Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Gyda sawl un o gwmnïau ynni Prydain yn cyhoeddi bod eu prisiau’n codi fwy nag 8% a chyda biliau ynni ar gyfartaledd yn codi i bron £1,500, mae llawer o deuluoedd ar hyd ac ar led Cymru yn poeni am yr effaith ar eu hincwm.
Mae pethau’n dynn eisoes ar lawer o aelwydydd, ond mae’n anorfod y bydd llawer mwy o deuluoedd yng Nghymru’n dioddef tlodi tanwydd oherwydd y cynnydd diweddar ym mhris ynni.
Gan ddefnyddio’r cyfryngau sydd ar gael i ni yma yng Nghymru, rydym yn ymrwymo i wneud popeth y gallwn ni i helpu teuluoedd i drechu’r broblem trwy ein rhaglenni arbed ynni a thlodi tanwydd uchelgeisiol. Eu nod fydd helpu i gryfhau pobl ledled y wlad i allu gwrthsefyll y cynnydd mewn prisiau ac yn wahanol i Lywodraeth y DU, nid oes gennym gynlluniau i newid y diffiniad o dlodi tanwydd ac rydym yn ymroi i helpu’r teuluoedd hynny sy’n dioddef o dlodi tanwydd.
Mae Nyth yn rhoi cyngor o bob math i deuluoedd ac aelwydydd ledled Cymru ynghylch sut i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon. Mae’n rhoi cyngor hefyd ar ddyledion, budd-daliadau ac i’r mwyaf bregus sy’n byw yn yr eiddo lleiaf ynni-effeithlon, mae’n cynnig pecyn i wella cartrefi i’w gwneud yn rhatach ar ynni.
O fis Ebrill tan fis Medi eleni, mae Nyth wedi rhoi cyngor a help i 10,852 o aelwydydd i leihau eu biliau ynni. I’r 2,650 o’r aelwydydd hynny oedd ar incwm isel ac yn byw yn y cartrefi mwyaf aneffeithiol, cafodd eu cartrefi eu gwella gyda phecyn o fesurau arbed ynni.
Mae ein rhaglen effeithiolrwydd ynni blaengar ac arloesol, Arbed, yn gwneud gwelliannau i wneud cartrefi yn rhai o’n cymunedau mwyaf difreintiedig yng Nghymru yn fwy ynni-effeithlon. Rhagwelir y bydd ail gam Arbed, am y tair blynedd ar ôl ei sefydlu, yn helpu dros 4,800 o gartrefi yng Nghymru. Yn 2013/14, mae Arbed eisoes wedi cynnal gwelliannau ar 852 o gartrefi i’w helpu i arbed ynni a bydd 2,081 yn ychwanegol wedi’u gwella cyn diwedd mis Mawrth 2014.
Mae’r rhaglenni hyn yn gwneud mwy nag arbed ynni yng nghartrefi Cymru. Maen nhw hefyd yn datblygu’r farchnad effeithiolrwydd ynni yng Nghymru ac yn creu cyfleoedd a swyddi newydd. Ers 2012, mae Arbed 2 yr ERDF wedi creu dros 379 o swyddi ac mae Nyth wedi creu 26 o swyddi, prentisiaethau a chyfleoedd hyfforddi newydd ac yn cynnal dros 300 o swyddi gosodwyr mewn cwmnïau bach a chanolig yng Nghymru.
Rhoddwyd rhagor o fanylion am hynt ein rhaglenni effeithiolrwydd ynni i’r Aelodau yn gynharach yr wythnos hon.
O gofio maint yr her a’r angen i wneud ein cartrefi’n rhatach ar ynni, cyhoeddais ym mis Hydref fy mod yn neilltuo £70m yn ychwanegol i annog y Rhwymedigaeth Cwmni Ynni (ECO) i fuddsoddi yng Nghymru. Mae ECO yn helpu i gynnal gwelliannau arbed ynni i aelwydydd ledled y DU.
Cyhoeddodd Llywodraeth y DU wythnos ddiwethaf ei bod am leihau cost yr Ymrwymiad Cwmni Ynni (ECO). Canlyniad hynny fydd gostyngiad o hyd at £50 ym miliau ynni flwyddyn nesaf. Er ei bod yn dda gweld biliau’n lleihau, bydd y cyhoeddiad hwn yn lleihau’r cymorth sydd ar gael i aelwydydd i arbed ynni, yn enwedig y rheini sy’n byw mewn tai anodd eu trin. Hefyd, caiff effaith ar y busnesau sy’n cynnal y gwelliannau arbed ynni a fyddai wedi cyflogi gweithwyr newydd i ddarparu’r ECO ond a fydd yn awr yn gorfod canslo’u contractau a’u cynlluniau. Rwyf wedi ysgrifennu at Gregory Barker, y Gweinidog Gwladol, ynghylch y cyhoeddiad a cheisio mwy o fanylion ganddo ynghylch goblygiadau hyn i Gymru.
Hefyd, i ddefnyddio ynni’n fwy effeithlon, un ffordd o wneud cartrefi a busnesau’n gryfach i wrthsefyll y cynnydd ym mhrisiau ynni yw trwy gynhyrchu ynni’n agos i’r lle y mae’n cael ei ddefnyddio. Gall y Tariff Cyflenwi Trydan a’r Cymhelliant Gwres Adnewyddadwy ei gwneud yn ddeniadol iawn i osod pecynnau ynni adnewyddadwy yn y cartref a’r busnes. Dyma ffordd arall o daclo tlodi tanwydd. Yng Nghasnewydd, mae Gen Community Ltd yn rhedeg cynllun cyfrannau sy’n cael ei noddi’n lleol sy’n gyfle i bobl fuddsoddi mewn paneli solar ar gyfer cymunedau ar incwm isel.
Mae grwpiau cymunedol ledled Cymru’n dechrau cynhyrchu ynni adnewyddadwy all fod yn ffynhonnell incwm tymor hir iddyn nhw, trwy’r Tariff Cyflenwi Ynni a thrwy werthu’r ynni maen nhw’n gynhyrchu. Mae ein cynllun Ynni’r Fro wedi cefnogi bron ddau gant o gymunedau ledled Cymru â’u hymdrechion i ddarganfod a chynnal prosiectau hyfyw.
Rydym yn croesawu’r ffaith fod Ofgem a’r Adran Ynni a Newid Hinsawdd (DECC) wedi gwneud cyhoeddiadau heddiw ynghylch dyfodol y farchnad ynni. Byddwn yn parhau i bwyso am farchnad ynni effeithiol trwy Ddeddf Ynni 2013 a thrwy Ddiwygio’r Farchnad Drydan a datblygu is-ddeddfwriaeth. Mae datblygwyr prosiectau mawr posibl yng Nghymru yn poeni bod yr ansicrwydd yn effeithio ar benderfyniadau buddsoddi ac yn tanseilio ein dyhead i weld ynni yn dod â buddiannau mawr i gymunedau Cymru. Byddwn yn parhau i bwyso ar Lywodraeth y DU i ddatganoli’r grymoedd ar gyfer caniatáu prosiectau ynni mawr i Lywodraeth Cymru, polisi rwy’n gwybod y mae holl bleidiau’r Cynulliad yn ei gefnogi.
Byddwn yn parhau i ddarparu a rheoli’r ymyriadau polisi hyn ac eraill mewn cysylltiad ag ynni ac ynni effeithiol mewn ffordd gydgysylltiedig, yn unol â’r hyn a geir yn Ynni Cymru.
Cyhoeddir y datganiad hwn yn ystod y toriad er mwyn gwneud yn siŵr bod aelodau’r Cynulliad yn cael yr wybodaeth ddiweddaraf. Pe bai unrhyw aelod yn dymuno imi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ar ôl y toriad, byddaf yn hapus i wneud hynny.