Vaughan Gething, Y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol
Ar 23 Rhagfyr 2020, cyhoeddais y byddwn yn darparu cyllid ychwanegol o £5.6m i gontractwyr fferylliaeth gymunedol i dalu’r costau ychwanegol a ysgwyddwyd yn ystod pandemig COVID-19.
Llwyddwyd i ddarparu’r cyllid yn uniongyrchol i gontractwyr yn gynnar yn y flwyddyn newydd, ynghyd â hyd at £0.6m ar gyfer costau gwasanaeth fferyllfeydd o ddarparu’r brechlyn ffliw tymhorol sy’n dod gan y Llywodraeth, ac sy’n cael ei roi mewn fferyllfeydd.
Gwarantais hefyd y byddai ffioedd gwasanaeth fferyllfeydd sy’n rhan o’r Cynllun Imiwneiddio COVID-19 Gofal Sylfaenol yn cael eu talu o’r cyllid ychwanegol. Rydym wedi gweld cynllun peilot llwyddiannus o roi brechiadau yn y Gogledd, gyda nifer o gontractwyr eraill yn dod yn rhan o’r ymdrech. Rydw i eisiau gweld rhan fferylliaeth gymunedol yn y cynllun brechu yn cynyddu dros yr ychydig wythnosau nesaf. Ar 1 Mawrth, ysgrifennodd Prif Weithredwr y GIG at Brif Weithredwyr y Byrddau Iechyd yn eu cynghori i roi trefniadau ar waith i roi contractau i fferyllfeydd cymunedol yn eu hardaloedd sy’n gallu cynnig o leiaf 100 o apwyntiadau bob wythnos, a caiff hyn ei reoli drwy systemau archebu sefydledig y byrddau iechyd.
Cytunais hefyd i ohirio ad-daliadau pellach yn erbyn y rhagdaliad o £55m tan flwyddyn ariannol 2021-22. Gallaf gadarnhau bod y cam hwn wedi’i gymryd er mwyn helpu sefyllfa ariannol fferyllfeydd cymunedol.
Yn olaf, cadarnheais y byddai trafodaethau pellach gyda Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn cael eu cynnal, petai adnoddau yn dod ar gael cyn diwedd y flwyddyn ariannol.
Heddiw, mae’n bleser mawr gen i gadarnhau y bydd £3.5m yn rhagor yn cael ei ddarparu i gontractwyr fferylliaeth gymunedol, gan fodloni cynnig ffurfiol Fferylliaeth Gymunedol Cymru yn llawn.
Mae hyn yn golygu y bydd cyfanswm o £9.1m o arian newydd wedi cael ei ddyrannu yn y flwyddyn ariannol hon i gydnabod y rhan hollbwysig y mae fferyllfeydd wedi’i chwarae yn ystod y pandemig, ym mhob un o’n cymunedau ar hyd a lled Cymru.
Edrychaf ymlaen at gael parhau â gwaith Fferylliaeth Gymunedol Cymru a’n contractwyr i adeiladu ar eu llwyddiant, a datblygu eu gwasanaethau ymhellach i gefnogi ein cymunedau wrth i ni godi o’r cyfnod anodd hwn.