Neidio i'r prif gynnwy

Lesley Griffiths AS, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Mawrth 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Dros y 12 mis diwethaf, mae cymunedau, busnesau a'r sector cyhoeddus yn ehangach wedi wynebu heriau enfawr o ganlyniad i lifogydd dinistriol, gyda rhai cymunedau'n cael eu heffeithio ar fwy nag un achlysur. Oherwydd effeithiau'r pandemig a'r ymateb iddo, mae wedi bod yn fwy anodd nag erioed ymdopi â llifogydd.

Unwaith eto, mae effeithiau sylweddol llifogydd ar gymunedau ledled Cymru wedi amlygu pwysigrwydd rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol Llywodraeth Cymru wrth ddiogelu bywydau, cartrefi a busnesau.

Rydw i’n gwybod fod llifogydd yn ddigwyddiadau trawmatig ar gyfer unigolion a theuluoedd. Gwelais drosof fy hun y dinistr y mae llifogydd yn ei achosi i gartrefi a busnesau pan ymwelais â chymunedau a oedd wedi dioddef llifogydd. Rwy’n estyn fy nghydymdeimlad dwysaf â phob unigolyn sydd wedi'i effeithio gan lifogydd.

Nid yw'r Llywodraeth hon yn credu y dylai unigolion a gafodd eu heffeithio gan lifogydd o ganlyniad i'r stormydd difrifol y llynedd orfod ymdopi â heriau neu ganlyniadau llifogydd domestig ar eu pennau eu hunain. Felly, rydym wedi rhoi £500 i bob aelwyd a ddioddefodd lifogydd, gyda £500 ychwanegol i aelwydydd nad oedd ganddynt yswiriant.

Hoffwn ddiolch i bawb a oedd yn ymwneud â'r gwaith o ymateb i'r llifogydd diweddar, gan gynnwys y gwasanaethau brys, Awdurdodau Lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru (CNC) a gwirfoddolwyr.

Mae'r llifogydd dros y flwyddyn ddiwethaf yn amlygu'r ffaith ein bod bellach yn byw gyda chanlyniadau newid yn yr hinsawdd. Yn ogystal â mynd i'r afael ag achosion newid yn yr hinsawdd, rhaid inni baratoi ac addasu cymunedau ledled Cymru i wrthsefyll y canlyniadau a fydd yn dod yn ei sgil yn y dyfodol.

Un o'r canlyniadau hynny yw'r ffaith fod effeithiau llifogydd yn fwy difrifol a'u bod yn digwydd yn amlach. Er mwyn mynd i'r afael â'r bygythiad hwn, rwyf am gefnogi'r Awdurdodau Rheoli Risg i gyflwyno mwy o brosiectau lliniaru llifogydd a chyflymu'r broses o roi cynlluniau ar waith.

Yn 2021/2022 byddwn yn buddsoddi mwy o gyllid cyfalaf nag erioed o'r blaen (£36 miliwn) trwy'r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol, er mwyn paratoi ac adeiladu prosiectau lliniaru llifogydd ledled Cymru. Rwyf wedi dyrannu cyfanswm o £17 miliwn i CNC a £19 miliwn i Awdurdodau Lleol.

Mae rhai o'r prosiectau y dyrannwyd cyllid iddynt fel rhan o'r rhaglen y flwyddyn nesaf yn cynnwys Treorci (RhCT), Diserth (Sir Ddinbych), Rhydaman (Sir Gaerfyrddin – prosiect CNC), Rock Street (Castell-nedd Port Talbot) a Llansannan (Conwy).

Mae cyfran o'r £17 miliwn ar gyfer CNC yn cynnwys dros £7 miliwn tuag at ei weithgareddau llifogydd craidd, sy'n cynnwys cynnal a chadw asedau presennol, datblygu cynlluniau newydd a mapio a modelu prosiectau i ddeall a chyfleu perygl llifogydd yn well.

Cyhoeddir ein rhaglen gyfalaf lawn ar ein tudalennau gwe llifogydd a bydd map yn dilyn i helpu i ddangos lledaeniad cynlluniau ledled y wlad.

Rwy'n deall yr heriau ariannol y mae'n rhaid i Awdurdodau Lleol eu hystyried wrth gyflwyno prosiectau lliniaru llifogydd, gweithgareddau cynnal a chadw ac ymchwiliadau llifogydd. Felly, ar ddechrau'r flwyddyn ariannol hon, fe es ati i gynyddu cyllid refeniw Awdurdodau Lleol 50% o £75,000 i £105,000, a dyrannwyd y lefelau uchaf erioed i CNC gan adlewyrchu ei fesurau newydd yn ein Strategaeth Genedlaethol.

Er gwaethaf cyfyngiadau ein cyllidebau heriol, ar gyfer 2021-2022 rwy'n cadw’r dyraniad refeniw £105,000 ar gyfer pob Awdurdod Lleol, sef cyfanswm o £2.31 miliwn, a cyllideb refeniw £21 miliwn Cyfoeth Naturiol Cymru.

Mae'n bleser gennyf gyhoeddi fy mod hefyd yn cynnal cefnogaeth i Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Canolfan Monitro Arfordirol Cymru a'r pwyllgor rheoli perygl llifogydd. 

Mewn ymateb i Stormydd Ciara a Dennis, darparwyd cyllid grant 100% ar gyfer atgyweiriadau brys a gwelliannau i asedau lliniaru llifogydd a ddifrodwyd, sef cyfanswm o dros £5 miliwn. Ar hyn o bryd, mae fy swyddogion yn archwilio effeithiau stormydd mwy diweddar a lefel y cymorth ychwanegol sydd ei angen ar Awdurdodau Rheoli Risg. Rwyf wedi dyrannu £4 miliwn ar gyfer y gwaith atgyweirio hwn.

Yn fy Natganiad Ysgrifenedig ar y 3 Ebrill 2020, cyhoeddais newidiadau mawr i'r rhaglen lifogydd, a byddaf yn dwyn pob un ohonynt ymlaen i'r flwyddyn ariannol sydd i ddod. Er mwyn hyrwyddo llif mwy iach o brosiectau ar gyfer y blynyddoedd i ddod, byddaf yn parhau i ddarparu cyllid grant 100% ar gyfer yr holl waith paratoi tuag at brosiectau lliniaru llifogydd newydd. Mae hyn yn cynnwys cefnogaeth lawn ar gyfer datblygu Achosion Busnes, cynnal ymgynghoriadau a gwneud gwaith dylunio manwl. Bydd hyn yn galluogi Awdurdodau Lleol i ddatblygu a chyflwyno prosiectau blaenoriaeth yn gyflymach drwy ddileu'r angen i ddod o hyd i arian cyfatebol mewnol. Mae'r newid hwn eisoes wedi bod yn llwyddiannus, gan fod nifer y ceisiadau 33% yn uwch ar gyfer y flwyddyn ariannol newydd o'i gymharu â'r flwyddyn flaenorol.

Roedd newidiadau i'r Grant Gwaith Graddfa Fach yn dileu'r terfyn ar nifer y cynlluniau y gallai Awdurdodau Lleol eu datblygu eleni yn llwyddiannus iawn, gan arwain at 121 o brosiectau a oedd yn lleihau risg i 1,670 o adeiladau. Oherwydd llwyddiant parhaus y grant hwn, rwyf wedi dyrannu £4 miliwn i Awdurdodau Lleol yng nghyllideb 2021-2022, i'w ddefnyddio i gyflwyno cynlluniau graddfa fach eraill. Mae hwn yn gynnydd sylweddol o'i gymharu â'r terfyn hanesyddol o £1 miliwn a ddyrannwyd o'r blaen ar gyfer y gwaith hwn, ac mae'n adlewyrchu sut rydym yn datblygu ein rhaglen i gefnogi mwy o brosiectau a sicrhau manteision i fwy o gymunedau. Bydd y £4 miliwn yn cefnogi 86 o gynlluniau ledled Cymru, gan sicrhau manteision i dros 1,700 o eiddo.

Hefyd, rwyf wedi cynyddu'r cyfraniad cyllid ar gyfer adeiladu prosiectau arfordirol o 75% i 85%. Yn ogystal â'm cefnogaeth lawn ar gyfer paratoi cynlluniau, mae'n golygu bod y cyfraniad o 15% tuag at gost prosiectau lliniaru llifogydd ac arfordiroedd bellach yn berthnasol i'r cam adeiladu yn unig, ac mae'n lleihau cyfraniadau Awdurdodau Lleol yn sylweddol tuag at gyfanswm costau prosiect. Hefyd, mae modd lleihau'r cyfraniad hwn drwy gyllid partneriaeth.

Yn ystod tymor y Senedd hon, cyflwynwyd y Rhaglen Rheoli Llifogydd yn Naturiol (NFM) arloesol. Mae prosiectau yn y rhaglen hon yn derbyn cyllid grant 100% am y ddwy flynedd gyntaf, ac mae llawer o Awdurdodau Rheoli Risg wedi manteisio ar y rhaglen. Rwyf bellach wedi cymeradwyo 15 o brosiectau NFM gwerth cyfanswm o £2.89 miliwn, a byddant yn cael eu monitro a'u gwerthuso wrth iddynt ddatblygu. Bydd hyn yn golygu ein bod ni a'r Awdurdodau Rheoli Risg yn gallu dysgu gwersi oddi wrth ein gilydd a rhannu arferion gorau, gan ganiatáu i fwy o brosiectau NFM gael eu cyflwyno ledled Cymru yn y dyfodol. Er nad ydym yn derbyn ceisiadau ar gyfer y rhaglen bresennol, rydym yn parhau i annog Awdurdodau Rheoli Risg i gyflwyno prosiectau NFM drwy ein prif raglen rheoli perygl llifogydd, ac rydym am weld dulliau o'r fath yn cael eu hystyried ym mhob cynllun posibl.

Hwn yw fy Natganiad Ysgrifenedig terfynol yn ymwneud â'r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol yn ystod tymor y Senedd hon. Yn ystod y tymor hwn, bydd Llywodraeth Cymru wedi buddsoddi'r lefelau uchaf erioed o gyllid cyfalaf a refeniw (dros £275 miliwn) i leihau perygl llifogydd ac erydu arfordirol mewn cymunedau ledled Cymru. Yn ogystal, rydym yn cefnogi buddsoddiad gwerth £150 miliwn trwy'r Rhaglen Rheoli Risg Arfordirol, a bydd yr holl gynlluniau sy'n weddill yn dechrau yn ystod y 12 mis nesaf.

Dros dymor y Senedd hon, mae'r rhaglen wedi cyflwyno cannoedd o brosiectau lliniaru llifogydd unigol ar hyd a lled Cymru yn rhoi buddion i dros 45,000 o eiddo. Mae prosiectau mawr eisoes wedi eu cwblhau yn cynnwys Casnewydd, Llanelwy, Borth, Rhydyfelin a Llanberis.

Mae ein Rhaglen Rheoli Risgiau Arfordirol uchelgeisiol ar y gweill yn llawn. Mae'r prosiect cyntaf yn Aberafan bellach wedi'i gwblhau ac mae dau brosiect arall ar waith ym Mhorthcawl ac yn Nwyrain y Rhyl. Mae disgwyl i'r gwaith adeiladu’r prosiectau sy'n weddill ddechrau erbyn mis Mawrth 2022.

Yr hydref diwethaf cyhoeddais ein Strategaeth Genedlaethol newydd ar gyfer Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol. Mae'r Strategaeth uchelgeisiol newydd yn nodi sut y byddwn yn mynd i'r afael â llifogydd dros y degawd nesaf ochr yn ochr â'r bygythiad cynyddol o newid yn yr hinsawdd. Mae'n egluro rolau a chyfrifoldebau, ac mae'n cyflwyno amcanion cryfach ar gyfer atal, paratoi a chyfathrebu risg. Cyflwynwyd gwaith mapio llifogydd newydd ochr yn ochr â'r Strategaeth a fydd yn cael ei hategu gan Fap Llifogydd ar gyfer Cynllunio a chronfa ddata genedlaethol o amddiffynfeydd rhag llifogydd yn ddiweddarach eleni. Mae hyn yn tanlinellu ein hymrwymiad i wella mynediad y cyhoedd at ddata llifogydd, nid yn unig er mwyn cefnogi penderfyniadau datblygu gwell, ond er mwyn helpu pobl i ddeall y risg i'w heiddo eu hunain, pwy sy'n berchen ar ein hamddiffynfeydd ac yn eu cynnal, a dangos ble mae risg wedi'i lleihau gan asedau lliniaru llifogydd newydd.

Mae'r rhaglen Rheoli Perygl Llifogydd ac Erydu Arfordirol 2021-22, ochr yn ochr â'i llwyddiant dros dymor y Senedd hon, yn adlewyrchu ei statws blaenoriaeth yng Nghymru. Mae'r Llywodraeth hon wedi buddsoddi mwy o gyllid nag erioed o’r blaen i liniaru llifogydd yn uniongyrchol ar gyfer y rhai sy'n wynebu'r perygl mwyaf, a thrwy ein Strategaeth Genedlaethol rydym wedi sefydlu'r polisïau sydd eu hangen i reoli perygl llifogydd mewn cymunedau, wrth i ni fynd i'r afael â heriau newid yn yr hinsawdd.