod i'r casgliadau. 

Hoffwn ddiolch hefyd i'r rhanddeiliaid a gyfrannodd at yr adolygiad. Rwy'n falch o gydnabod yr ymgysylltiad cadarnhaol â'r broses, gydag adborth agored a gonest wedi dod i law. Er bod llawer o bryderon wedi'u codi am y rheoliadau, a llawer o awgrymiadau ar gyfer newid wedi'u rhoi, roedd cydnabyddiaeth eang hefyd bod llygredd amaethyddol yn cael effaith niweidiol ar ein hamgylchedd a bod rhaid cymryd camau i fynd i'r afael â hyn. Rwy'n hyderus bod yr argymhellion a gynhwysir yn yr adolygiad yn dangos y gwrandawyd ar y rhai sy'n codi pryderon. 

Rwy'n falch bod y dull rheoleiddio cyffredinol yr ydym wedi'i gymryd wedi'i gymeradwyo gan yr adolygiad, ond mae cyfleoedd ar gyfer newid hefyd wedi'u nodi gyda manteision posibl i ffermwyr a'r amgylchedd. Mae'r adolygiad wedi dod i'r casgliad bod angen dull Cymru gyfan i helpu ffermydd i atal a lleihau llygredd, sy'n targedu risgiau llygredd. Mae hefyd yn nodi'r angen am raglen waith sylweddol, a fydd yn cynnwys gweithredu tymor byr, tymor canolig a hirdymor, i wneud ac archwilio gwelliannau pellach i'r rheoliadau.

Dyma grynodeb o'r argymhellion: (i) targedu'r rheoliadau yn well at weithgareddau sy'n achosi llygredd, gan leihau'r baich rheoleiddio mewn cysylltiad â gweithgareddau ffermio risg isel; (ii) gwella hygyrchedd y rheoliadau, er mwyn darparu eglurder i ffermwyr ar eu gweithredu; (iii) archwilio mesurau amgen ymhellach, gan gynnwys o ran y cyfnodau gwaharddedig a'r terfyn o 170kg o nitrogen o dail y gellir ei wasgaru fesul hectar ar ddaliad; (iv) hwyluso arloesi; a (v) mynd i'r afael â bylchau rheoleiddio, gan gynnwys mewn perthynas â mesurau diogelu'r pridd a thrwy welliannau i'r gofynion cynllunio rheoli maethynnau. 

Rwy'n bwriadu bwrw ymlaen â'r argymhellion yn llawn ac yn gyflym. Mae rhai argymhellion y byddwn yn gallu mynd i'r afael â nhw ar fin digwydd, yn enwedig y rhai a fyddai'n gwneud y rheoliadau'n fwy hygyrch, a allai helpu i liniaru effaith y rheoliadau ar les ffermwyr. Mae'r rhain yn cynnwys argymhellion sy'n canolbwyntio ar welliannau i ddiffiniadau ac egluro darpariaethau. 

Fodd bynnag, mae'r dystiolaeth y tu ôl i'r rheoliadau yn gymhleth a bydd llawer o'r argymhellion yn gofyn am ymwneud yn sylweddol ag arbenigedd gwyddonol ac agronomig i symud ymlaen. Mae'r rhain yn cynnwys ystyried ymhellach ddewisiadau amgen i'r mesurau presennol, gan gynnwys y cyfnodau gwaharddedig penodol ar gyfer gwasgaru tail a'r terfyn o 170kg, sy'n berthnasol i faint o nitrogen o dail da byw y gellir ei wasgaru fesul hectar, ar gyfartaledd ar draws y daliad. Fel rhan o'r gwaith hwn, rwy'n bwriadu edrych ar ddarparu rhywfaint o'r £10m ychwanegol a ddyrannwyd i'r cynlluniau buddsoddi gwledig yng nghyllideb derfynol Llywodraeth Cymru 25/26 i archwilio ac, o bosibl, dreialu dulliau amgen ar gyfer y cyfnodau gwaharddedig. 

Mae'r asesiad effaith economaidd dangosol o'r terfyn 170kg yn rhan o'r dystiolaeth sy'n sail i'r adolygiad. Er bod yr asesiad yn nodi ystod o gostau posibl, mae'r rhain yn seiliedig ar gafeatau sylweddol sy'n tynnu sylw at yr ansicrwydd wrth bennu ffigurau manwl. Mae'r asesiad yn nodi bod gan y rhan fwyaf o ffermydd ystod o opsiynau ar gael iddynt i fodloni'r gofyniad hwn. At hynny, nododd yr adroddiad y gallai'r terfyn mewn rhai achosion gymell ffermydd i weithredu uwchlaw angen cnydau am ffosfforws, a allai fod yn torri'r Rheoliadau Trwyddedu Amgylcheddol. Bydd angen ystyried y mater cymhleth hwn yn ofalus.

Wrth gynnal yr adolygiad, cadwodd Dr Bolton at yr egwyddor bod yn rhaid i ganlyniad unrhyw argymhellion leihau'r risg o lygredd amaethyddol ymhellach. Rwy'n cytuno'n llwyr â'r egwyddor hon. Mae'r adolygiad hefyd yn glir bod yn rhaid i'r rheoliadau aros mewn grym hyd nes y bydd yr argymhellion wedi'u cwblhau.

Bydd unrhyw newidiadau i'r rheoliadau yn cael eu datblygu ar y cyd â rhanddeiliaid, gan adeiladu ar natur gadarnhaol yr ymgysylltu yn ystod y broses adolygu. Mae hyn yn cydnabod canfyddiadau'r adolygiad, bod canlyniadau'r rheoliadau wedi'u cysylltu'n annatod â gallu ffermwyr i'w gweithredu. Yn ganolog i hyn bydd sicrhau bod y gymuned ffermio yn hyderus bod unrhyw newidiadau i'r rheoliadau yn deg ac yn gymesur.  

Rwyf wedi gofyn i'm swyddogion lunio rhaglen waith strategol i fwrw ymlaen â'r argymhellion, a bydd y manylion ar gael yn ystod yr wythnosau nesaf. 

Mae'r adroddiad llawn, gan gynnwys yr argymhellion, wedi'i gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru.