Neidio i'r prif gynnwy

Ken Skates AS, Gweinidog yr Economi, Trafnidiaeth a Gogledd Cymru

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Gorffennaf 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn i hysbysu aelodau, yn unol â’r egwyddorion a ymgorfforir yn y ddogfen Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, fy mod wedi cytuno i ddileu rhan o’r costau yr ysgwyddwyd gan Lywodraeth Cymru oddi ar werth gwaith, yn dilyn y penderfyniad i beidio â bwrw ymlaen â Chynllun yr M4: Coridor o amgylch Casnewydd.   

Yn unol â gweithdrefnau cyfrifyddu safonol, a’r adolygiad o werth asedau y dylid ei gynnal, cynhwysir y penderfyniad hwn yng nghyfrifon Llywodraeth Cymru ar gyfer 2019/20.

O ran cynllun yr M4, ar gyfer gwaith datblygu roedd y gwariant, gan gynnwys arolygon amgylcheddol, data o archwiliadau tir a modelau trafnidiaeth sydd, er iddynt gael eu cynhyrchu ar gyfer gwaith ar y draffordd, yn ymwneud ag ardal helaeth yn Ne-ddwyrain Cymru.  

Mae rhai o’r deunyddiau hyn yn cael eu defnyddio gan Gomisiwn Trafnidiaeth De-ddwyrain Cymru ac, felly, gellid gwireddu eu gwerth drwy eu defnyddio ar gyfer amrediad o brosiectau neu raglenni seilwaith eraill, ac mae ganddynt werth posibl yn y dyfodol. Mae cryn dir a nifer o adeiladau a brynwyd fel rhan o’r gwaith, y mae ganddynt werth ar gyfer y dyfodol, wedi cael eu cynnwys yn y costau sydd ar ôl.   

Y ffigur sydd wedi cael ei asesu ar gyfer lleihau gwerth y gwariant hanesyddol sy’n gysylltiedig â Phrosiect yr M4: Coridor o amgylch Casnewydd a Rhaglen Mesurau Gwella Coridor yr M4 flaenorol yw £43.1 miliwn. Mae’r costau a ddilëwyd yn gysylltiedig â gweithgareddau na ellir eu defnyddio yn y dyfodol, er enghraifft, costau gweinyddol yr Ymholiad Cyhoeddus. Bydd gweddill y costau yn cael eu hadolygu yn gyfnodol, fel sy’n ofynnol gan y ddogfen Rheoli Arian Cyhoeddus Cymru, i sicrhau bod ganddynt werth o hyd yn y dyfodol.