Alan Davies AC, Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd
Cafodd cynllun Ynni'r Fro ei lansio yn 2010. Rhaglen ydyw a gaiff ei hariannu gan Lywodraeth Cymru a Chronfa Datblygu Rhanbarthol Ewrop ac mae'n hybu mentrau ar gyfer cynhyrchu ynni adnewyddadwy o fewn cymunedau. Mae Ynni'r Fro yn hybu twf busnesau ac yn creu cyfleoedd busnes newydd drwy ei gwneud hi'n bosibl i greu ac ehangu mentrau cymdeithasol cynaliadwy.
Mae'r rhaglen yn cynnig grantiau o hyd at £30,000 er mwyn talu costau cyn cynllunio, a grantiau o hyd at £300,000 a benthyciadau o hyd at £250,000 tuag at gostau adeiladu cyfalaf. Mae rhwydwaith o swyddogion datblygu technegol wedi'i sefydlu ar draws Cymru er mwyn cynnig cyfarwyddyd a chymorth i fentrau cymdeithasol sy'n cynllunio neu'n cynnal prosiect ynni adnewyddadwy. Hyd yn hyn mae dros 200 o gymunedau ar draws Cymru wedi cyflwyno cais am gymorth drwy'r rhaglen.
Cafodd gwerthusiad canol tymor o'r rhaglen ei gomisiynu ym mis Mai 2013 ac fe'i cwblhawyd ym mis Hydref 2013. Caiff yr adroddiad terfynol ei gyhoeddi heddiw, yn dilyn proses drylwyr.
Gwnaeth y gwerthusiad dynnu sylw at holl nodweddion positif rhaglen Ynni'r Fro, gan gynnwys ei chwmpas cenedlaethol, ei chylch gwaith eang a hefyd ansawdd uchel y gwasanaeth cynghori. Cafodd cyfuniad unigryw y rhaglen o gyngor a chymorth ariannol, a'r ffaith bod Ynni'r Fro yn fenter mwy hirdymor (5 mlynedd), hefyd eu cydnabod fel elfennau gwerthfawr sy'n golygu bod Ynni'r Fro yn wahanol iawn i raglenni eraill sy'n cefnogi ynni adnewyddadwy.
Tynnwyd sylw at nifer o heriau fel rhan o'r gwerthusiad o safbwynt datblygu prosiect ynni adnewyddadwy cymunedol. Ystyriwyd sut yr oedd rhaglen Ynni'r Fro eisoes yn mynd i'r afael â'r heriau hyn, a chyflwynwyd argymhellion ynghylch sut y gallai'r gwaith gael ei ddatblygu yn y dyfodol. Y prif heriau o safbwynt cyflawni prosiectau ynni adnewyddadwy cymunedol a bennwyd gan yr adolygiad yw:
- prinder capasiti, sgiliau a phrofiad o fewn grwpiau cymunedol;
- anawsterau wrth geisio derbyn caniatâd cynllunio a chaniatadau eraill;
- yr heriau sydd ynghlwm wrth ganfod cyllid ar gyfer gwaith paratoi a chyfalaf ar gyfer datblygu cynlluniau.
Awgryma canfyddiadau'r gwerthusiad canol tymor hwn fod 'Ynni'r Fro yn cael effaith sylweddol o safbwynt galluogi grwpiau cymunedol i ddilyn y camau cychwynnol sydd ynghlwm wrth ddatblygu menter ynni adnewyddadwy. Yn benodol, mae'r cyngor a'r cymorth eang eu cwmpas a ddarperir gan y rhwydwaith o Swyddogion Datblygu Technegol yn aml wedi chwarae rhan allweddol o fewn y datblygiad hwn'.
Mae'r adroddiad hefyd yn tynnu sylw at bwysigrwydd y cyllid sydd ar gael i gynlluniau cymunedol drwy raglen Ynni'r Fro. Roedd nifer o argymhellion o safbwynt y rhaglen gyfredol, ac mae nifer ohonynt eisoes wedi'u cynnwys yn y modd y caiff y rhaglen ei chyflawni. Roedd y gwerthusiad yn ddefnyddiol o safbwynt pennu'r meysydd lle y bydd angen cymorth ar grwpiau yn y dyfodol. Caiff yr wybodaeth hon ei defnyddio ar gyfer llywio dull Llywodraeth Cymru o gefnogi mentrau ynni adnewyddadwy ar raddfa fach.
Mae'r heriau sydd ynghlwm wrth gynllunio a rhoi caniatâd yn gyffredin i bob cynllun datblygu. Mae prosesau Cyfoeth Naturiol Cymru ar gyfer rhoi caniatâd wedi'u newid yn ddiweddar er mwyn sicrhau bod ceisiadau ar gyfer cynlluniau datblygu ynni dŵr yn gallu symud ymlaen yn fwy didrafferth. Mae'r sector ynni dŵr cymunedol wedi croesawu'r newidiadau hyn i raddau helaeth, a gwnaeth aelodau'r sector ynghyd â rhanddeiliaid eraill gynorthwyo Cyfoeth Naturiol Cymru i ddatblygu'r dull diwygiedig.
Mae fy nghydweithiwr, y Gweinidog Tai ac Adfywio, hefyd wedi ysgrifennu i awdurdodau lleol er mwyn eu hatgoffa ynghylch yr angen i ystyried manteision economaidd a chymdeithasol cynlluniau ynni adnewyddadwy wrth ystyried ceisiadau cynllunio.
Gellir gweld yr adroddiad gwerthuso canol tymor llawn ar raglen Ynni'r Fro ar-lein.