Neidio i'r prif gynnwy

Y Gwir Anrh. Carwyn Jones, Prif Weinidog i Gymru a Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Sefydliad:
Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Gorffennaf 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Bydd yr Aelodau yn ymwybodol bod Llywodraeth Cymru ac Estyn wedi cynnal cyfres o ymgyngoriadau cyhoeddus ar y cyd yn ystod Chwefror a Mai 2013. Roeddent yn holi barn pobl am y newidiadau arfaethedig i gylchoedd arolygu Estyn a’r amserlenni ar gyfer cynlluniau gweithredu ar ôl yr arolygiad. Roedd yr ymgynghoriad yn canolbwyntio ar:

  • y gofyniad i Estyn arolygu o fewn cyfnod penodedig i ddyddiad yr arolygiad diwethaf;
  • hyd y bwlch rhwng arolygiadau;
  • faint o rybudd ynghylch arolygiad gaiff ysgolion a darparwyr gan Estyn;
  • y gofynion i ysgolion gynnal cyfarfodydd gyda rhieni cyn arolygiad;
  • y gofyniad am holiaduron rhieni/gofalwyr a dysgwyr;
  • amser i baratoi cynllun gweithredu ar ôl yr arolygiad.

Yn sgil yr ymgynghori, gwelwyd bod cefnogaeth aruthrol i’w gwneud yn anoddach rhagweld pryd byddai’r arolygiad nesaf. Roedd y mwyafrif a ymatebodd o’r farn mai cylch 6 mlynedd oedd yr opsiwn gorau ac yn cytuno y dylid parhau i gynnal cyfarfodydd â rhieni cyn arolygiad a holiaduron rhieni a dysgwyr. Roedd yr ymatebion yn gymysg o ran lleihau’r rhybudd a roddir a byrhau’r amserlen ar gyfer paratoi’r cynllun ar ôl yr arolygiad. Er hyn, roedd y mwyafrif yn cytuno bod angen i’r cyfnod a roddir i’w paratoi fod yn gyson ym mhob sector addysg, ac awgrymwyd mai’r cyfnod cyfredol o 45 diwrnod gwaith oedd fwyaf addas.

Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi drafftio dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad. Cyhoeddwyd crynodeb lawn, gan gynnwys ymatebion Llywodraeth Cymru ac Estyn i’r casgliadau a’r cynigion ar gyfer y newidiadau ar wefan Llywodraeth Cymru ym mis Chwefror 2014. 

Rydym wedi ystyried y dadansoddiad o’r ymatebion i’r ymgynghoriad a’r cynigion ar gyfer newidiadau. Rydym yn cytuno â’r cynigion a roddir gerbron a hoffem dynnu’ch sylw at y newidiadau canlynol i’r rheoliadau, yn sgil y cynigion hyn.

  • Cael gwared ar y cysylltiad rhwng arolygiadau a gynhaliwyd yn y gorffennol ac arolygiadau i ddod drwy ei gwneud yn ofynnol bod ysgolion a lleoliadau addysg yn cael eu harolygu o leiaf unwaith bob 6 mlynedd.

Bydd y newid hwn yn cyfyngu ar allu ysgolion a lleoliadau addysg i allu rhagweld pryd y cynhelir eu harolygiad nesaf a bydd yn eu hannog i fod yn barod am arolygiad yn barhaus.

  • Cael gwared ar y gofyniad i ysgolion roi tair wythnos o rybudd cyn cyfarfod â rhieni cyn arolygiad.

Mae cael gwared â’r gofyniad hwn yn rhoi’r hyblygrwydd i Estyn roi llai o rybudd i ysgolion am arolygiadau os mai dyna roedd am ei wneud.

  • Byrhau’r cyfnod ar gyfer llunio cynlluniau gweithredu yn dilyn arolygiad i 20 diwrnod gwaith.

Rydym o’r farn y dylid creu cynlluniau gweithredu yn gyflym ac fel mater brys ac y dylid mynd i’r afael â materion a godir mewn ysgol, neu leoliad addysg arall, yn sgil arolygiad, cyn gynted â phosibl. Bydd cwtogi ar y cyfnod ar gyfer llunio cynllun gweithredu ar ôl arolygiad yn caniatáu i hynny ddigwydd.

Bydd Rheoliadau Addysg (Diwygiadau sy’n Ymwneud ag Arolygu Addysg a Hyfforddiant) (Cymru) 2014 yn cyflwyno’r newidiadau hyn. Mae’r Rheoliadau hyn wedi’u gwneud a dônt i rym ar 1 Medi 2014.

Mae’r newidiadau hyn yn bwysig ac mae’n hanfodol eich bod chi, ysgolion, lleoliadau addysg a rhieni yn ymwybodol ohonynt. Dros amser, drwy drafod gydag Estyn, byddwn yn ystyried effaith y newidiadau hyn i’r broses arolygu ac, yn y pen draw, ar safonau addysg.