Mick Antoniw AS, y Cwnsler Cyffredinol a Gweinidog y Cyfansoddiad
Ar 10 Mai 2022, agorodd Ei Uchelder Brenhinol Tywysog Cymru sesiwn newydd Senedd y DU yn ffurfiol ar ran Ei Mawrhydi y Frenhines. Amlinellodd ddeddfwriaeth arfaethedig Llywodraeth y DU ar gyfer y sesiwn newydd.
Dylai deddfwriaeth sylfaenol mewn meysydd sydd wedi’u datganoli gael ei deddfu fel arfer gan Senedd Cymru (‘y Senedd’) – dyna ein safbwynt sylfaenol. Fodd bynnag, gall fod rhai amgylchiadau pan fo’n synhwyrol bod darpariaeth, sydd o fewn cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd, yn cael ei chynnwys mewn Biliau gan Senedd y DU, gyda chaniatâd penodol y Senedd.
Ym mis Hydref 2021, ysgrifennais i’r Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad yn y Senedd yn amlinellu ein hegwyddorion ar gyfer ystyried caniatâd i ddarpariaethau datganoledig ym Miliau’r DU. Er enghraifft, byddwn yn ystyried defnyddio Bil gan Senedd y DU pan fydd hynny’n golygu y gellid newid y gyfraith yn gyflymach nag y gallem gyflawni newid o’r fath drwy ein rhaglen ddeddfwriaethol ein hunain, neu pan fo’n synhwyrol bod y gyfundrefn reoleiddio yn cydweddu yng Nghymru a Lloegr. Byddwn yn parhau i ddilyn yr egwyddorion hyn.
Mae unrhyw gynnig a allai beri bod un o Filiau Senedd y DU yn deddfu mewn maes sydd wedi’i ddatganoli yn cael ei ystyried yn ofalus iawn gan Lywodraeth Cymru. Er mwyn gallu ystyried fel hyn, mae’n hanfodol sicrhau bod trefniadau ymgysylltu cynnar ac effeithiol ar waith rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y DU. Yn ei dro, golyga hyn hefyd fod modd llunio memoranda cydsyniad deddfwriaethol amserol, sy’n seiliedig ar y ffeithiau llawn, i’w cyhoeddi i alluogi'r Senedd i graffu ar gynigion o’r fath.
Yn dilyn trafodaethau yng nghyfarfod cyntaf y Pwyllgor Sefydlog Rhyngweinidogol ar 23 Mawrth, rwyf wedi fy nghalonogi gan y ffaith y cafwyd ymgysylltu cadarnhaol rhwng swyddogion Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru ar nifer o Filiau yn rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU. Croesawaf hefyd yr ymgysylltu cadarnhaol sy'n parhau rhwng fy swyddogion i a Chomisiwn y Senedd ar y broses cydsyniad deddfwriaethol – hyderaf y bydd hyn o gymorth wrth graffu ar Filiau gan Senedd y DU.
Rwy'n ymwybodol, fodd bynnag, yn ystod sesiwn ddiwethaf Senedd y DU, y gwelwyd nifer o achosion pan na chafodd Confensiwn Sewel ei barchu. Mae’r diffyg ymgysylltu mewn perthynas â rhai Biliau yn parhau’n destun pryder imi. Rwy’n dal i gredu hefyd y dylid gosod Confensiwn Sewel ar sail statudol a thraddodadwy – dyma’r ffordd fwyaf priodol o ddiogelu ein setliad datganoli a diogelu’r Deyrnas Unedig. Rwy’n parhau i alw ar Lywodraeth y DU a’r llywodraethau datganoledig i weithio tuag at y nod hwnnw.
O’r 38 o Filiau newydd y mae Llywodraeth y DU yn bwriadu bwrw ymlaen â hwy yn ystod Trydedd Sesiwn Senedd y DU, mae rhai eisoes wedi'u cyflwyno, tra bydd rhai eraill wedi cyrraedd amrywiol gamau datblygu. Mae’r hyn yr ydym yn ei wybod am y darpariaethau arfaethedig – a’n hymgysylltu â Llywodraeth y DU – yn amrywio o Fil i Fil, fel y mae’r graddau y mae darpariaethau yn dod o fewn meysydd lle y mae cymhwysedd wedi’i ddatganoli neu'n codi materion trawsffiniol.
Roedd Llywodraeth y DU wedi tynnu sylw’r llywodraethau datganoledig eisoes at gyfres o 12 o feysydd polisi lle y gallai deddfwriaeth yn ei rhaglen ddeddfwriaethol sydd o berthnasedd arbennig i fuddiannau datganoledig gael ei chynnwys. Rydym wedi disgwyl, felly, y gallai fod angen cynnig cydsyniad deddfwriaethol ar gyfer Biliau yn y meysydd hyn – naill ai am eu bod yn cynnwys, neu'n debygol o gynnwys, darpariaeth sydd o fewn cymhwysedd y Senedd, neu am eu bod yn addasu cymhwysedd deddfwriaethol y Senedd. Mae gwybodaeth am y Biliau hyn i'w chael isod.
Yn dilyn cyhoeddi rhaglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU, gwnaeth Ysgrifennydd Gwladol Cymru Ddatganiad Ysgrifenedig ar 11 Mai yn cyfeirio at gyfanswm o 27 o Filiau sy’n debygol o ymestyn i Gymru a bod yn gymwys iddi. Gwybodaeth gyfyngedig yn unig yr ydym wedi’i chael am y 15 o Filiau eraill yn y gyfres hon.
Mae Llywodraeth Cymru yn ceisio gwybodaeth bellach am y gyfres ehangach hon o Filiau, ac yn wir am raglen ddeddfwriaethol Llywodraeth y DU yn ei chyfanrwydd. Pan fydd yr wybodaeth ar gael, bydd yr holl Filiau yn cael eu hasesu i weld a oes angen cydsyniad y Senedd.
Edrychaf ymlaen at rannu rhagor o wybodaeth am Filiau perthnasol a gweithio gyda’r Senedd ar y broses cydsyniad deddfwriaethol drwy gydol sesiwn newydd Senedd y DU.
Mae’r wybodaeth am ddarpariaethau’r Biliau sydd i’w gweld isod wedi’i llywio gan wybodaeth a gyhoeddwyd gan Lywodraeth y DU.
- Y Bil Lles Anifeiliaid (Anifeiliaid a Gedwir)
Cafodd y Bil hwn ei gyflwyno yn sesiwn ddiwethaf Senedd y DU ac mae’n gwneud darpariaeth sy’n ymwneud â lles anifeiliaid a gedwir gan gynnwys anifeiliaid fferm, anifeiliaid anwes ac anifeiliaid gwyllt a gedwir.
Cafodd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol ei osod mewn perthynas â’r Bil hwn ar 22 Mehefin 2021, a gosodwyd cynnig cydsyniad deddfwriaethol atodol ar 7 Ionawr 2022 (a ddiwygiwyd wedi hynny ar 3 Mawrth 2022).
- Y Bil Rhyddid yn sgil Brexit
Bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â chyfraith yr UE a ddargedwir, gan gynnwys gweithdrefnau ar gyfer newid y gyfraith hon. Disgwylir y bydd y Bil yn cynnwys cynigion ar gyfer diwygiadau rheoleiddiol ar draws ystod eang o feysydd polisi.
- Y Bil Ardrethu Annomestig
Defnyddir y Bil i ddiwygio ac egluro’r pwerau presennol a pharamedrau penodol yn y system ardrethi annomestig.
- Y Bil Diogeledd Ynni
Bydd y Bil yn ymdrin â nifer o faterion gan gynnwys dal a storio carbon, cyflenwi tanwydd, tariffau prisiau a materion pellach sy’n ymwneud ag ynni.
- Y Bil Hawliau
Mae’r Bil yn debygol o gynnwys cynigion i ddirymu agweddau ar Ddeddf Hawliau Dynol 1998 a chael Bil Hawliau yn eu lle, ac i leihau rôl Llys Hawliau Dynol Ewrop.
Mae’r Ddeddf Hawliau Dynol yn agwedd sylfaenol ar gymhwysedd deddfwriaethol y Senedd oherwydd rhaid i ddeddfwriaeth a gaiff ei phasio yn y Senedd fod yn gydnaws â’r Ddeddf.
- Y Bil Masnach (Awstralia a Seland Newydd)
Bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth sy’n gysylltiedig â gweithredu cytundebau masnach y DU ag Awstralia a Seland Newydd, gan gynnwys mewn perthynas â rheolau caffael.
- Bil Banc Seilwaith y DU
Bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â llywodraethu Banc Seilwaith y DU.
- Y Bil Ffyniant Bro ac Adfywio
Bydd y Bil yn cynnwys darpariaeth eang ynghylch amryw o faterion, gan gynnwys llywodraeth leol a chynllunio.
- Y Bil Diwygiadau Iechyd Meddwl
Bydd y Bil yn diwygio Deddf Iechyd Meddwl 1983 o ran materion sy’n cynnwys prosesau a thriniaeth.
- Y Bil Diogelwch Ar-lein
Cyflwynwyd y Bil hwn yn sesiwn ddiwethaf Senedd y DU ac mae’n gwneud darpariaeth ar gyfer trefniadau OFCOM i reoleiddio rhai gwasanaethau rhyngrwyd, troseddau cyfathrebu a dibenion cysylltiedig, ac mewn cysylltiad â’r rhain. Gosodwyd memorandwm cydsyniad deddfwriaethol mewn perthynas â’r Bil hwn ar 30 Mawrth 2022.
- Y Bil Caffael
Bwriad y Bil hwn yw diwygio’r drefn gaffael bresennol.
Cyhoeddodd y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol Ddatganiad Ysgrifenedig ar ein dull o gydweithio â Llywodraeth y DU yn y maes hwn ar 18 Awst 2021.
- Y Bil Trafnidiaeth
Bydd y Bil hwn yn cynnwys darpariaeth sy’n ymwneud â rheilffyrdd, mannau gwefru cerbydau trydan, a safonau cerbydau.