Lesley Griffiths AS, Gweinidog Materion Gwledig a’r Gogledd, a’r Trefnydd
Bydd Aelodau Senedd Cymru am wybod fy mod wedi rhoi fy nghydsyniad i'r Ysgrifennydd Gwladol dros yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig arfer pŵer gwneud is-ddeddfwriaeth mewn maes datganoledig mewn perthynas â Chymru.
Gofynnodd y Gweinidog Gwladol blaenorol dros Ffermio, Pysgodfeydd a Bwyd, am gytundeb i wneud Offeryn Statudol (SI) dan y teitl Rheoliadau Amodau Ffytoiechydol (Diwygio) (Rhif 3) 2022 ("y Rheoliadau") fydd yn gymwys i Brydain Fawr.
Mae'r Ysgrifennydd Gwladol wedi gwneud OS o dan y teitl uchod, gan arfer y pwerau a roddir gan Erthyglau 5(3), 30(1), 37(5), 41(3), 72(3) a 105(6) o'r Rheoliad Iechyd Planhigion. Mae Erthygl 2a(2) o'r Rheoliadau Iechyd Planhigion yn darparu y caiff yr Ysgrifennydd Gwladol wneud Rheoliadau o'r fath gyda chydsyniad Gweinidogion Cymru a Gweinidogion yr Alban.
Mae'r OS yn diwygio Deddfwriaeth yr UE a bydd yn diweddaru mesurau rheoli mewnforion mewn perthynas ag ystod o blâu a chlefydau mewn ymateb i asesiadau risg newydd neu ddiwygiedig. Diweddariad cyffredin yw hwn, yn adlewyrchu casgliadau technegol y cytunwyd arnynt drwy Grŵp Risg Iechyd Planhigion y DU, y mae Llywodraeth Cymru yn aelod craidd ohono.
Cafodd y Rheoliadau eu gosod gerbron Senedd y DU ar 3 Tachwedd. Mae’r dyddiadau cychwyn ar gyfer y mesurau’n cael eu rhannu rhwng mesurau brys (gan fod Thekopsora minima yn y categori pla nad yw’n bla cwarantin) sydd i ddod i rym ar 25 Tachwedd 2022, a’r holl fesurau eraill nad ydynt yn y categori brys a fydd yn dod i rym ar 3 Mai 2023.
Unrhyw effaith y gallai’r OS ei chael ar gymhwysedd deddfwriaethol Senedd Cymru a/neu gymhwysedd gweithredol Gweinidogion Cymru
Pwrpas y gwelliannau
Pwrpas y newidiadau hyn yw diogelu bioddiogelwch a chefnogi masnach rhwng Prydain Fawr a thrydydd gwledydd trwy wella mesurau amddiffynnol ar gyfer nwyddau planhigion mewn perygl.
Mae'r OS hwn yn diwygio Rheoliad (UE) 2019/2072 (Rheoliad Amodau Ffytoiechydol) i:
- Adolygu’r rhestrau plâu a roddir o dan gwarantin Prydain Fawr a phlâu a reoleiddir na roddir mohonynt o dan gwarantin yn dilyn asesiadau wedi’u diweddaru o’r risg o blâu neu newidiadau yn statws pla o fewn Prydain Fawr.
- Estyn y rhwymedigaeth ynghylch planhigion, cynhyrchion planhigion a gwrthrychau eraill sy'n deillio o drydedd wlad ac y gellir ond eu cyflwyno i Brydain Fawr os bodlonir gofynion arbennig, i gynnwys Aelod-wladwriaethau'r UE, Liechtenstein a'r Swistir, gan drin pob gwlad yn gyfartal.
- Diwygio gofynion i sicrhau bod yr ardal ddi-bla yn cael ei henwi ar y tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer Tyllwr Emrallt yr Onnen ac i egluro y dylid enwi'r ardal ddi-bla neu le/safle cynhyrchu (yn ôl y gofyn) ar y tystysgrifau ffytoiechydol ar gyfer Xylella fastidiosa.
- Cyflwyno mesurau ledled Prydain Fawr i archwilio mewnforion hadau Pinus (coed pinwydd) a Pseudotsuga menziesii (ffynidwydd Douglas) sy'n blanhigion lletyol y pathogen Fusarium circinatum (cancr pinwydd pyg).
- Newidiadau gweinyddol i gywiro enw'r genws Chrysanthemum L ar dystysgrifau ffytoiechydol
Pam rhoi’r cydsyniad
Rhoddwyd cydsyniad i Lywodraeth y DU wneud y cywiriadau hyn mewn perthynas â Chymru, ac ar ran Cymru, am resymau effeithlonrwydd, hwylustod a diogelu bioddiogelwch trwy gyflwyno mesurau amddiffynnol ar gyfer nwyddau planhigion mewn perygl ledled y DU. Mae'r gwelliannau wedi cael eu hystyried yn llawn ac nid yw’n newid polisi.