Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
4 Mawrth 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 4 Mehefin 2024, cyhoeddais fod Julie Morgan AS wedi cytuno i arwain adolygiad cyflym o'r Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf i ystyried sut y gellir gwneud y mwyaf o ddarpariaeth yn ystod cyfnod gwyliau'r haf ac i sicrhau bod y dysgwyr mwyaf anghenus yn gallu cael mynediad at y rhaglen. 

Mae Julie Morgan AS wedi gorffen ei hadolygiad ac wedi cyflwyno ei hadroddiad terfynol gydag argymhellion ym mis Rhagfyr 2024.  Mae hwn ar gael yn Raglen Gwella Gwyliau'r Haf (SHEP): adroddiad interim.

Mae Rhaglen Gwella Gwyliau’r Haf yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu i ddarparu cynllun ar sail ysgolion sy'n darparu prydau iach, addysg am fwyd a maeth, gweithgaredd corfforol a sesiynau cyfoethogi i ddysgwyr mewn ardaloedd sydd o dan anfantais economaidd-gymdeithasol am o leiaf 12 diwrnod yn ystod gwyliau ysgol yr haf. Caiff y rhaglen ei rheoli gan Gymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a'i hyrwyddo i ddysgwyr a theuluoedd o dan y brand 'Bwyd a Hwyl'.

Roeddwn yn falch o allu darparu dros £4.85 miliwn ar gyfer 'Bwyd a Hwyl' yn y flwyddyn ariannol hon a wnaeth helpu 205 o gynlluniau i redeg dros yr haf, gan gynnig dros 13,000 o leoedd i blant mewn ardaloedd o anfantais economaidd-gymdeithasol. Mae'r adolygiad wedi nodi lle y gellir gwneud hyd yn oed mwy o'r ddarpariaeth. 

Rwyf wedi ystyried a chytuno â'r argymhellion hyn ac wedi gofyn i'm swyddogion fwrw ymlaen â'u gweithredu, gan gynnwys trafodaeth bellach fanwl ar ail gam. Rwyf hefyd wedi sicrhau bod £1 miliwn arall o gyllid ar gael i'r rhaglen yn fy nghyllideb yn 2025-26, fel rhan o'r pecyn cyllid i gefnogi presenoldeb a mynd i'r afael ag ymddieithrio oddi wrth addysg a gyhoeddais ym mis Rhagfyr.

Hoffwn roi ar gof a chadw fy niolch i Julie Morgan AS am ymgymryd â'r gwaith hwn. Mae wedi rhoi dealltwriaeth bellach i mi o'r cyfleoedd a'r heriau sy'n ymwneud â'r rhaglen, y manteision i'r rhai sy'n cymryd rhan a'u teuluoedd, ac ymdrechion sylweddol pawb sy'n rheoli'r rhaglen ac sy'n ymwneud â'i darparu o ddydd i ddydd, sydd wedi bod yn allweddol wrth barhau i wneud y Rhaglen yn gymaint o lwyddiant. 

Rwy'n cyhoeddi'r Datganiad Ysgrifenedig hwn i sicrhau bod y Senedd yn cael ei diweddaru'n llawn ar y maes pwysig iawn hwn.