Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans, Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Ebrill 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae’n bleser gen i dynnu sylw at gyfres o welliannau i’r seilwaith sy’n cynnal y proffesiwn milfeddygol yng Nghymru.  Bydd rhain yn cryfhau a gwella’r cyfraniad pwysig y mae’r proffesiwn milfeddygol yn ei wneud yn ein heconomi wledig ac yn amddiffyn iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

O 1 Ebrill ymlaen, bydd yr holl brofi am TB a’r gwaith Milfeddygol Swyddogol arall yng Nghymru yn cael ei wneud gan ddau bartner cyflenwi rhanbarthol: Menter a Busnes (yn y Gogledd) ac Iechyd Da (Gwledig) Ltd yn y De. Y ddau gyflenwr hyn fydd yn gyfrifol am glustnodi milfeddygon a sicrhau bod y gwaith yn cael ei gynnal i’r safon ofynnol. Diben y trefniadau newydd yw llunio er mwyn rhoi lefel uwch o sicrwydd ynghylch safon y profi a gwerth am arian. Milfeddygon preifat, lleol fydd yn cynnal y profion ac o dan y trefniadau newydd bydd cyfraniad y milfeddygon hyn yn  parhau i fod yn bwysig wrth fynd ati i reoli clefydau anifeiliaid a chyflenwi rhaglenni allweddol megis Cymorth TB, a hynny fel rhan o’n rhaglen ehangach i ddileu TB. Caiff profion TB Gamma Interferon eu hariannu gan Lywodraeth Cymru ac maent yn cael eu cyflwyno i Ganolfan Archwilio Milfeddygol yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yng Nghaerfyrddin. O gynnig y gwasanaeth hwn yng Nghymru, bydd yn cynnig manteision pwysig i’r rhaglen i ddileu TB.  Hefyd, bydd y datblygiad hwn yn creu tair swydd newydd. Yn y tymor hir, byddwn yn gweithio gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion er mwyn ehangu’r amrywiaeth o brofion sy’n cael eu cynnal yn y labordy yn y ganolfan hon. 

Rydym hefyd yn gweithio gyda’r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion i ddatblygu Canolfan Filfeddygol Arbenigol ar gyfer Cynhyrchu Da Byw ar Raddfa Eang. Bwriedir i’r ganolfan gael ei lleoli ar y safle yng Nghaerfyrddin. Mae ffermio ar raddfa eang yn elfen bwysig o amaethyddiaeth yng Nghymru. Felly, bydd cael canolfan filfeddygol arbenigol yng Nghymru yn cynnig posibiliadau sylweddol o safbwynt gwella iechyd a lles anifeiliaid ac o ran yr elw y gellir ei wneud ohonynt drwy ffermio yn y fath fodd.

Nodwedd allweddol o’r system wyliadwriaeth sy’n angenrheidiol er mwyn amddiffyn anifeiliaid rhag clefydau yw mynediad hwylus at wasanaeth archwiliadau post mortem. Mae llai o wasanaethau o’r fath wedi bod ar gael yng Nghymru ac felly rydw i’n falch iawn y bydd y gwasanaeth hwn ar gael unwaith eto maes o law ledled Cymru. I’r rhai sy’n byw o fewn awr i Gaerfyrddin, bydd yr Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion yn parhau i ddarparu’r gwasanaeth. I’r rheini sy’n byw o fewn awr i Aberystwyth bydd Iechyd Da (Gwledig) Ltd yn darparu’r gwasanaeth mewn cydweithrediad â Phrifysgol Aberystwyth a Chynhyrchwyr Cig Oen a Chig Eidion Cymru. Yn ogystal â’r tair swydd newydd fydd yn cael eu creu, a’r posibilrwydd am fwy o swyddi, mae’r gwasanaeth hwn yn gam cyntaf pwysig tuag at wireddu’r weledigaeth ehangach o sefydlu Canolfan Filfeddygol yn Aberystwyth. Bydd gwasanaeth casglu carcasau yn cael ei gyflwyno yng ngweddill ardaloedd Cymru, a hynny ar ôl inni ymgynghori â milfeddygon lleol.  

Law yn llaw â’r newidiadau pwysig hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad yng Nghymru, rydw i wedi gofyn i fy swyddogion edrych ar yr opsiynau sydd ar gael i’r Llywodraeth o safbwynt cyflenwi gwasanaethau maes ar gyfer iechyd a lles anifeiliaid yn y dyfodol. Rydw i eisiau sicrhau bod y gwasanaethau yn parhau i esblygu, eu bod yn addas at y diben ac yn parhau i fod yn gydnaws â’n blaenoriaethau a’r weledigaeth strategol. Rhaid i’n gwasanaethau milfeddygol yn y dyfodol fod yn effeithiol a  bydd yn rhaid i’r llywodraeth a’r sector preifat weithio mewn partneriaeth. Yn ogystal, mae’n hanfodol bod gennym y gallu i ganfod unrhyw glefydau egsotig mewn anifeiliaid yn y dyfodol a’n bod yn gallu mynd i’r afael â nhw.  

Mae ffermio da byw wrth galon llawer o gymunedau cefn gwlad ac mae’n cynnig cefnogaeth bwysig i fusnesau lleol mewn sectorau fel twristiaeth a hamdden. Drwy gefnogi a gwella’r gwasanaethau sy’n cynnal y proffesiwn milfeddygol yn y ffordd hon, rydym yn helpu ffermwyr i addasu a datblygu ar gyfer y dyfodol, cryfhau ein cymunedau gwledig a chodi safonau iechyd a lles anifeiliaid yng Nghymru.

Caiff y datganiad ei gyhoeddi yn ystod y toriad er mwyn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i aelodau. Os bydd aelodau eisiau i mi wneud datganiad pellach neu ateb cwestiynau ynglŷn â hyn pan fydd y Cynulliad yn dychwelyd, byddwn yn hapus i wneud hynny.