Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Mai 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016


Ar Chwefror 16 2011 pasiodd Cynulliad Cenedlaethol Cymru un o’r enghreifftiau cyntaf o ddeddfwriaeth breifat gan Aelodau, Mesur Diogelwch Tân Domestig (Cymru) 2011 (y Mesur). Cyflwynwyd y Mesur gan Ann Jones AC. Diben y ddeddfwriaeth hon yw galluogi Gweinidogion i gyflwyno rheoliadau sy’n ei gwneud hi’n orfodol i bob eiddo domestig newydd ac eiddo domestig a addasir i gynnwys systemau awtomatig ar gyfer atal tân. Mae Llywodraeth Cymru wedi cydnabod ewyllys y Cynulliad a fynegwyd yn glir ac mae wedi ystyried mewn manylder y cwestiynau dyrys a godwyd. Rydym yn derbyn bod cost ynghlwm â chyflwyno systemau chwistrellu ond mae’n rhaid i ni, fel cymdeithas, geisio atal unrhyw farwolaethau ac anafiadau a allai ddeillio o danau mewn tai.

Bydd Llywodraeth Cymru’n mynd ati yn awr i ddatblygu cynigion ymgynghori sy’n ceisio ei gwneud hi’n ofynnol i systemau atal tân gael eu gosod mewn pob eiddo preswyl newydd ac eiddo preswyl a addasir. Byddwn yn bwrw ymlaen â hyn fel mater o flaenoriaeth. Er na allwn reoli rhai agweddau ar y broses reoleiddio ein nod yw sicrhau y daw’r rheoliadau i rym ym mis Medi 2013, yn unol â’n rhaglen amlinellol.        

Wrth ystyried yr achos dros y Mesur, gofynnodd Pwyllgor Deddfwriaethol y Cynulliad i Lywodraeth Cymru archwilio’r costau a’r manteision manwl cyn llunio rheoliadau o dan y Mesur. Mae’r Sefydliad Ymchwil Adeiladu (BRE) wedi cynnal dadansoddiad ar ran Llywodraeth Cymru o gost a budd y cynnig i gyflwyno systemau chwistrellu mewn eiddo preswyl newydd. Ceir crynodeb o’r gwaith hwn yn Atodiad A ac rwy’n cyhoeddi’r adroddiad hwn ar wefan Llywodraeth Cymru ac yn rhoi copi ohono yn Llyfrgell yr Aelodau heddiw.  

Amlinella’r canlynol gefndir y mater ynghyd â bwriadau Llywodraeth Cymru o ran mynd i’r afael â’r rheoliadau o dan y Mesur.

Yr achos dros reoleiddio

Mae nifer y marwolaethau yn sgil tanau yn y cartref wedi lleihau’n sylweddol dros y deng mlynedd diwethaf. Mae synwyryddion mwg gwifredig eisoes yn orfodol mewn eiddo preswyl newydd yn unol â rheoliadau adeiladu. Mae synwyryddion gwifredig hefyd wedi’u gosod yn y rhan fwyaf o dai cymdeithasol yn sgil rhaglen fuddsoddi sylweddol gan Lywodraeth Cymru. Disgwylir i’r sigaréts sy'n llai tebygol o achosi tân a gyflwynwyd ym mis Tachwedd 2011 leihau nifer y tanau a gaiff eu cychwyn gan sigaréts a nifer y marwolaethau sy’n gysylltiedig â thân.      

Er gwaethaf y cynnydd hwn, fodd bynnag, mae nifer y marwolaethau a’r anafiadau yn parhau’n rhy uchel. Dros y 10 mlynedd diwethaf mae 17 o farwolaethau a 503 o anafiadau wedi’u hachosi gan dân mewn eiddo preswyl yng Nghymru bob blwyddyn, ar gyfartaledd.  

Yn ddiamau mae systemau atal tân sydd wedi’u cynllunio a’u cynnal yn briodol yn achub bywydau ac yn atal anafiadau. Maent hefyd yn lleihau’r difrod a achosir gan danau. System chwistrellu â Safon Prydain yw’r system sy’n cynnig y lefel uchaf bosibl o ddiogelwch rhag tân ar hyn o bryd. Mae systemau eraill ar gael, fodd bynnag, ond nid yw’r dystiolaeth o’u heffeithiolrwydd mor gadarn ac mae rheoleiddio’n anodd yn sgil diffyg safonau.

Mae adroddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu yn cyflwyno dadansoddiad o’r gost a’r budd a fyddai ynghlwm â gosod systemau chwistrellu mewn cartrefi gofal newydd, neuaddau preswyl ac o bosibl mewn fflatiau, fflatiau lloches a thai traddodiadol amlfeddiannaeth.

Mae’r astudiaeth yn dangos bod yr achos dros gost a budd yn llai cadarn o ran rheoleiddio pob eiddo domestig newydd. Cred Llywodraeth Cymru, fodd bynnag, fod angen bod yn ofalus wrth ystyried unrhyw bolisi a allai ddiogelu bywydau pobl. Byddai gosod systemau chwistrellu mewn eiddo preswyl newydd yn diogelu tua 6,000 o anheddau newydd bob blwyddyn a byddai’n helpu i’w gwneud yn fwy diogel rhag tân.

Nid diffyg systemau chwistrellu yw unig achos marwolaethau ac anafiadau yn sgil tân, fodd bynnag. Mae ffactorau amrywiol eraill sy’n cynnwys namau corfforol neu feddyliol, henaint, tlodi, teuluoedd â phlant ifanc oll yn cysylltu marwolaethau yn sgil tân ag amddifadedd cymdeithasol. Byddwn yn comisiynu rhagor o waith er mwyn ceisio deall yn well y ffactorau risg tân sy’n bodoli o fewn y stoc tai presennol a pha gamau y byddai modd eu cymryd i geisio mynd i’r afael â hwy yn y dyfodol.

Mathau o systemau chwistrellu

Y brif safon ynghylch systemau chwistrellu ar gyfer eiddo preswyl yng Nghymru a Lloegr yw’r system â Safon Prydain 9251:2005. Mae angen i ddigon o bwysedd ddod o’r prif gyflenwad dŵr neu o danc dŵr ar gyfer cynnal y system hon. Yn fwy na thebyg byddai’n rhaid gosod tanc dŵr a phwmp ar wahân ar ei chyfer mewn cartrefi yng Nghymru. O’r herwydd mae’r dadansoddiad o’r gost a’r budd yn seiliedig ar gostau sy’n cynnwys gosod system o’r fath mewn eiddo preswyl newydd. Amcangyfrifir y byddai’n costio £3075 i’w gosod mewn eiddo preswyl a £879 i’w gosod mewn fflat (ceir rhagor o fanylion ynghylch y costau yn adroddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu ynghylch y costau a’r manteision).

Mae nifer o systemau eraill sy’n atal tân hefyd yn cael eu marchnata ar draws y byd, gan gynnwys systemau pwysedd isel neu systemau syml sy’n seiliedig ar y defnydd o’r cyflenwad dŵr presennol. Gallai systemau rhatach fod yn addas i’w defnyddio yng Nghymru ond nid oes digon o dystiolaeth o’u heffeithiolrwydd o’u cymharu â system Safon Prydain.

Dylai camau atal tân gael eu cymryd mewn ystafelloedd lle y mae tanau fwyaf tebygol o gychwyn. Gan y disgwylir i’r sigaréts sy'n llai tebygol o achosi tân leihau nifer y marwolaethau yn sgil tân mewn ystafelloedd gwely a lolfeydd, y gegin yw’r ystafell sy’n peri’r risg fwyaf. Mae rhai systemau ar gyfer ceisio diffodd tanau mewn cegin eisoes yn cael eu marchnata ac efallai y byddai modd eu hystyried at ddibenion rheoleiddio petai rhagor o dystiolaeth ar gael ynghylch eu heffeithiolrwydd a phetaent yn cael eu datblygu ymhellach. Nid oes nifer uchel ohonynt wedi’u gosod hyd yma.  

Yr Effaith Rheoleiddiol

Nid yw bellach yn hyfyw yn ariannol i adeiladau tai newydd mewn rhai rhannau o Gymru gan y gallai cost y tir a’r costau adeiladu fod yn uwch na’r pris gofyn. Mae’r sefyllfa hon yn amlwg iawn mewn rhannau o Gymoedd De Cymru ac mewn Ardaloedd Adfywio eraill sydd â blaenoriaeth.  

Byddwn yn mynd ati’n fuan i ymgynghori ynghylch cynigion i wella effeithlonrwydd o ran ynni cartrefi newydd yn unol â’n hymrwymiadau ynghylch y newid yn yr hinsawdd (Rhan L Rheoliadau Adeiladu). Fel rhan o’r gwaith hwn rydym wedi ystyried effaith gronnol polisïau ar ddatblygiadau, sy’n cynnwys gosod systemau chwistrellu preswyl.

Bydd yr asesiad effaith rheoleiddiol a fydd yn cyd-fynd â’r cynigion ymgynghori ffurfiol sy’n gysylltiedig â systemau chwistrellu yn seiliedig ar ddadansoddiad y Sefydliad Ymchwil Adeiladu o’r costau a’r manteision.

Datblygu cynigion ar gyfer ymgynghori

Mae rheoliadau a gofynion technegol sy’n gysylltiedig â systemau chwistrellu wrthi’n cael eu llunio, a’r bwriad yw cyflwyno’r rheoliadau yn ystod ail hanner 2013. Bydd y cynigion yn destun ymgynghoriad â’r cyhoedd a byddant yn adlewyrchu cwmpas y Mesur. Bwriedir eu seilio ar gyflwyno systemau awtomatig ar gyfer atal tân mewn llety preswyl newydd a llety preswyl a addasir, sy’n cynnwys cartrefi newydd.  

Gan fod ein polisi arfaethedig yn ymdrin â safonau adeiladu a’r berthynas â Rhan B o’r Rheoliadau Adeiladu, bwriedir ceisio cyngor gan Bwyllgor Cynghori Cymru ar Reoliadau Adeiladu ynghylch datblygu’r cynigion. Bwriedir i arbenigwyr o fewn Gwasanaethau Tân ac Achub ac arbenigwyr o fewn y diwydiant ymuno â’r Pwyllgor ar gyfer y gwaith hwn.    

Mae’r cynigion hyn yn arwyddocaol ac yn hollbwysig wrth i ni geisio hybu diogelwch tân. Bydd Cymru’n chwarae rhan flaenllaw yn y gwaith o leihau risgiau tân a lleihau nifer y marwolaethau a’r anafiadau a achosir mewn tanau y byddai modd eu hatal mewn eiddo preswyl.