Lesley Griffiths AC – Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae'r datganiad hwn yn nodi'r diweddaraf am gynlluniau Llywodraeth Cymru ar gyfer y rhaglen rheoli tir.
Ymgynghoriad Brexit a'n Tir
Mae dros 12,000 o ymatebion wedi dod i law ac rydym wrthi'n eu dadansoddi. Unwaith eto, hoffwn fynegi fy niolch i bawb, yn unigolion ac yn gyrff a mudiadau, a ymatebodd i'r ymgynghoriad pwysig hwn.
Yn ogystal â swyddogion Llywodraeth Cymru, bydd cwmni ymchwil annibynnol yn cael ei gomisiynu i'w dadansoddi hefyd. Bydd hynny'n golygu y caiff yr ymgynghoriad ei astudio'n drylwyr a llawn.
Gan nad yw'r dadansoddiad hwnnw wedi'i gwblhau eto, ni allaf gynnig barn am yr ymatebion na sut y dylem fwrw ymlaen â'n cynigion. Byddaf am wneud datganiad llafar ar y mater yn ystod mis Mai eleni. Yr un pryd, byddaf yn cyhoeddi crynodeb o'r ymatebion ac ymateb polisi cychwynnol.
Mae'n fwriad gen i hefyd gyhoeddi'r ddogfen ymgynghori nesaf cyn y Sioe Fawr eleni. Byddwn yn treulio'r amser tan hynny'n siarad â'r rhanddeiliaid ac yn sicrhau bod dadansoddiad priodol yn cael ei baratoi. Mae'r amserlen newydd hon yn adlewyrchu hefyd yr ansicrwydd cynyddol a pharhaus ynghylch Brexit. Dw i ddim am dynnu'r sylw oddi wrth yr angen i baratoi cynllun wrth gefn ar gyfer Brexit 'heb gytundeb'.
Hoffwn ailadrodd y tri ymrwymiad wnes i Hydref diwethaf.
Yn gyntaf, ni chaiff penderfyniadau eu gwneud am gynlluniau'r dyfodol tan y byddwn wedi cael gweld yr ymatebion ac wedi ystyried yr holl ystyriaethau perthnasol.
Yn ail, ni chaiff Cynllun y Taliad Sylfaenol ei newid heb ymgynghori ar y mater. I adlewyrchu hynny, rwyf eisoes wedi cyhoeddi y bydd Cynllun y Taliad Sylfaenol (BPS) yn aros fel ag y mae tan ddiwedd 2020, ac rydym wedi cynnig estyniad tan 2021 ar gyfer contractau Glastir. Ni fyddwn felly'n dechrau symud tuag at gynllun newydd tan o leiaf 2021.
Ni fyddwn yn cael gwared ar yr hen gynlluniau tan y bydd y cynlluniau newydd yn barod.
Bil Amaethyddiaeth y DU
Rwyf heddiw'n cyhoeddi mod i wedi cael cytundeb Llywodraeth y DU ar yr un pwnc oedd heb ei unioni ym Mil Amaeth y DU.
Sef y darpariaethau yn y Bil sy'n ymwneud â'r Cytundeb Amaeth â'r WTO. Nodais farn Llywodraeth Cymru yn fy natganiad ar 12 Medi fod angen caniatâd y Cynulliad Cenedlaethol cyn bwrw ymlaen â'r darpariaethau. Hynny oherwydd y berthynas gref ac amlwg rhwng pwerau'r WTO a'n cyfrifoldebau datganoledig am gymorth i amaeth a'n hymrwymiadau rhyngwladol. Fodd bynnag, mae Llywodraeth y DU o'r farn bod y pwerau'n ymwneud â masnach rhyngwladol a'u bod felly'n bwerau cadw.
Mae'r ddwy lywodraeth wedi cytuno ar drefn ar sut i ddefnyddio'r pwerau hyn. Bydd y drefn honno'n sefyll ochr yn ochr â darpariaethau'r Bil. Yng ngoleuni'r cytundeb hwn, mae Llywodraeth Cymru'n gallu argymell ei chydsyniad i ddarpariaethau'r WTO yn y Bil.
Rydyn ni wedi cytuno:
- bydd Llywodraeth y DU yn ymgynghori â'r gweinyddiaethau datganoledig, gan ddilyn yr egwyddorion fel y'u ceir yn y Cytundeb Rhynglywodraethol, cyn cyflwyno rheoliadau o dan gymal y WTO
- Bydd Gweinidogion am fynd yn eu blaenau gyda chytundeb ond os ceir anghytundeb, bydd deunydd perthnasol ar gael i ddau Dŷ'r Senedd eu gweld cyn bod y Senedd yn pleidleisio ar y rheoliadau
- Gweinidogion Cymru fydd yn gyfrifol yn y lle cyntaf am gynnig categoreiddio cynlluniau cymorth amaeth Cymru, a
- bydd yna fel arfer rôl i gynghorydd annibynnol os bydd y llywodraethau'n angytuno â chategori'r cynlluniau neu faterion perthnasol eraill. Dylai'r Ysgrifennydd Gwladol roi ystyriaeth i'r cyngor hwn cyn gwneud unrhyw benderfyniad a dylai rannu'r cyngor, y penderfyniad a'r rheswm dros y penderfyniad â'r gweinyddiaethau datganoledig.
Yn gryno, y bwriad clir yw ceisio cytundeb. Fodd bynnag, lle na bo hynny'n ymarferol, ceir mecanweithiau cryf lle caiff Gweinidogion Cymru fynegi barn.
Caiff y trefniadau hyn eu rhoi ar bapur mewn Memorandwm Cyd-ddealltwriaeth ac mae Ysgrifennydd Gwladol yr Amgylchedd, Pysgodfeydd a Materion Gwledig Llywodraeth y DU wedi cytuno i roi hyn ar glawr mewn datganiad ar lawr Tŷ'r Cyffredin.
Yn fy natganiad ar 12 Medi, esboniais ddymuniad Llywodraeth Cymru i weld trefniadau ar wyneb y Bil a fydd yn caniatáu ailddosbarthu'r Ardoll Cig Coch ledled y DU a galluogi diwydiant cig coch Cymru i gael at arian ychwanegol i gefnogi paratoadau a galluoedd y diwydiant i ymateb i gyfleoedd Brexit a'r newidiadau anorfod a ddaw yn ei sgil. Mae'r Llywodraeth wedi gwneud gwelliant ac mae e nawr yn rhan o'r Bil. Mae Llywodraeth Cymru'n fodlon bod y gwelliant yn cynnig ffordd briodol i ddatrys hen broblem ailwadoli'r ardoll cig coch.
Gan fod y ddau fater bellach wedi'u datrys, byddaf yn rhoi Memorandwm Cydsyniad Deddfwriaethol ger bron y Cynulliad. Efallai y bydd angen rhagor o femoranda os caiff gwelliannau eu gwneud i'r Bil yn ystod gweddill ei daith trwy'r Senedd.
Rydym yn ddiolchgar i'r Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd a Materion Gwledig a'r Pwyllgor Deddfwriaeth a Materion Cyfansoddiadol am eu hadroddiadau cynhwysfawr. Rydyn ni'n ystyried cwestiynau a godwyd gan y Pwyllgorau a byddwn yn ymateb iddynt maes o law.