Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, Gweinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ebrill 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Hoffwn hysbysu aelodau sut y bydd Llywodraeth Cymru yn buddsoddi £2 filiwn yn ystod 2017-18 i gefnogi rhaglen genedlaethol i hybu a hwyluso’r defnydd o’r Gymraeg. Mae hwn yn rhan o fuddsoddiad o £5 miliwn ychwanegol ar gyfer y Gymraeg yn 2017-18 sy’n ein cynorthwyo ni i weithredu tuag at ein gweledigaeth o filiwn o siaradwyr erbyn 2050.

Mae hybu a hwyluso’r Gymraeg yn elfen bwysig o’n hymdrechion i wireddu’r weledigaeth. Rwy’n awyddus ein bod fel Llywodraeth yn rhoi mwy o sylw i hybu a hwyluso defnydd o’r Gymraeg ar draws ein cymunedau a’n gweithleoedd, mewn cyd-destunau ffurfiol ac anffurfiol.

Fel rhan o’r rhaglen newydd, byddwn yn canolbwyntio ar:

  • Sefydlu Pwynt Cyswllt clir fydd yn helpu unigolion a chyrff i gael gafael ar wybodaeth berthnasol am y Gymraeg, gan gynnwys cyfieithiadau byr i fusnesau bach ac eraill
  • Creu ac ehangu ymgyrchoedd hybu cenedlaethol i annog defnyddio’r Gymraeg mewn meysydd penodol fel y sector preifat, gweithio gyda rhieni i’w hannog i anfon eu plant i addysg cyfrwng Cymraeg, cynyddu defnydd o wasanaethau Cymraeg, a hyrwyddo defnydd ymysg pobl ifanc, yn enwedig yn y byd gwaith a chwaraeon.
  • Cydlynu a chomisiynu cymorth ymarferol ar gyfer hwyluso defnydd o’r Gymraeg ymysg busnesau bach
  • Cynyddu cydweithrediad yn y maes cynllunio iaith er mwyn cryfhau rhwydweithiau a rhannu arbenigedd
Byddaf hefyd yn sefydlu Grŵp Gorchwyl a Gorffen i’n cynghori ni ar waith y Rhaglen Hybu Defnydd. Rwy’n hapus i gyhoeddi mai Rhian Huws Williams fydd yn cadeirio’r grŵp. Mae gan Rhian brofiad sylweddol o hyrwyddo pwysigrwydd defnyddio’r Gymraeg - yn ddiweddar bu’n Cadeirio grŵp a ddatblygodd ein Strategaeth Gymraeg yn y sector iechyd – Mwy na Geiriau ar ran y Gweinidog Iechyd, ac rwy’n hyderus y bydd ei chymorth hi ac aelodau eraill y Grŵp yn werthfawr wrth symud yr agenda ymlaen. Byddaf yn cyhoeddi enwau gweddill y Grŵp yn yr wythnosau nesaf.

Un o’r themâu a godwyd yn yr ymgynghoriad ar ein Strategaeth newydd ar gyfer y Gymraeg oedd yr angen am fwy o eglurder ar unigolion ar lle i droi am gyngor ac arweiniad ynghylch sut i hybu’r defnydd o’r Gymraeg. Mae hwn yn gwestiwn y bydd y papur gwyn ar ddiwygio Mesur y Gymraeg yn ei ystyried pan gaiff ei gyhoeddi yn yr haf. Byddwn yn rhoi ystyriaeth i’r strwythurau mwyaf addas ar gyfer y dyfodol er mwyn sicrhau cydbwysedd priodol yn y berthynas rhwng hybu a hwyluso ar y naill law a rheoleiddio ar y llall.

Mae’r buddsoddiad hwn yn gyfle i ni rhoi hwb i’r gwaith sydd eisoes yn digwydd, ac i ni arbrofi gyda dulliau newydd, arloesol. Bydd y gwaith yn cael ei arwain a’i weithredu gan y Llywodraeth mewn cydweithrediad â’n partneriaid, a byddwn yn gweithio’n agos gyda Chomisiynydd y Gymraeg i wireddu blaenoriaethau’r Rhaglen.

Hoffwn hefyd nodi fod y gwaith o lunio strategaeth hir-dymor i wireddu ein gweledigaeth yn parhau a’n bwriad yw cyhoeddi yn ystod yr haf. Yn y cyfamser, bydd ein Strategaeth gyfredol – Iaith fyw: iaith byw a’r cynllun gweithredu cyfredol yn parhau yn weithredol.