Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Medi 2013
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Roedd y Deyrnas Unedig ymhlith y cyntaf i ddefnyddio ynni niwclear ac mae gwastraff ymbelydrol wedi cael ei gynhyrchu yma ers yr 1950au. Mae cael gwared ar wastraff ymbelydrol yn fater datganoledig ac mae Llywodraeth Cymru wedi cymryd rhan yn y Rhaglen Rheoli Gwastraff Ymbelydrol yn Ddiogel ers ei chreu yn 2001. Mae wedi ymrwymo i sicrhau diogelwch hirdymor gwastraff ymbelydrol a gweithredu fframwaith gwaredu sy’n addas i anghenion Cymru.

Yn 2006, argymhellodd y Pwyllgor Annibynnol ar Reoli Gwastraff Ymbelydredd i Lywodraeth y Deyrnas Unedig (CoRWM) a’r gweinyddiaethau datganoledig y dylai gwastraff ymbelydrol actifedd uwch gael ei reoli yn yr hirdymor drwy ei waredu’n ddaearegol. Hefyd, argymhellodd CoRWM y dylid edrych am gymuned a fyddai’n barod i fod yn gartref i gyfleuster gwaredu daearegol ac y dylid storio’r gwastraff yn ddiogel tan fod cyfleuster o’r fath yn barod. Yn ogystal â hyn, dylid cyflawni gwaith ymchwil a datblygu parhaus. 

Yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, ym mis Mehefin 2008 cyhoeddwyd y Papur Gwyn ‘Rheoli Gwastraff Ymbelydrol yn ddiogel: fframwaith ar gyfer gwaredu’n ddaearegol’ (‘Radioactive Waste Safely: a framework for implementing geological disposal’) gan Lywodraeth y DU, Llywodraeth Cynulliad Cymru, fel y’i galwyd bryd hynny a Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon. Nodir polisi cyfredol Llywodraeth Cymru yn y Papur Gwyn hwnnw o 2008: mae Llywodraeth Cymru wedi gohirio’r penderfyniad ar waredu’n ddaearegol. Mae’r Papur Gwyn yn nodi, os byddai cymuned yng Nghymru yn dymuno mynegi diddordeb, y dylai wneud hynny i Lywodraeth Cymru a fyddai, bryd hynny, yn ystyried ei safbwynt a’r mynegiad o ddiddordeb.

Yn dilyn Papur Gwyn 2008, mynegodd sawl cyngor lleol yng ngorllewin Cumbria (Cynghorau Bwrdeistrefi Copeland ac Allerdale a Chyngor Sir Cumbria) ddiddordeb yn y broses o ganfod lleoliad i gyfleuster gwaredu digidol yng Ngorllewin Cumbria. Ffurfiwyd corff partneriaeth rhwng y cynghorau i ystyried y manylion a dechreuwyd, heb unrhyw ymrwymiad, drafodaethau gydag Adran Ynni a Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig. Ym mis Ionawr, penderfynodd Cyngor Sir Cumbria na fyddai’n symud ymlaen i gam nesaf y broses ac felly daeth y trafodaethau hynny i ben.

Mae Adran Ynni a Newid Hinsawdd y Deyrnas Unedig yn cynnal yr ymgynghoriad presennol yn Lloegr i geisio barn y cyhoedd am newidiadau posibl i’r broses o ddewis safle ar gyfer cyfleuster gwaredu daearegol, gan ddatblygu gweithgareddau ymgysylltu â’r cyhoedd a phrofiadau eraill hyd yn hyn. Mae’r ymgynghoriad yn cadarnhau bod y parodrwydd i wneud yn parhau i fod yn hollbwysig o ran canfod lleoliad ar gyfer cyfleuster o’r fath.

Rwyf o’r farn fod yr ymgynghoriad hwn yn trafod materion y mae gan bobl Cymru’r hawl i gael gwybod amdanynt a materion y dylent gael cyfle i fynegi barn amdanynt. Rwyf, felly, wedi cyhoeddi’r papur ymgynghori yng Nghymru. Er mwyn sicrhau bod buddiannau Cymru’n cael eu hystyried wrth ddatblygu polisïau yn y maes hwn, bydd Llywodraeth Cymru’n parhau i chwarae rôl yn y Rhaglen Rheoli Gwastraff Ymbelydrol yn Ddiogel. 

Fodd bynnag, ar hyn o bryd, mae Llywodraeth Cymru yn parhau â’i pholisi o ohirio penderfyniad ar waredu’n ddaearegol ac felly nid yw’n cadarnhau y bydd yn cefnogi rhoi unrhyw gynigion sydd yn y papur ymgynghori hwn ar waith yng Nghymru yn y dyfodol, nac yn mabwysiadu polisïau sy’n gyson â nhw.

Mae Gweithrediaeth Gogledd Iwerddon hefyd yn cyhoeddi’r ymgynghoriad. 

Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyflwyno yn ystod y toriad er mwyn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau yn dymuno i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar hyn pan fydd y Cynulliad yn ailgychwyn, rwyf yn fwy na pharod i wneud hynny.