Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Heddiw rwy’n cyhoeddi yr ymatebion a dderbyniwyd i’n hymgynghoriad ar ansawdd aer a sŵn lleol, yn ogystal â chrynodeb Llywodraeth Cymru sy’n cynnwys ein hymateb i’r ymarfer ymgynghori.

Roedd dau amcan i’r ymgynghoriad. Yn gyntaf, gofynnwyd am farn pobl ar 15 o gynigion penodol. Roedd rhain yn canolbwyntio’n bennaf ar adnewyddu, trwy ganllawiau statudol newydd, y drefn o reoli ansawdd aer lleol (LAQM) a sefydlwyd gan Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Mae’r system hon wedi’i hen sefydlu yn y DU ac yn ei gwneud yn ofynnol i Awdurdodau Lleol fonitro ansawdd yr aer, nodi ardaloedd nad ydynt yn cydymffurfio, ac amcanion o ran ansawdd yr aer yn genedlaethol, a rhoi cynlluniau ar waith ar gyfer gweithredu ar ansawdd yr aer yn lleol, sy’n arwain at gydymffurfio â’r amcanion hynny. Er bod LAQM wedi bod yn llwyddiannus wrth nodi nifer fawr o ardaloedd â phroblemau llygredd, ychydig o lwyddiant a gafodd yn eu dileu, ac mae angen inni gael gwared ar y rhwystrau er mwyn gweithredu’n effeithiol yn y maes hwn. Mae’r cynigion yn ein hymgynghoriad yn pwysleisio pwysigrwydd integreiddio polisïau a chydweithio a manteision iechyd o leihau llygredd ar draws y boblogaeth gyfan, ar yr un pryd a chymerwyd camau o ran yr ardaloedd sydd â phroblemau llygredd yn lleol.

Roedd mwyafrif yr 50 o ymatebion a ddaeth i law yn cefnogi ein bwriad o ran polisïau ansawdd yr aer, ac rwy’n bwriadu datblygu mwyafrif y cynigion gafodd eu drafftio, gan roi rhagor o eglurhad ar ffurf canllawiau polisi diwygiedig ble y bo angen. Mae’r prif newidiadau i’r mesurau a bennwyd yn y ddogfen ymgynghori yn gysylltiedig â’r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno adroddiadau cynnydd blynyddol gan yr Awdurdodau Lleol, a’r amserlen a ragwelir ar gyfer cynhyrchu templed newydd ar gyfer yr adroddiad cynnydd blynyddol.

Roedd ail elfen yr ymgynghoriad yn holi beth arall y dylid ei wneud i fynd i’r afael â llygredd yn yr aer. Rydym wedi rhoi’r ymatebion mewn grwpiau yn y rhan hwn i ddau gategori cyffredinol, y rhai sy’n gysylltiedig â pholisïau a chanllawiau cynllunio a’r rhai sy’n gysylltiedig â materion eraill.

Bydd yr ymatebion a gafwyd ar bolisïau a chanllawiau cynllunio yn cael eu hystyried yn yr adolygiad sydd ar ddod o Bolisi Cynllunio Cymru a chynhyrchu Fframwaith Datblygu Cenedlaethol Cyntaf Cymru. Roedd yr ymatebion hyn yn cynnwys galwad i ddiweddaru TAN11: Sŵn a chreu canllaw cenedlaethol ar gynllunio sy’n gysylltiedig ag ansawdd yr aer. Gall y canllawiau chwarae rhan bwysig i atal lefelau annerbyniol llygredd aer a sŵn o ganlyniad i ddatblygiadau, a byddaf yn ystyried y mater hwn yn llawnach yn y man.

Derbyniwyd ystod eang o sylwadau ychwanegol nad oedd yn gysylltiedig â naill ai’r 15 o gynigion penodol na materion yn ymwneud â chynllunio. Bydd y materion hyn o gymorth mawr i lywio ansawdd yr aer a blaenoriaethau sŵn ar gyfer gweddill tymor y Cynulliad hwn. Yng nghrynodeb Llywodraeth Cymru o’r ymarfer ymgynghori rydym wedi ymateb i nifer o’r awgrymiadau a gafwyd o dan y pennawd hwn. Bydd angen mwy o amser i ystyried y gweddill yn llawn.

Ochr yn ochr â’r ymatebion hyn, byddwn yn ystyried yr ymatebion i ymgynghoriad ar y cyd sydd ar ddod gyda gweinyddiaethau eraill y DU ar gynllun newydd ar gyfer ansawdd yr aer, er mwyn sicrhau bod terfynau yr UE ar gyfer nitrogen deuocsid yn yr aer yn cael eu pennu yng Nghymru a gweddill y DU cyn gynted â phosib. Daw yr ymgynghoriad i ben ar 24 Ebrill.

https://ymgyngoriadau.llyw.cymru/ymgyngoriadau/rheoli-ansawdd-aer-swn-yng-nghymru