Huw Lewis, y Gweinidog Addysg a Sgiliau
Ar 13 Mehefin, rhannodd fy rhagflaenydd yr wybodaeth ddiweddaraf ag Aelodau’r Cynulliad am y trefniadau ar gyfer cymwysterau UG a Safon Uwch yn y dyfodol yng Nghymru. Mae’r datganiad hwn yn rhoi mwy o wybodaeth am y rhaglen ehangach i ddiwygio TGAU, UG a Safon Uwch yng Nghymru.
A Llywodraeth Cymru wedi derbyn argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau ar gyfer pobl ifanc 14 i 19 oed yng Nghymru, rydym eisoes wedi ymrwymo i gyflwyno pedwar TGAU newydd i’w haddysgu am y tro cyntaf ym Medi 2015 – Cymraeg Iaith Gyntaf, Saesneg Iaith, rhifedd a thechnegau mathemateg.
Ar hyn o bryd, rydym wrthi’n gweithio gyda rhanddeiliaid i ddatblygu’r cymwysterau newydd hyn ac, yn ystod yr hydref, byddwn yn ymgynghori ar egwyddorion cynllunio drafft ar eu cyfer yn ogystal ag ar deitlau’r ddau TGAU mathemateg newydd. Bydd ein strategaeth gyfathrebu ledled y DU yn hyrwyddo’r cymwysterau sydd ar gael yng Nghymru, yn eu hesbonio ac yn ennyn hyder ynddynt. Bydd hefyd yn sicrhau bod y grwpiau perthnasol yn eu deall ac yn cydnabod eu bod o safon sy’n gyfwerth â’r gorau yn y byd.
Yn ogystal â’n hymrwymiadau presennol o ran TGAU ar gyfer Medi 2015, mae’n debygol y byddwn hefyd yn cyflwyno cymwysterau TGAU diwygiedig ar gyfer Cymraeg Llenyddiaeth a Saesneg Llenyddiaeth yr adeg honno. Yn unol ag argymhellion yr Adolygiad o Gymwysterau, bydd i’r cymwysterau TGAU newydd, lle bo’n briodol, fodiwlau a haenau ac efallai elfennau o asesu dan reolaeth.
Er bod y pynciau hyn yn cael blaenoriaeth ar hyn o bryd, nid ydym am ddiystyru’r posibilrwydd y gallem ddiwygio cymwysterau TGAU eraill i’w haddysgu am y tro cyntaf ym Medi 2015. Yn benodol, rwyf wedi gofyn i swyddogion ystyried pa mor briodol yw’r cymwysterau TGAU gwyddoniaeth ar hyn o bryd – gan edrych yn arbennig ar addasrwydd y manylebau mwy galwedigaethol.
Mae’n bwysig bod y newidiadau i’n cymwysterau yn cael eu gweithredu’n raddol mewn ffordd y gallwn ei rheoli. Byddwn yn rhannu mwy o wybodaeth yn nhymor yr hydref am y rhaglen i gyflwyno cymwysterau TGAU wedi’u diwygio yn y pynciau eraill yn 2016 a 2017. Bydd y rhaglen hon yn datblygu ar sail yr adolygiad parhaus o drefniadau asesu a’r Cwricwlwm Cenedlaethol yng Nghymru.
Mewn perthynas â chymwysterau Safon Uwch, mae fy rhagflaenydd eisoes wedi cyhoeddi ein hymrwymiad i ddiddymu asesiadau Ionawr ar ôl Ionawr 2014, gan gadw UG a Safon Uwch yn gymwysterau cysylltiedig a chan gyfyngu’r cyfleoedd i ailsefyll arholiad i un fesul modiwl. Ar hyn o bryd rydym wrthi’n gweithio ar fanylion y penderfyniadau hyn ac yn ymchwilio i’r graddau y gallai Llywodraeth Cymru gytuno ar rai o’r manylion ynghylch y cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig gyda’u swyddogion cyfatebol yng Ngogledd Iwerddon. Mae hyn yn cynnwys pwysoliad cymharol elfennau UG ac A2 y cymwysterau lefel A diwygiedig.
Dros y misoedd diwethaf, bu CBAC a chyrff dyfarnu eraill yn ymgynghori â Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru a Lloegr, ac â rhanddeiliaid eraill, ynghylch newidiadau posibl i gynnwys cymwysterau Safon Uwch diwygiedig yn Lloegr. Roedd yr Adolygiad o Gymwysterau yn argymell y dylem ‘gadw’r un Safonau Uwch â Lloegr a Gogledd Iwerddon lle’n bosibl’. Yng ngoleuni hyn, rydym o’r farn ar hyn o bryd y dylai’r cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig, os yw’n briodol, rannu’r un cynnwys ag sydd yn Lloegr (a Gogledd Iwerddon o bosibl). Rydym hefyd yn ystyried ei bod yn briodol cyflwyno cymwysterau UG a Safon Uwch diwygiedig, i’r graddau posibl, ar yr un pryd yng Nghymru, Lloegr a Gogledd Iwerddon. Fel gyda TGAU, bydd mwy o wybodaeth ar y rhaglen i ddiwygio cymwysterau UG a Safon Uwch ar gael yn ystod tymor yr hydref.
Mae hon yn adeg gyffrous o ran cymwysterau yng Nghymru ac aeth fy rhagflaenydd ati i ddechrau proses ddiwygio lle bydd Cymru yn datblygu ei system gymwysterau ei hun – sydd wedi’i chynllunio, mewn ymgynghoriad â’n partneriaid, i ddiwallu anghenion Cymru. Rwy’n gwbl ymroddedig i ddatblygu’r agenda hon ond rwy’n ymwybodol iawn bod rhaglen ddiwygio o’r fath yn dod â’i heriau yn ogystal â’i chyfleoedd. Ond drwy gydweithio, rwy’n argyhoeddedig y gallwn oresgyn yr heriau a chydio yn y cyfle hanesyddol hwn i weithredu dros bobl ifanc Cymru.