Neidio i'r prif gynnwy

Mark Drakeford, y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
11 Tachwedd 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ar 6 Mai, rhoddais y wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am y rhaglen waith sy’n cael ei rhoi ar waith i gyflwyno diwygiadau pellach i drefniadau talu am gymorth a gofal cymdeithasol yng Nghymru. Y nod yw sicrhau bod y trefniadau’n fwy teg a chynaliadwy nag y maent ar hyn o bryd. Dyma ddiweddariad pellach.

Bryd hynny, soniais am y gwaith sydd wedi’i gwblhau hyd yma - sef astudiaeth ymchwil annibynnol a gynhaliwyd (a oedd yn nodi’r opsiynau ar gyfer diwygio) ac adroddiad a gyhoeddwyd gan y Grŵp Cynghori Rhanddeiliaid Talu am Ofal (a gyflwynodd ei safbwyntiau ei hun ar yr opsiynau hyn ac ar ddiwygio’n fwy cyffredinol). Cyhoeddais y ddwy ddogfen ar yr adeg honno.

Hefyd, amlinellais y materion cysylltiedig allweddol yr oedd angen bod yn sicr ohonynt er mwyn datblygu ein diwygiadau o gofio’r potensial iddyn nhw ddylanwadu ar natur y newid hwnnw.  Yn eu plith, manylion y cynlluniau diwygio arfaethedig yn Lloegr (ac felly pa gyllid posib allai ddod i Gymru yn sgil yr arian newydd ar gyfer hyn) a’r sefyllfa o ran newidiadau pellach i fudd-daliadau lles a phensiynau (o gofio bod incymau o’r fath yn fodd i bobl dalu am y gofal a’r cymorth maent yn ei dderbyn). Ers hynny, bydd yr aelodau’n ymwybodol o’r ffaith fod llywodraeth y DU wedi cyhoeddi y bydd yn gohirio talu am ddiwygio gofal yn Lloegr, a chadarnhad o unrhyw gyllid dilynol, tan o leiaf 2020. Ar ben hynny, rydym yn dal i ddisgwyl am gadarnhad gan lywodraeth y DU am fanylion diwygio’r wladwriaeth les yn raddol ledled y DU yn y dyfodol.

Mae parhad y sefyllfa hon yn golygu na allaf, yn anffodus, wneud penderfyniadau goleuedig am ddiwygiadau fel y byddwn yn ei ddymuno er mwyn lleihau’r baich ar bobl Cymru o orfod talu am eu gofal a’u cymorth. Er hynny, ni hoffwn weld ein cynnydd hyd yma yn dod i stop yn llwyr ac rwyf wedi gofyn i’m swyddogion ailystyried yr opsiynau ar gyfer diwygio a nodwyd yn ein gwaith ymchwil fel y gallwn fwrw golwg manylach ar gyfleoedd i helpu pobl i dalu am ofal a chymorth. Yn y cyd-destun hwn, rwy’n falch o ddweud ein bod wedi symud ymlaen trwy weithredu’r fframwaith asesu a chodi tâl ariannol dan Ddeddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) 2014, yn unol â’m bwriad fel y nodais yn fy natganiad ysgrifenedig. Bydd yn weithredol fis Ebrill y flwyddyn nesaf pan ddaw darpariaethau’r Ddeddf i rym.  Bydd yn cyflwyno asesiad ariannol a threfniadau codi tâl clir a chyson sy’n seiliedig, i raddau helaeth, at y trefniadau presennol ond wedi’u cryfhau mewn sawl maes pwysig. Rwy’n hyderus y bydd y fframwaith newydd yn cyflwyno mwy o gysondeb ac eglurder i’r broses asesu a chodi tâl ariannol ac yn creu sylfaen gadarn ar gyfer cyflwyno rhagor o newidiadau. Cafodd y rheoliadau a’r cod ymarfer sy’n ymwneud â Rhannau 4 a 5 o’r Ddeddf eu cyflwyno i’r fframwaith diwygiedig a gyflwynwyd gerbron y Cynulliad Cenedlaethol ar 3 Tachwedd, sydd ar gael yn:

http://www.assembly.wales/cy/bus-home/Pages/Plenary.aspx?category=Laid Document

Mae prif elfennau’r fframwaith yn cynnwys:

  • un set o drefniadau asesu ariannol yn lle’r gwahanol drefniadau sy’n bodoli ar hyn o bryd ar gyfer codi tâl am ofal a chymorth preswyl a dibreswyl;
  • cadw’r uchafswm wythnosol presennol a ‘byffer’ ar gyfer gofal a chymorth dibreswyl, yn ogystal â’r terfyn cyfalaf a ddefnyddir ar hyn o bryd i benderfynu pwy sy’n talu’r gost lawn am ofal preswyl;  
  • cadw’r rhestr bresennol o unigolion, neu fathau o ofal a chymorth, na ellir codi tâl amdanynt, e.e. gwneud asesiad ariannol neu ofal cartref am ddim hyd at chwe wythnos ar ôl cyfnod yn yr ysbyty, fel bo’r unigolyn yn gallu parhau i fyw’n annibynnol er mwyn hyrwyddo ethos ataliol y Ddeddf;
  • gwneud pethau’n fwy tryloyw drwy ymestyn y gofyniad i bawb y codir tâl arnynt dderbyn datganiad yn rhoi’r manylion a sut cafodd ei gyfrifo;
  • cyflwyno proses adolygu gyson a chyffredinol i ganiatáu i berson herio taliadau a godir a chywiro gwallau; 
  • cadw taliadau wedi’u gohirio i ganiatáu gwerthu eiddo er mwyn talu am ofal preswyl tan adeg sy’n fwy addas, a galluogi awdurdod lleol i godi cyfradd isel o log ar y swm sy’n cael ei ohirio er mwyn helpu i wneud trefniadau o’r fath yn niwtral o ran cost i awdurdodau.  
  • caniatáu i awdurdodau lleol adennill taliadau a godir a chodi tâl am dir lle ceir dyledion;

Wrth gadarnhau hyn, rwyf wedi penderfynu cynyddu lefel yr isafswm incwm (a elwir yn lwfans treuliau personol ar hyn o bryd) y gall preswylwyr cartref gofal sy’n cael cymorth gan awdurdod lleol ei gadw o’u hincwm, tuag at eu gwariant personol nhw. Bydd hyn yn cynyddu o’r swm presennol o £25.50 yr wythnos i £26.50 yr wythnos. Gallaf gadarnhau hefyd fy mod i’n cynyddu lefel y diystyriad a gyflwynir i Bensiynau Anabledd Rhyfel mewn asesiadau ariannol. Yn 2016-17, bydd cyn-filwyr anabl sy’n derbyn y pensiwn hwn yn derbyn gostyngiad o £25 yr wythnos mewn unrhyw asesiad ar gyfer codi tâl am ofal a chymorth, yn hytrach na £10 yr wythnos ar hyn o bryd. Mae hyn yn dilyn ymgyrch gan y Royal British Legion i gynyddu’r diystyriad hwn. Yn dibynnu ar yr amgylchiadau ariannol ar y pryd, fy mwriad yw cynyddu lefel y diystyriad hwn yn gynyddrannol dros dymor y Cynulliad nesaf.

Cyflwynir y newidiadau hyn o 6 Ebrill y flwyddyn nesaf, pan ddaw’r rheoliadau i rym. Gobeithio y byddwch yn ystyried hwn yn newyddion cadarnhaol, a gallaf eich sicrhau y byddaf yn parhau i roi sylw llawn i’r mater yma.