Lesley Griffiths AC, Weinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig
Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'r Senedd i ailflaenoriaethu busnes y Llywodraeth er mwyn adlewyrchu natur ddigynsail yr argyfwng coronafeirws (COVID 19). Mae’r datganiad hwn yn cael ei gyhoeddi i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i'r Aelodau, ond bydd datganiadau ysgrifenedig COVID 19 yn parhau i gael eu cyhoeddi fel blaenoriaeth.
Er bod ein cymunedau, busnesau a’r sector cyhoeddus yn wynebu heriau na welwyd eu tebyg o’r blaen o ganlyniad i COVID-19, mae’n hanfodol ein bod yn parhau i reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd mor effeithiol ag y gallwn. Y llifogydd yng Nghymru yn ystod mis Chwefror oedd y gwaethaf a welwyd mewn cenhedlaeth a phwysleisiodd bwysigrwydd ein rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd o ran diogelu bywydau, cartrefi a busnesau.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi rhaglen rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd y Llywodraeth ar gyfer 2020-21 yn ogystal â phecyn ychwanegol o gymorth ar gyfer ein hawdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd ein rhaglen yn dwyn ymlaen mwy o brosiectau amddiffyn rhag llifogydd ac yn datblygu cyflenwad cryfach o gynlluniau yn y dyfodol gan gynyddu cymorth grant i baratoi cynlluniau, cyflawni gwaith arfordirol a rheoli llifogydd mewn ffordd naturiol.
Rwy’n falch o gyflwyno rhaglen fuddsoddi gadarn ar gyfer y flwyddyn ariannol hon. Mae’n cynnwys newidiadau sylweddol gan ddarparu’r cymorth a’r hyblygrwydd sydd eu hangen ar awdurdodau lleol a Cyfoeth Naturiol Cymru i sicrhau bod cynlluniau llifogydd a gwaith cynnal a chadw hanfodol yn cael eu cyflawni cyn gynted â phosibl mewn mannau diogel.
Cyfrifoldeb Awdurdodau Rheoli Perygl Llifogydd Cymru yw sicrhau bod unrhyw waith monitro, cynnal a chadw, neu adeiladu yn cael ei wneud yn ddiogel tra bo cyfyngiadau ar symudiadau a mesurau cadw pellter yn parhau’n rhan o ymateb Llywodraeth Cymru i COVID-19. O ran rheoli perygl llifogydd, rhoddir blaenoriaeth i atgyweirio asedau a ddifethwyd yn ystod y llifogydd diweddar ac i gyflawni gwaith sy’n diogelu rhag perygl uniongyrchol i fywyd. Wrth ymgymryd â gwaith gweithredol, bydd angen i’r holl awdurdodau a’u contractwyr gydymffurfio â chanllawiau diweddaraf Iechyd Cyhoeddus Cymru i ddiogelu eu gweithlu a’u trigolion, gan leihau’r baich ar y GIG.
Rydym eisoes wedi darparu bron £3miliwn o gymorth i gyflawni gwaith atgyweirio hanfodol i amddiffynfeydd mewn ymateb i’r llifogydd diweddar. Fodd bynnag, mae angen ymateb strategol, cyfannol â ffocws arnom os ydym am reoli’n effeithiol yr heriau hirdymor a’r pwysau ychwanegol a wynebwn yn sgil y newid yn yr hinsawdd. Rwyf am gyflymu’r ffordd yr ydym yn cyflawni gweithgarwch rheoli perygl llifogydd a bwrw ymlaen â dulliau dalfeydd cynaliadwy i sicrhau’r manteision mwyaf posibl ac i wella’r ffordd yr ydym yn rheoli dŵr.
Heddiw, rwy’n cyhoeddi rhaglen fuddsoddi cyfalaf gwerth £35miliwn ar gyfer 2020-21 ochr yn ochr â mwy na £27 miliwn o gyllid refeniw i gynnal gweithgareddau llifogydd a rhai arfordirol.
Bydd angen cynlluniau newydd yn ystod y blynyddoedd nesaf i helpu i ddiogelu cymunedau. Gan ddechrau eleni, byddaf yn cefnogi pob Awdurdod Rheoli Perygl Llifogydd drwy ddarparu 100% o gyllid grant iddynt ddatblygu achosion busnes, cynnal ymgyngoriadau a chreu cynlluniau ar gyfer llifogydd ac arfordirooedd. Bydd hyn yn eu galluogi i fwrw ymlaen â mwy o brosiectau a llywio buddsoddiadau tuag at waith adeiladu a manteision ehangach cysylltiedig.
Rwyf am symud yn gyflymach ar reoli llifogydd yn naturiol a chynlluniau dalfeydd ar draws Cymru. Mae’r dulliau hyn yn efelychu prosesau naturiol i helpu i amddiffyn ein morlin ac i ddal dŵr yn ôl mewn dalfeydd uwch, gan arafu cyfradd y dŵr ffo sy’n cyrraedd ein hafonydd a’n nentydd. Byddaf yn clustnodi £1 miliwn eleni ar gyfer cynlluniau o’r fath, gan ddarparu cymorth ar raddfa 100% o’r grant i liniaru’r perygl ariannol a wynebir gan gynghorau a Cyfoeth Naturiol Cymru. Bydd y prosiectau yn cael eu monitro’n ofalus fel ein bod yn gallu rhannu tystiolaeth ac arferion da i helpu i hyrwyddo a mireinio dulliau sy’n sicrhau’r manteision gorau. Fy uchelgais yw gweld Cymru yn arwain ar y gwaith hwn.
Rwyf hefyd yn cynyddu’r cymorth grant sydd ar gael ar gyfer creu cynlluniau arfordirol awdurdodau lleol i 85%. Mae’r ymrwymiad hwn yn cydnabod pwysigrwydd cenedlaethol ein rhaglen arfordirol a’r heriau yr ydym eisoes yn eu hwynebu o ganlyniad i gynnydd yn lefel y môr a mwy o stormydd.
Ar ben hynny, rwyf wedi cael gwared ar y capiau cyllidebol ar gyfanswm y cynlluniau ar raddfa fach y gellir eu cyflawni eleni, gan alluogi pecyn eithriadol o waith gwerth £4.3 miliwn a fydd yn lleihau’r perygl o lifogydd yn gyflym i’n cymunedau.
Rwy’n cydnabod bod mwy i reoli perygl llifogydd ac arfordiroedd nag adeiladu amddiffynfeydd yn unig. Rwy’n ddiolchgar am gyfraniad enfawr staff awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Dŵr Cymru a Hafren Dyfrdwy at ddiogelu ein cymunedau. Mae’n amlwg y byddai effeithiau stormydd mis Chwefror wedi bod llawer yn waeth heb eu hymrwymiad a’u gwaith caled o ran cynnal a chadw amddiffynfeydd ac ymateb yn gyflym i ddigwyddiadau.
Rwyf am alluogi Awdurdodau Rheoli Perygl i barhau’r gwaith hwn a rhoi iddynt yr adnoddau sydd eu hangen arnynt. Felly, ochr yn ochr â gwelliannau i raglen gyfalaf 2020-21, rwyf hefyd yn cynyddu’r cyllidebau adnoddau i Cyfoeth Naturiol Cymru ac awdurdodau lleol, sydd wedi’u clustnodi ar gyfer gweithgareddau rheoli perygl llifogydd ac arfordiroedd. Bydd Cyfoeth Naturiol Cymru yn cael £21 miliwn, tra bydd awdurdodau lleol yn cael 50% yn fwy o gymorth refeniw i ategu eu pecynnau cyllid presennol.
Mae bod yn effeithiol wrth gynllunio ymlaen a darparu rhaglenni yn hanfodol i fynd i’r afael â’r perygl cynyddol o lifogydd. Byddwn yn parhau i weithio gyda Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru i sicrhau bod gan awdurdodau lleol yr adnoddau sydd eu hangen arnynt i gynllunio eu rhaglenni buddsoddi ar gyfer y dyfodol ac i barhau i gefnogi Canolfan Monitro Arfordirol Cymru a fydd yn cael £300,000 y flwyddyn nesaf.
Gyda’i gilydd, mae rhaglen 2020-21 a’r pecyn adnewyddedig o gymorth yn cynrychioli dull strategol newydd i ddarparu’r cymorth sydd ei angen ar Awdurdodau Rheoli Perygl, gan hybu’r ddarpariaeth ac adeiladau ein gallu i wrthsefyll effeithiau’r newid yn yr hinsawdd ar yr un pryd.
Mae pecyn buddsoddi gwerth £35miliwn o waith cyfalaf wedi’i gymeradwyo ar gyfer 2020-21 gyda £9miliwn yn cael ei ddarparu gan Cyfoeth Naturiol Cymru, a mwy na £17miliwn yn cael ei ddyrannu i awdurdodau lleol.
Mae hyn yn cynnwys buddsoddiadau mawr yn Abergele, Llanfair, Talhaearn, y Rhyl a Phrestatyn, Dyserth, Rhostryfan, Llanfaes, Cwmbrân, Aberdâr, Glyn-nedd, Casnewydd a phecyn o brosiectau rheoli llifogydd mewn modd naturiol ar draws Sir Ddinbych.
Gan gydnabod yr heriau sylweddol ar awdurdodau lleol, Cyfoeth Naturiol Cymru a phartneriaid, mae’r pecyn o welliannau yn helpu i ail-gadarnhau ein hymrwymiad i ddarparu cymorth hirdymor mewn ymateb i’r stormydd a gawsom fis Chwefror. Bydd y pecyn hwn yn helpu Awdurdodau Rheoli Perygl i ailgydio yn eu cynlluniau llifogydd a lleihau’r baich ariannol sy’n wynebu llawer ohonynt wrth iddynt barhau i gyflawni gwaith adfer.
Mae’r buddsoddiad hwn yn sail i’n hymrwymiad i gyflawni £350miliwn o weithgarwch rheoli perygl llifogydd dros dymor y Cynulliad hwn. Rydym wedi gwrando ar anghenion ein Hawdurdodau Rheoli Perygl ac yn gwella’r ffordd yr ydym yn eu cefnogi i gyflawni’r gwaith sydd ei angen i sicrhau ein bod yn gallu gwrthsefyll llifogydd a lleihau’r perygl ar draws Cymru.