Neidio i'r prif gynnwy

Leighton Andrews, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Rhagfyr 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Cyflwynwyd adroddiad terfynol ac argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer Pobl Ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru i Lywodraeth Cymru ar 28 Tachwedd 2012. Fel y dywedodd y Dirprwy Weinidog Sgiliau bryd hynny, bydd Llywodraeth Cymru’n ymateb yn llawn i’r adroddiad a’r argymhellion erbyn diwedd mis Ionawr 2013.

Yn y cyfamser, mae’r Dirprwy Weinidog a minnau’n awyddus i roi eglurder i Aelodau’r Cynulliad a rhanddeiliaid drwy gyhoeddi’r cyfeiriad yr ydym yn bwriadu ei gymryd o ran rheoleiddio cymwysterau.

Yn gyntaf, hoffwn ddiolch i Huw Evans a’r Bwrdd am eu gwaith gwych wrth gynnal adolygiad o gymwysterau i bobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru ac am baratoi adroddiad trylwyr, ystyriol a gwerthfawr. Rwyf yn croesawu’r adroddiad ac mae’r cyfleoedd y mae’n eu cynnig yn rhai cyffrous. Dyma’r adroddiad cyntaf ar gymwysterau ar gyfer y grŵp oedran hwn sy’n benodol i Gymru. Rwyf yn hyderus y bydd y camau y byddwn yn eu cymryd wrth ymateb i’r Adolygiad yn drobwynt ac yn gosod y cyfeiriad i ni yng Nghymru er mwyn i ni gael datblygu system gymwysterau o’r radd flaenaf dros y blynyddoedd i ddod.

Rhyngddyn nhw, roedd gan aelodau’r Bwrdd wybodaeth, dealltwriaeth, arbenigedd a phrofiad helaeth o ddarparu, llunio, rheoleiddio, gwerthuso ac asesu cymwysterau ar draws y sector ysgolion, y sector addysg bellach a’r sector dysgu seiliedig ar waith, drwy gyfrwng y Gymraeg a’r Saesneg. Cyfrannodd y cyflogwyr a’r ymarferwyr addysg uwch wybodaeth rheng flaen o’r farn am gymwysterau a’r hyn sy’n gwneud cymhwyster yn berthnasol ac yn werthfawr. Mae’n adroddiad annibynnol i Lywodraeth Cymru. Fodd bynnag, roeddwn yn falch o weld fod ei argymhellion yn cydnabod y cyd-destun ehangach o ran polisi. Er enghraifft, mae’n cyd-fynd ac yn datblygu’r gwaith yr ydym yn ei wneud mewn perthynas â llythrennedd a rhifedd. O ran graddio Bagloriaeth Cymru, bydd Aelodau’n ymwybodol ein bod, yn ystod yr adolygiad, wedi penderfynu graddio Bagloriaeth Cymru ar Lefel Uwch o fis Medi 2013, er mwyn cynyddu ei drylwyredd a’i werth. Gwnaed hyn ar sail cyngor gan Fwrdd yr Adolygiad – ac mae’r adroddiad yn cefnogi’r penderfyniad.

Mae’r ffordd gynhwysol yr aeth y bwrdd ati i baratoi’r Adroddiad, a’r ffaith ei fod yn seiliedig ar dystiolaeth, wedi cael clod gan sylwebwyr yng Nghymru a thu hwnt. Mae’r ffaith fod yr adolygiad wedi’i seilio ar dystiolaeth ac ar drafodaethau gyda phob grŵp o randdeiliaid yn golygu y gallwn fod yn hyderus y gellir gweithredu’r newidiadau a argymhellir.

Bydd Llywodraeth Cymru’n dadansoddi’r adroddiad dros yr wythnosau i ddod. Fodd bynnag, heddiw, gallaf gadarnhau bod Llywodraeth Cymru eisoes yn gytûn ag un peth yn yr Adolygiad – sef y cynnig yn argymhelliad 5 y dylid cryfhau rheoleiddio cymwysterau yng Nghymru a’i wahanu oddi wrth y Llywodraeth. Rwyf wedi ymrwymo i gryfhau trefniadau rheoleiddio a sicrhau ansawdd, er enghraifft drwy wella’r broses ‘borthgadw’ o ran cymeradwyo cymwysterau gan roi mwy o bwyslais ar berthnasedd, diben a gwerth.

Mae’r Adolygiad yn argymell sefydlu corff cymwysterau newydd a fyddai’n gyfrifol am ddyfarnu cymwysterau a’u rheoleiddio. Derbyniwn yr argymhelliad hwn ac fe weithiwn i sefydlu’r corff newydd hwn, sef “Cymwysterau Cymru”, i reoleiddio a sicrhau ansawdd pob cymhwyster nad yw ar lefel gradd yng Nghymru.

Fel yr argymhellir gan yr Adolygiad, byddwn yn astudio’r model sydd wedi bod ar waith yn yr Alban ers rhai blynyddoedd ac yn ceisio dysgu ohono. Mae’r model hwnnw wedi ennill enw da am ei drylwyredd a’i ansawdd. Fel mae’r Adolygiad yn cydnabod, bydd angen rhoi cryn dipyn o feddwl i sut y bydd Cymwysterau Cymru’n cael ei lywodraethu a’i weithredu a beth fydd ei gylch gwaith a’i strwythur. Rwyf wedi gofyn i swyddogion gomisiynu adolygiad diwydrwydd dyladwy ar fyrder ac, ar sail yr hyn a ganfyddir, ddatblygu cynigion manwl ac achos busnes yn hanner cyntaf 2013 i wneud yn siŵr bod ein ffordd newydd, arfaethedig o weithio yn ddichonadwy ac yn sicrhau gwerth am arian.

Rwyf hefyd yn falch iawn i allu cyhoeddi bod Huw Evans OBE, Cadeirydd yr Adolygiad o Gymwysterau, wedi cytuno i Gadeirio Grŵp Gorchwyl a Gorffen y byddwn yn ei sefydlu’n gynnar yn 2013, er mwyn llywio’r gwaith o sefydlu Cymwysterau Cymru. Bydd y grŵp yn cynghori ar faterion yn ymwneud ag amseru, llywodraethu, strwythurau a diwydrwydd dyladwy. Bydd arbenigedd Huw’n amhrisiadwy wrth gefnogi’r rhaglen newid.  Yn amlwg, bydd creu Cymwysterau Cymru yn effeithio ar CBAC. Rydyn ni eisoes wedi cychwyn trafod gyda’r sefydliad hwnnw ac arweinwyr llywodraeth leol ar y mater hwn ac fe barhawn i drafod. Bydd CBAC yn parhau i fod yn ddarparwr cymwysterau allweddol a gwerthfawr yng Nghymru ac mewn gwledydd eraill wrth i’r trafodaethau hyn fynd yn eu blaenau.

Bydd y Dirprwy Weinidog Sgiliau’n rhoi ymateb llawn Llywodraeth Cymru i’r 41 argymhelliad arall yn yr Adolygiad ym mis Ionawr 2013.