Neidio i'r prif gynnwy

Lynne Neagle AS, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Gorffennaf 2024
Diweddarwyd ddiwethaf:

Fel rhan o ymrwymiad parhaus Llywodraeth Cymru i sefydlu proffesiwn sy'n seiliedig ar dystiolaeth a gwella cyfleoedd i addysgwyr yng Nghymru er mwyn cefnogi'r broses o weithredu'r Cwricwlwm i Gymru, rwy'n falch o gadarnhau y bydd rhaglen Doethur Addysg (EdD) (Cymru), rhaglen ddwyieithog newydd, ar gael o fis Ionawr 2025.

Gan adeiladu ar lwyddiant yr MA Addysg Cenedlaethol (Cymru) a'r bartneriaeth gref bresennol rhwng Prifysgolion Cymru, bydd yr EdD (Cymru) yn cynnig llwybr clir i weithwyr proffesiynol sy'n awyddus i adeiladu ar y profiad dysgu ac ymchwil a gafwyd drwy eu cwrs Meistr, trwy weithio gydag academyddion ar draws y prifysgolion yng Nghymru sy'n cymryd rhan a chydag arbenigwyr ymchwil yn rhyngwladol. 

Yn 2017, fe wnes i gadeirio adroddiad y pwyllgor Plant, Pobl Ifanc ac Addysg ar yr ymchwiliad i Addysg a Dysgu Proffesiynol Athrawon. Roedd yr adroddiad hwn yn ei gwneud yn glir bod datblygiad proffesiynol parhaus yn hanfodol er mwyn i'r proffesiwn addysgu gyflawni'r gofynion sydd arnynt, gofynion sy'n newid yn barhaus, ac rwyf wrth fy modd y bydd MA Addysg Cymru a nawr EdD Cenedlaethol Cymru yn rhoi cyfle i weithwyr addysg proffesiynol ffynnu trwy eu gyrfaoedd.

Nod yr EdD Cenedlaethol (Cymru) yw sicrhau bod mwy o gapasiti ymchwil yn cael ei feithrin o fewn system addysg Cymru. Bydd yn gyfle unigryw, felly, i ymestyn a gwella gwybodaeth, sgiliau ac arbenigedd o safbwynt ymchwil. 

Mae hwn yn ddatblygiad hynod gadarnhaol a bydd yn sicrhau bod gennym ddarlithwyr addysg sydd wedi'u cymhwyso'n briodol ar gyfer carfanau'r dyfodol. Bydd rhagor o wybodaeth ar gael maes o law.