Huw Irranca-Davies AS, Y Dirprwy Brif Weinidog ac Ysgrifennydd y Cabinet dros Newid Hinsawdd a Materion Gwledig
Cyflwynwyd y Rheoliadau Adnoddau Dŵr (Rheoli Llygredd Amaethyddol) ym mis Ebrill 2021 ac maent yn nodi dull Cymru gyfan o leihau effeithiau niweidiol llygredd o weithgareddau amaethyddol ar ein hamgylchedd, gan gynnwys afonydd.
Eleni bydd y cyfnodau gwaharddedig yn dechrau ar gyfer gwasgaru tail â chyfran uchel o nitrogen ar gael yn rhwydd, gan gynnwys slyri gwartheg a thail dofednod ar gyfer pob fferm yng Nghymru. Mae'r cyfnodau gwaharddedig yn seiliedig ar dystiolaeth a'u diben yw atal colledion gormodol o nitrogen a ffosfforws i ddŵr ar ôl gwasgaru tail yn ystod y cyfnodau hynny, pan fo twf cnydau'n gyfyngedig. Yn ystod y cyfnodau gwaharddedig, pan fydd angen cnwd am faethynnau yn gyfyngedig a glawiad yn fwy, mae risgiau trwytholchi a dŵr ffo yn cynyddu a gall colledion maethynnau sylweddol ddigwydd.
Mae dechrau'r cyfnod gwaharddedig yn dilyn cyfnod pontio sylweddol o 174 wythnos, i roi amser i ffermydd addasu i'r gofyniad hwn. Er mwyn cefnogi ffermydd i fuddsoddi mewn seilwaith, rydym wedi ymrwymo £52m mewn cymorth grant ers cyflwyno'r rheoliadau yn 2021.
O ystyried bod camreoli slyri yn parhau i fod yn un o brif achosion llygredd amaethyddol, mae ffermwyr yn cael eu hatgoffa am y gofyniad i beidio â gwasgaru'r tail hyn yn ystod y cyfnodau gwaharddedig na gwasgaru deunyddiau gwrtaith os oes risg sylweddol o lygredd yn digwydd. Mae hyn yn cynnwys pan nad yw amodau pridd a thywydd yn addas ar gyfer gwasgaru cyn y cyfnodau gwaharddedig.
Ar gyfer y rhan fwyaf o ffermydd, caniateir gwasgaru eto o 15 Ionawr 2025, yn amodol ar y cyfyngiadau ar ôl y cyfnod gwaharddedig ac unrhyw risg sylweddol o lygredd.
Rwy'n cydnabod bod y tywydd gwlyb diweddar wedi creu amgylchiadau anodd i rai ffermwyr, er enghraifft gan arwain at anawsterau i ffermwyr a chontractwyr sy'n dymuno gwagio storfeydd slyri cyn i'r cyfnod gwaharddedig ddechrau, a rhoddir rhagor o gyngor isod.
Bydd yr heriau hyn hefyd yn cael eu hystyried ymhellach fel rhan o'r adolygiad 4 blynedd sydd bellach yn mynd rhagddo, gan gynnwys fel rhan o'r asesiad o gynigion ar gyfer mesurau amgen.
Cyngor i ffermydd ag anawsterau rheoli slyri
Dylai ffermydd nodi unrhyw fesurau lliniaru sydd ar gael iddynt. Er enghraifft, lleihau unrhyw ddŵr glaw sy'n mynd i mewn i storfa slyri drwy sicrhau bod nodweddion fel gwteri a draeniau dŵr glân yn gweithredu'n llawn.
Os oes unrhyw ffermwyr yn pryderu na fydd ganddynt y capasiti angenrheidiol i storio eu slyri yn ddiogel yn ystod y cyfnod gwaharddedig ac maent wedi cymryd yr holl gamau sydd ar gael i atal yr angen i wasgaru pan fo'n amhriodol gwneud hynny, gan gynnwys yn ystod y cyfnodau caeedig, dylent gysylltu â CNC i nodi camau lliniaru priodol i leihau'r risg o lygredd. Pan fydd cyngor yn cael ei geisio a'i ddilyn, gellir ystyried hyn mewn perthynas ag unrhyw gamau gorfodi, pan fo hynny'n briodol.
Newidiadau i'r Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio
Gan gydnabod yr heriau sy'n wynebu'r sector amaethyddol ers cyflwyno'r Rheoliadau, rwyf wedi gofyn i swyddogion adolygu a gwneud diwygiadau i'r Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio. Y nod yw darparu dull mwy cymesur, gan gydbwyso'r risg o lygredd i'r amgylchedd a gofynion gweinyddol a thechnegol y Rheoliadau. Rwy'n disgwyl i'r Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio diwygiedig gael eu cyhoeddi erbyn 31 Hydref.
Mae'r newidiadau yn adlewyrchu profiad yr archwiliadau cychwynnol o'r Rheoliadau a gynhaliwyd gan CNC ac yn rhoi mwy o bwyslais rheoleiddiol drwy gryfhau cosbau ar y gweithgareddau y gwyddom eu bod yn achosi llygredd, gan gyflwyno cosbau mwy cymesur pan fo modd gwneud asesiadau llawn o gofnodion a phan nad yw diffyg cydymffurfiaeth technegol yn peri risg o lygredd. At hynny, bydd cosbau Trawsgydymffurfio yn cael eu lleihau ar gyfer y busnesau fferm hynny sydd wedi cymryd camau rhesymol i fodloni'r gofynion storio newydd ond nad ydynt yn cydymffurfio ar hyn o bryd, hyd at 1 Awst 2025. Bydd achosion yn cael eu hadolygu'n unigol gan roi ystyriaeth lawn i'r camau a gymerwyd.
Yn ogystal, pan fo diffyg cydymffurfio â'r Rheoliadau wedi digwydd, mae fy swyddogion a CNC hefyd yn gallu ystyried unrhyw Amgylchiadau Eithriadol na ragwelwyd a allai fod wedi arwain at dorri amodau Trawsgydymffurfio. Pan fo ffermwyr o'r farn bod unrhyw ddiffyg cydymffurfio oherwydd materion annisgwyl y tu hwnt i'w rheolaeth, gellir ystyried amgylchiadau unigol fesul achos.
Pan wneir newidiadau i'r Safonau Dilysadwy Trawsgydymffurfio bydd y rhan fwyaf o achosion o dorri amodau a weithredwyd ers 2021 yn cael eu hadolygu yn seiliedig ar y safonau diwygiedig. Bydd Taliadau Gwledig Cymru yn cysylltu â busnesau fferm unigol i'w hysbysu am unrhyw effaith ar eu tor amodau a'r cosbau ariannol a roddwyd i'w taliadau.