Neidio i'r prif gynnwy

Huw Lewis, Y Gweinidog Addysg a Sgiliau

Cyhoeddwyd gyntaf:
15 Mawrth 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae momentwm newydd ym myd addysg yng Nghymru o ganlyniad i'n diwygiadau. Tynnodd adroddiad blynyddol diweddaraf Estyn sylw at y ffaith ein bod yn gwneud cynnydd da o ran gwella sgiliau sylfaenol, ymddygiad a phresenoldeb. Mae mwy o bobl ifanc yn llwyddo i gael 5 neu ragor o gymwysterau TGAU da, ac mae ein dysgwyr o gefndiroedd difreintiedig yn dechrau dal i fyny â'u cyfoedion mwy cyfforddus eu byd.

Mae safonau'n codi - ond byddwn yn parhau i yrru'r broses o wella yn ei blaen. Fis Gorffennaf y llynedd, derbyniais bob un o'r argymhellion a wnaed gan yr Athro Graham Donaldson yn ei adroddiad Dyfodol Llwyddiannus ynghylch datblygu cwricwlwm a threfniadau asesu newydd. Dangosodd hyn ein bwriad i wneud newidiadau sylfaenol i addysgu a dysgu yng Nghymru. Mae gennym weledigaeth glir o'r math o system addysg rydym ei heisiau i Gymru. Wrth galon y cwricwlwm newydd mae pedwar diben eglur - y bydd pob un o'n plant a'n pobl ifanc yn ddysgwyr uchelgeisiol a galluog; yn gyfranwyr mentrus a chreadigol; yn ddinasyddion egwyddorol a gwybodus; ac yn unigolion iach a hyderus.

Ym mis Hydref, pan gyhoeddais Cwricwlwm i Gymru, Cwricwlwm am Oes, gofynnais i'r proffesiwn a'r system addysg ehangach gydweithio â ni i ddylunio a datblygu cwricwlwm newydd wedi'i lunio'n benodol ar gyfer Cymru. Bum mis yn ddiweddarach, mae seiliau cadarn wedi'u gosod. Mae'r cynnydd sydd wedi'i wneud, ynghyd â'r brwdfrydedd a'r arweinyddiaeth sy'n cael ei ddangos gan y system addysg gyfan yng Nghymru'n fy nghalonogi. Mae ein hysgolion a'n hymarferwyr ar flaen y gad, yn gweithio gyda'r llywodraeth, undebau'r gweithlu a'r system ehangach i ddylunio, ymgynghori, hysbysu, cefnogi, a chynyddu capasiti yn ein hysgolion ledled Cymru. Mae dros 175 o ysgolion o bob cwr o Gymru'n rhan o'r Rhwydwaith Ysgolion Arloesi a fydd yn arwain y broses o newid.

Mae'r Ysgolion Arloesi'n gweithio fel un rhwydwaith integredig ac maent yn canolbwyntio ar dair elfen, sef:

  • dylunio a datblygu fframwaith cymhwysedd digidol
  • dylunio a datblygu'r cwricwlwm newydd
  • datblygu dysgu proffesiynol drwy'r Fargen Newydd i sicrhau bod gan y proffesiwn addysg yng Nghymru'r sgiliau a'r hyder i ddefnyddio'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus i gefnogi addysgu a dysgu.

Cyfarfu'r Ysgolion Arloesi sy'n canolbwyntio ar ddatblygu'r cwricwlwm newydd â'i gilydd am y tro cyntaf mewn dau ddigwyddiad lansio ac ymsefydlu ym mis Ionawr. Maen nhw'n cyfarfod eto heddiw ac yfory yn Llandudno er mwyn meddwl ymhellach am strwythur cyffredinol y cwricwlwm newydd ac i gynllunio'r modd y byddant yn mynd ati i wneud y gwaith hwn. Drwy gydol y broses, bydd rôl yr Ysgolion Arloesi'n cynnwys rhannu teithi meddwl newydd ag ysgolion a lleoliadau eraill yng Nghymru, a'u trafod gyda nhw. Bydd y rhwydwaith yn cael ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, undebau'r gweithlu, awdurdodau lleol a'u consortia rhanbarthol ac Estyn. Byddant yn gweithio gydag amrywiaeth eang o randdeiliaid wrth iddynt ddatblygu'r cwricwlwm a'r chwe Maes Dysgu a Phrofiad. Bydd Ysgolion Arloesi'n defnyddio ymchwil ryngwladol, tystiolaeth ac arfer gorau a bydd arbenigwyr ym maes addysg ar gael iddyn nhw, i gynnig cyngor ac i'w herio.

Prif nod yr Ysgolion Arloesi sy'n cydweithio ar elfen y Fargen Newydd, fydd datblygu dysgu proffesiynol, gan ganolbwyntio ar addysgeg ac arweinyddiaeth er mwyn sicrhau bod gan ein holl ymarferwyr yng Nghymru'r sgiliau a'r hyder i ddefnyddio'r cwricwlwm newydd yn llwyddiannus. Erbyn mis Gorffennaf 2016, bydd yr Ysgolion Arloesi hyn wedi datblygu cynllun gweithredu manwl, gyda chymorth eu consortiwm rhanbarthol, a fydd yn nodi'r meysydd y byddan nhw'n canolbwyntio arnynt rhwng mis Medi 2016 a mis Gorffennaf 2017. Bydd Ysgolion Arloesi'r Fargen Newydd hefyd yn bwrw ymlaen â phrosiectau penodol i ymdrin â phroblemau'n ymwneud â baich gwaith ac i gynyddu capasiti o fewn y system.

Rydym wedi pennu amserlen sy'n uchelgeisiol ond yn bosibl ei chyflawni. Bydd y sylfeini rydym ni'n eu gosod ar gyfer y gwaith ar hyn o bryd, ynghyd ag ymrwymiad parhaus i weithio gyda phartneriaid ac i ymateb i sylwadau adeiladol, yn ein rhoi mewn safle da i allu cyflawni'r gwaith. Rwy'n credu y bydd y cwricwlwm a'r fframwaith asesu newydd, ynghyd â'r gefnogaeth broffesiynol angenrheidiol, ar gael erbyn mis Medi 2018, yn barod i'w defnyddio i gefnogi addysgu a dysgu mewn ysgolion a lleoliadau eraill erbyn mis Medi 2021.

Bydd y cwricwlwm newydd yn golygu newid o ran diwylliant ac o ran arfer. Byddwn yn sicrhau bod ysgolion, lleoliadau a sefydliadau Addysg Bellach yn rhan o'r daith hon -bydd cydweithredu a gweithio fel partneriaid go iawn yn ganolog i hyn.

Drwy weithio gyda'n gilydd, rhannu gwybodaeth a rhoi prawf ar syniadau - bydd yr holl weithlu addysgu'n cymryd rhan yn y broses greadigol hon i ddylunio cwricwlwm i Gymru ar gyfer y dyfodol.

Nid ydym yn cychwyn o ddim; rydym yn datblygu cryfderau'r diwygiadau rydym wedi'u gwneud eisoes, gan gynnwys y Fframwaith Llythrennedd a Rhifedd a'r Cyfnod Sylfaen.

O ganlyniad i'n gwaith diwygio ni, bydd cymhwysedd digidol hefyd yn dod yn gyfrifoldeb trawsbynciol, ynghyd â llythrennedd a rhifedd. Mae gallu defnyddio technoleg ddigidol yn hyderus ac yn greadigol yn dod yn rhan bwysicach bob dydd o'n bywydau, ein dysgu a'n gwaith. Mae cymhwysedd digidol yn chwarae rhan mor bwerus ym mywydau plant a phobl ifanc, mae'n hollbwysig bod y gwaith hwn yn mynd rhagddo'n ddi-oed. Dyma pam mai'r garreg filltir bwysig gyntaf ar y ffordd tuag at gwricwlwm newydd fydd cyhoeddi'r Fframwaith Cymhwysedd Digidol erbyn mis Medi 2016.

Mae cynnydd ardderchog eisoes wedi cael ei wneud. Mae Fframwaith drafft wedi cael ei ystyried gan gonsortia rhanbarthol, yr Ysgolion Arloesi Digidol a rhai o ysgolion eu clystyrau. Mae Grŵp Sicrhau Ansawdd allanol, o dan gadeiryddiaeth yr Athro Tom Crick, wedi adolygu'r fframwaith. Bydd Ysgolion Arloesi'r Fargen newydd a'r Ysgolion Arloesi Digidol yn gweithio gyda'i gilydd i nodi pa gymorth sydd ei angen i gysylltu ag undebau'r gweithlu, rhanddeiliaid eraill ac ysgolion.

O fis Medi ymlaen, caiff pob ysgol a lleoliad ddechrau ymgyfarwyddo â'r fframwaith newydd a'i ddefnyddio i gefnogi eu harfer digidol a'u helpu i baratoi ar gyfer y cwricwlwm newydd. Bydd Ysgolion Arloesi sy'n datblygu'r cwricwlwm newydd yn defnyddio'r fframweithiau cymhwysedd digidol, llythrennedd a rhifedd i wreiddio cyfrifoldebau trawsbynciol yn ddwfn ar draws pob Maes Dysgu a Phrofiad.

Cyflwynodd Cwricwlwm i Gymru – Cwricwlwm am Oes gynllun ar gyfer cyflawni ein huchelgais o sicrhau profiad addysgol eang, cytbwys, cynhwysol a heriol, sy'n gallu darparu poblogaeth fedrus sydd wedi'i haddysgu'n dda, ac a fydd yn barod ar gyfer y dyfodol. Ar sail y cynnydd da a wnaed hyd yn hyn, rwy'n hyderus y bydd y cwricwlwm a'r trefniadau asesu newydd yn datblygu'n unol â'n cred ni bod pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru'n haeddu cael profiad dysgu ac addysgu o'r radd flaenaf un.

Mae'n destun balchder i mi fy mod wedi cychwyn ar y daith hon gyda'n hysgolion a'n holl bartneriaid - unwaith mewn cenhedlaeth y daw cyfle fel hwn, ac ni allai'r wobr ar ben y daith fod yn fwy pwysig, i ddysgwyr, i ymarferwyr, nac yn wir i unrhyw un sy'n gysylltiedig ag addysg.