Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, Gweinidog dros Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
18 Chwefror 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cododd Jocelyn Davies AC bryderon yn y Cynulliad ar 14 Ionawr 2014 am ddigwyddiadau niweidiol yn gysylltiedig â llawdriniaethau ar gyfer problemau gyda’r bledren gan ddefnyddio tapiau di-densiwn y wain a rhwyllau.  Rwyf wedi ymgymryd â’r gwaith o baratoi Datganiad Ysgrifenedig ar y mater hwn.  

Mae Anymataliaeth Wrinol yn symptom cyffredin all effeithio ar ferched o bob oed, gan amrywio’n fawr o ran difrifoldeb a natur. Er mai anaml y bydd yn peryglu bywyd rhywun, gall anymataliaeth gael effaith ddifrifol ar les corfforol, seicolegol a chymdeithasol yr unigolion sy’n dioddef.

Cyhoeddodd Y Sefydliad Cenedlaethol dros Iechyd a Rhagoriaeth Glinigol (NICE) ganllaw am y tro cyntaf ar reoli Anymataliaeth Wrinol mewn merched yn 2006 a diweddariad ar y canllaw (Canllaw Clinigol CG171) ym mis Medi 2013. Cefnogir y canllaw hwn gan ddwy set o ganllawiau gweithdrefnau ymyriad:

  • ar atgyweirio cwymp wal y wain drwy lawdriniaeth gan ddefnyddio rhwyll (IPG267) a 
  • sacrocolpopecsi gan ddefnyddio rhwyll ar gyfer atgyweirio cwymp cromen y wain (IPG283)

Comisiynodd Asiantaeth Rheoli cynnyrch Gofal Iechyd Meddygol (MHRA) Brifysgol Efrog i adolygu’r llenyddiaeth a gyhoeddwyd ar y digwyddiadau niweidiol yr adroddir amlaf amdanynt, yng ngoleuni’r pryderon a fynegwyd gan grwpiau cleifion am dâp di-densiwn y wain a gweithdrefnau rhwyll. Adroddodd Consortiwm Economeg Iechyd Prifysgol Efrog yn 2012 ynglŷn â chyfraddau digwyddiadau niweidiol cyffredin sy’n gysylltiedig â Thapiau Di-densiwn y Wain ar gyfer trin straen anymataliaeth wrinol a rhwyllau ar gyfer cwymp organau’r pelfis.

Yn gryno, roedd yr adroddiad yn cadarnhau:

  • fod digwyddiadau niweidiol sy’n gysylltiedig â’r amrywiol dechnegau llawdriniaethol sy’n defnyddio Tapiau Di-densiwn y Wain ar gyfer Straen Anymataliaeth Wrinol fel arfer o fewn yr amrediad 1-3% (9% ar gyfer dirywiad mewn swyddogaeth rywiol i un dechneg); a
  • mae cyfraddau digwyddiadau niweidiol gan ddefnyddio rhwyllau’r wain ar gyfer cwymp organau’r pelfis o fewn yr amrediad 2-6% ar gyfer y rhan fwyaf o ganlyniadau, ond 14-15% ar gyfer dirywiad mewn swyddogaeth rywiol.

Daeth yr adroddiad i’r canlyniad nad oedd dehongli’r darganfyddiadau hyn yn rhwydd gan fod nifer o gleifion yn profi symptomau megis problemau rhywiol cyn cael llawdriniaeth, a chredir fod cyfraddau digwyddiadau niweidiol ar gyfer llawdriniaeth heb ddefnyddio mewnblaniadau, yr un mor uchel neu’n uwch na’r rhai sydd yn defnyddio mewnblaniadau. Teimlwyd bod angen mwy o wybodaeth ac mae disgwyl i dreial sydd ar y gweill i edrych ar dystiolaeth o ddiogelwch cymharol trwsio cwymp gan ddefnyddio dulliau trwsio’r meinwe cynhenid a mewnblaniadau rhwyll, adrodd yn 2014.

Cyhoeddwyd llythyr i Gyfarwyddwyr Meddygol GIG Cymru gan Dr Heather Payne, yr Uwch Swyddog Meddygol, ym mis Ionawr 2013 ynglŷn â rheolaeth lawdriniaethol straen anymataliaeth wrinol a chwymp organau’r pelfis. Roedd y llythyr hwn yn tynnu sylw at argymhellion adroddiad Prifysgol Efrog a’r angen i gydymffurfio gyda chanllawiau presennol NICE a chanllawiau proffesiynol parod ynglŷn â defnydd diogel a phriodol o’r dyfeisiadau hyn.

Wrth ymateb i bryderon cynharach, datblygodd yr MHRA, drwy weithio gyda dwy gymdeithas broffesiynol - Cymdeithas Brydeinig Gynaecoleg Wrolegol (BSUG) a Chymdeithas Brydeinig y Llawfeddygon Wrolegol (BAUS), amrediad o ddeunyddiau ar gyfer clinigwyr a chleifion, gan gynnwys taflenni, a set o gwestiynau y dylai cleifion eu gofyn i’w llawfeddyg wrth ystyried llawdriniaeth bosibl. Mae’r rhain ar gael ar wefan MHRA.

Barn yr MHRA ar hyn o bryd yw bod rhwyll a mewnblaniadau tâp yn llawdriniaeth ddiogel ac effeithiol, i’r mwyafrif o ferched, ond fel yn achos pob llawdriniaeth, mae rhywfaint o risg. Er bod nifer fechan o ferched wedi profi effeithiau gofidus a difrifol, mae’r dystiolaeth ar hyn o bryd yn dangos pan fydd y cynnyrch yma’n cael eu defnyddio’n gywir, y gallant helpu gyda symptomau gofidus y cyflyrau hyn, ac oherwydd hynny, mae’r manteision yn gorbwyso’r peryglon.

Mae’r MHRA yn parhau i annog adrodd yn wirfoddol am ddigwyddiadau niweidiol gan bob gweithiwr gofal iechyd, yn ogystal â gofalwyr, cleifion a’r cyhoedd, er y derbynnir mai prin iawn yw’r adrodd am gymhlethdodau. Nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i gyflwyno adrodd gorfodol am ddigwyddiadau niweidiol am ddyfeisiadau meddygol gan weithwyr gofal proffesiynol; ond, mae’r sefyllfa’n cael ei hadolygu’n gyson er mwyn sicrhau bod systemau priodol mewn lle i hwyluso’r adrodd am ddigwyddiadau niweidiol o bob ffynhonnell. Ynghlwm yn Atodiad 1, mae’r data sydd ar gael ynglŷn â nifer y gweithdrefnau hyn a wnaed, ond hoffwn dynnu eich sylw  at gyfyngiadau’r data.  

Yn ddiweddar (Rhagfyr 2013), mae GIG Lloegr wedi rhoi rhagor o gyngor i glinigwyr ynglŷn â’r mater hwn i dynnu eu sylw at ganllawiau a ddiweddarwyd a chrynhoi nifer o gamau y tynnir sylw atynt isod, ac mae’r canllaw diwygiedig hwn yn cael ei gyhoeddi ar hyn o bryd i Gyfarwyddwyr Meddygol y GIG yng Nghymru, gan gynnwys yr angen i ddangos arfer dda yn glinigol mewn:

  1. Caniatâd  safoni’r holl brosesau caniatâd er mwyn cydymffurfio â’r dystiolaeth ddiweddaraf a rheoli risg ar bob lefel o’r unigolyn, GIG lleol ac ar lefel y DU hefyd.
  2. Archwilio cydymffurfio ag argymhellion NICE y dylai gosod rhwyll fod yn rhan o archwilio rheolaidd; a bod pob gweithdrefn a llawdriniaeth anymataliaeth, ond yn enwedig y rhai sy’n cynnwys rhwyll, yn cael eu cofnodi ar fas data cydnabyddedig
  3. Adrodd am ddigwyddiadau niweidiol: adrodd am bob digwyddiad niweidiol yn ymwneud a Rhwyll a ddefnyddir mewn llawdriniaeth wrth yr Asiantaeth Rheoli Cynnyrch Gofal Iechyd (MHRA)
  4. Llawdriniaeth i dynnu rhwyll: dangos lefelau perthnasol o ofal arbenigol (drwy archwiliad o nifer a chanlyniadau llawdriniaethau)