Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
13 Medi 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw, rwy'n lansio ymgynghoriad cyhoeddus 12 wythnos ar sut y gall Cymru reoli llygredd aer a sŵn yn well.

Mae dau amcan i'r ymgynghoriad. Yn gyntaf, rydym yn gofyn barn ar nifer o gynigion penodol i'w rhoi ar waith erbyn gwanwyn 2017. Datblygwyd y cynigion hyn drwy drafodaeth gyda thimau ansawdd aer a sŵn Awdurdodau Lleol, yn Iechyd Cyhoeddus Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru. Maent yn canolbwyntio'n bennaf ar ddiwygio, drwy ganllawiau statudol newydd, y drefn rheoli ansawdd aer lleol a sefydlwyd o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae'r system hirsefydlog hon, sy'n cwmpasu'r DU gyfan, yn ei gwnned yn ofynnol i Awdurdodau Lleol fonitro ansawdd yr aer, nodi ardaloedd nad ydynt yn cydymffurfio â'r amcanion ansawdd aer cenedlaethol a rhoi cynlluniau gweithredu ansawdd aer lleol ar waith sy'n arwain at gydymffurfio â'r amcanion hynny. Mae'r drefn bresennol ar gyfer rheoli ansawdd aer lleol wedi bod yn llwyddiannus o ran nodi nifer fawr o ardaloedd lle ceir lefelau uchel o lygredd, fodd bynnag, prin fu ei llwyddiant o ran eu dileu.

Mae angen i ni chwalu'r rhwystrau sy'n ein hatal rhag cymryd camau gweithredu effeithiol ar ansawdd aer lleol. Bydd ein deddfwriaeth newydd o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 a Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 yn helpu i ysgogi'r newidiadau sydd eu hangen. Mae'r cynigion yn yr ymgynghoriad yn pwysleisio pwysigrwydd integreiddio polisïau a'r manteision iechyd uniongyrchol a hirdymor yn sgil lleihau amlygiad i lygredd ar draws y boblogaeth gyfan ochr yn ochr â gweithredu mewn mannau lle ceir lefelau uchel o lygredd.

Mae ail elfen yr ymarfer ymgynghori yn gofyn beth arall y dylid ei wneud i fynd i'r afael â llygredd yn yr aer. Mae llygredd yn yr aer yn effeithio ar ganlyniadau iechyd cymunedau ledled Cymru ac mae'n hanfodol ein bod yn gweithio gyda'n gilydd ac yn mynd i'r afael â'r pryderon hyn.

Ni ddylai'r lefel o ddiogelwch i iechyd dynol a'r amgylchedd leihau o ganlyniad i adael yr Undeb Ewropeaidd. Gyda'r sbardun a'r momentwm a gyflwynwyd drwy Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a'n Deddf yr Amgylchedd newydd, rwy'n hyderus bod gennym y dulliau i ganfod yr atebion sydd eu hangen a'u rhoi ar waith.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/rheoli-ansawdd-aer-swn-yng-nghymru