Neidio i'r prif gynnwy

Jack Sargeant AS, Y Gweinidog Diwylliant, Sgiliau a Phartneriaeth Gymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
19 Medi 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Rhaglen Cyfalaf Trawsnewid Diwylliannol yn anelu at gefnogi llyfrgelloedd cyhoeddus, amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau i drawsnewid eu gwasanaethau, moderneiddio eu cyfleusterau ac i wella’r hyn a gynigir ganddynt i bobl a chymunedau.  Mae’r rhaglen yn fuddsoddiad pellach yn ein sectorau diwylliannol lleol.

Mae’r rhaglen yn canolbwyntio ar wella mynediad, gweithio mewn partneriaeth, datgarboneiddio a datblygu gwasanaethau mwy cynaliadwy. Ers 2017 darparwyd dros £10.5 miliwn, gan helpu i drawsnewid y gwasanaethau hanfodol hyn.

Bydd cylch 2024-25 yn cefnogi 6 phrosiect, 3 amgueddfa a 3 llyfrgell.  Mae gwerth rhaglen eleni ychydig dros £1.271 miliwn. 

O drawsnewid safleoedd i gael eu defnyddio’n well mewn cymunedau, gan alluogi mwy o fynediad a chyfranogiad a chefnogi iechyd a lles defnyddwyr, i gadw casgliadau ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol, mae’r rhaglen yn gyfle hanfodol i’r gwasanaethau hyn a’u cymunedau. 

Mae pob un o’r prosiectau yn cyd-fynd ac yn cefnogi’r nodau llesiant a ymgorfforir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol, ein hymrwymiadau yng Nghynllun Gweithredu Cymru Wrth-hiliol a’n cynnydd o ran Cymru Sero Net.

Bydd prosiect Amgueddfa Criced Cymru CC4 Mae criced wedi bod, ac yn dal i fod, yn gêm i bawb yn elwa ar gyfraniad grant i gefnogi'r amgueddfa i gadw a dathlu criced a'i dreftadaeth ddiwylliannol gyfoethog a chynyddu cyfleoedd ymgysylltu ar gyfer cymunedau Du, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig lleol.

Dyfarnwyd cyllid i Gyngor Sir Ddinbych ddatblygu Plas Newydd, gan wella eu mannau arddangos i alluogi mwy o fynediad at stori a chasgliadau Merched Llangollen.

Mae gwybodaeth am yr holl brosiectau sy’n cael eu hariannu drwy’r cyfnod grant diweddar ar gael yma: https://www.llyw.cymru/rhaglen-grant-cyfalaf-trawsnewid-grantiau-ddyfarnwyd 

Mae cyfnod grant arall wedi cau yn ddiweddar a bydd yn darparu cyllid i brosiectau llwyddiannus o fis Ebrill 2025.