Neidio i'r prif gynnwy

Eluned Morgan AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi fy mod wedi derbyn cyngor y Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) ac y bydd rhaglen imiwneiddio RSV yn dechrau yng Nghymru ym mis Medi i ddiogelu babanod ac oedolion hŷn: 

https://www.gov.uk/government/publications/rsv-immunisation-programme-jcvi-advice-7-june-2023

Mae’r feirws syncytiol anadlol (RSV) yn un o’r feirysau cyffredin sy’n achosi peswch ac annwyd yn y gaeaf. Yn fyd-eang, mae RSV yn heintio hyd at 90% o blant yn ystod dwy flynedd gyntaf eu bywyd, a bydd plant hŷn ac oedolion yn aml yn cael eu hailheintio gan y feirws. Babanod o dan flwydd oed a’r henoed sy’n wynebu’r risg fwyaf o orfod mynd i’r ysbyty oherwydd yr haint.

Ystyrir bod baich RSV ar gyfer plant ac oedolion hŷn yn y DU yn fwy na’r ffliw. Mae cyflwyno rhaglen frechu newydd i ddiogelu rhag RSV yn rhywbeth sy’n peri cryn gyffro. Bydd yn helpu i ddiogelu’r rhai mwyaf agored i niwed yn ogystal â chefnogi’r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) dros y gaeaf. 

Rwy’n cyhoeddi:

  • Cynnig brechiad RSV rheolaidd drwy gydol y flwyddyn i oedolion hŷn wrth iddynt droi’n 75 oed, gan gynnal ymgyrch untro dros gyfnod o 12 mis i unigolion rhwng 75 a 79 oed
  • Rhaglen frechu RSV reolaidd i famau drwy gydol y flwyddyn, ar gyfer pob menyw feichiog, wedi’i thargedu at ddiogelu eu babanod newydd-anedig, a gynigir o 28 wythnos o feichiogrwydd ymlaen

Er gwaethaf difrifoldeb ac effaith RSV, mae’n feirws nad yw llawer iawn o bobl yn ymwybodol ohono. Bydd ymgyrch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd yn bwysig iawn i gefnogi dealltwriaeth y cyhoedd o’r feirws ac i gefnogi pobl i wneud penderfyniad sy’n seiliedig ar y ffeithiau wrth ystyried cael y brechiad newydd. Bydd Iechyd Cyhoeddus Cymru yn cynnal yr ymgyrch codi ymwybyddiaeth hon cyn lansio’r rhaglen yn yr hydref.

Mae sefydliadau GIG Cymru wedi bod yn cyd-drafod â Rhaglen Frechu Cymru, yng Ngweithrediaeth GIG Cymru, dros fisoedd lawer i gynllunio’r rhaglenni newydd. Fel ag erioed, rwy'n ddiolchgar iawn i’r Gwasanaeth Iechyd ac i bawb sy'n ymwneud â'r rhaglen frechu am eu gwaith caled parhaus i helpu i gadw'r rhai mwyaf agored i niwed yn ein cymunedau yn ddiogel.

Rwy’n annog pawb sy’n gymwys i dderbyn eu gwahoddiad i gael eu brechu, er mwyn diogelu nhw eu hunain, y rhai sy’n agos atynt, a’r Gwasanaeth Iechyd.