Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Amgylchedd a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mehefin 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Rwy'n cyhoeddi heddiw ganllaw polisi newydd i Awdurdodau Lleol yng Nghymru ar reoli ansawdd aer lleol.

Rhaid i Awdurdodau Lleol roi ystyriaeth i'r arweiniad hwn wrth wneud eu dyletswyddau o ran rheoli ansawdd aer lleol o dan Ddeddf yr Amgylchedd 1995. Rydym wedi datblygu'r canllaw yn dilyn yr ymgynghoriad a gynhaliwyd yn gynharach eleni.

Hanfod y canllaw newydd yw'r gofyn bod Awdurdodau Lleol yn dilyn y pum ffordd o weithio a ddisgrifir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) wrth gynnal eu gwaith ar reoli aer lleol. Mae hyn yn golygu cynllunio ar gyfer y tymor hir, integreiddio polisïau all effeithio ar ansawdd aer, cynnwys pobl, cydweithio ag eraill a rhwystro problemau rhag gwaethygu neu rhag codi yn y lle cyntaf.

Cyhoeddir y canllaw ar Ddiwrnod Aer Glân cyntaf y Cynllun Gweithredu Byd-eang. Bydd y diwrnod hwn o weithredu'n codi ymwybyddiaeth am effeithiau niweidiol llygredd aer ac yn annog pobl i leihau'u hallyriadau ac i osgoi dod i gysylltiad â llygredd aer.

Byddwn yn bwrw ymlaen â rhaglen o weithgareddau addysgol a chodi ymwybyddiaeth yng Nghymru dros y misoedd nesaf.

Bydd gweithgareddau'r Diwrnod Aer Glân yn cael eu cynnal yn bennaf yn y dinasoedd a'r rhanbarthau hynny yn y DU sy'n creu ardaloedd allyriadau isel neu ardaloedd aer glân. Bydd Llywodraeth Cymru'n datblygu fframwaith ardal aer glân ar gyfer Cymru. Rwy'n disgwyl ymlaen at roi adroddiad i Aelodau'r Cynulliad ar hynt y gwaith hwn ar ôl toriad yr haf.

Canllawiau polisi

cleanairday.org.uk (Saesneg yn unig) (dolen allanol)