Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
8 Medi 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Mehefin, cyhoeddais yn y Cyfarfod Llawn fod Llywodraeth Cymru wedi dod i gytundeb â Llywodraeth y DU ynghylch sicrhau pwerau ychwanegol i reoleiddio ar gaffael cyhoeddus yng Nghymru.

Rwyf yn falch iawn o roi gwybod i’r pwerau newydd hyn ddod i rym ar 13 Awst, a’u bod yn ddatblygiad o bwys i gefnogi ein dull gweithredu o ran polisi caffael yng Nghymru.

Bydd y gallu i reoleiddio yn cynnig cyfle da i fanteisio i’r eithaf ar y cyfleodd a gynigir gan Gyfarwyddebau Caffael yr UE wedi’u moderneiddio ac i fynd ati i ddefnyddio Datganiad Polisi Caffael Cymru.

Carreg filltir allweddol yw hon yn fy rhaglen i weddnewid caffael cyhoeddus a bydd yn helpu i sbarduno newid ar draws y sector cyhoeddus yng Nghymru.

Mae’n bwysig bod y pwerau newydd hyn yn cael eu defnyddio i sicrhau bod rhwystrau i gymryd rhan mewn caffael cyhoeddus yn cael eu lleihau i fusnesau ac i gefnogi darparu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru mewn ffordd deg ac effeithlon.

Caiff caffael ei ddefnyddio fel galluogydd strategol, gan gyflawni amcanion polisi allweddol. Bydd cefnogi’r agenda trechu tlodi trwy fuddion cymunedol ac arferion tecach ym maes cyflogaeth yn ganolbwynt pwysig ac mae gwaith eisoes ar y gweill gyda rhanddeiliaid allweddol i gwmpasu rheoleiddio posibl.

Rhagwelaf y byddwn yn cyflwyno’r rheoleiddio cyntaf ym maes caffael yng Nghymru yn 2016 a byddaf yn darparu’r manylion diweddaraf ar y cynnydd ym mis Rhagfyr.

Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Byddaf yn hapus i wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau pan fydd y Cynulliad yn ymgynnull eto, os bydd angen.