Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AC,  Y Dirprwy Weinidog Ffermio a Bwyd

Cyhoeddwyd gyntaf:
12 Ionawr 2015
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Llywodraeth Cymru’n fodlon â’r ffordd y mae ei rhaglenni ariannu Ewropeaidd yn cael eu datblygu a’u rhoi ar waith.  Mae’r Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth newydd gyhoeddi fod y Comisiwn Ewropeaidd (CE) wedi cymeradwyo rhaglenni Cronfeydd Strwythurol Llywodraeth Cymru ac edrychwn ymlaen yn awr at weld Rhaglen Datblygu Gwledig Cymru 2014-2020 (RhDG) yn cael ei chymeradwyo.

Ymgynghorodd Llywodraeth Cymru’n eang â rhanddeiliaid i gyfrannu at ddatblygu’r RhDG a roddwyd ger bron yr CE ym mis Gorffennaf 2014.  Ers mis Tachwedd, rydym wedi bod yn trafod ei ymateb ffurfiol â’r CE.  Yn ogystal â’r gyfarwyddiaeth arwain, DG AGRI (Amaethyddiaeth a Datblygu Gwledig), bu’r DG ENV (Amgylchedd), DG CLIMA (Hinsawdd), DG REGIO (Polisi Rhanbarthol) a DG EMPL (Cyflogaeth, Materion Cymdeithasol a Chynwysiant) yn rhan o’r gwaith craffu hwnnw.

Mae gwasanaethau’r CE yn gorfod asesu 118 o raglenni – sy’n faich anferthol o waith.  Mae ein rhaglen ddrafft ni ein hunain yn fwy na 650 o dudalennau o destun a data.  Yng nghyfarfod y Cyngor Amaethyddiaeth ym mis Rhagfyr, esboniodd y Comisiynydd Amaeth a Datblygu Gwledig, Phil Hogan, mai dim ond 9 o’r 118 o raglenni oedd wedi’u mabwysiadu hyd hynny ac y byddai 20 arall yn “barod ar gyfer eu mabwysiadu” ddechrau 2015.

Mae Llywodraeth Cymru wedi bod yn cynnal deialog adeiladol glos gyda swyddogion yr CE, ac rydym wedi cael ar ddeall eu bod yn fodlon â sgôp, trywydd ac uchelgais ein RhDG ac nad yw’r meysydd sy’n dal i fod yn destun trafod yn rhai neilltuol o bwysig. O’r herwydd, rydym ni’n credu bod ein RhDG ni yn un o’r rheini sydd wedi’u datblygu fwyaf.  Rydym yn gobeithio felly y caiff ei chymeradwyo’n anffurfiol ym mis Chwefror er na allwn ddisgwyl i’r CE ei chymeradwyo’n ffurfiol, oherwydd rhesymau cyllidebol, tan yr Haf pan fydd Fframwaith Ariannol Amlflynyddol yr UE wedi’i dderbyn.

Rydym wedi bod yn cynllunio ar gyfer cyflawni rhannau unigol y RhDG wrth inni eu trafod gyda’r CE.  Fy amcan yw cyflwyno’r cynlluniau cyn gynted â phosibl, ac rwy’n hyderus y gallwn eu lansio ar ôl cael y gymeradwyaeth anffurfiol.

Bydd gan y cynllun amaeth-amgylcheddol Glastir gyfnodau ymgeisio fydd yn cael eu cynnal bob blwyddyn.  Mae cynlluniau Glastir Uwch a Glastir Organig eisoes yn derbyn ffurflenni mynegi diddordeb a’r bwriad yw dechrau talu taliadau yn 2016 a 2017.

Ar gyfer rhai elfennau o’r rhaglen, rhaid dilyn y prosesau caffael cyhoeddus, hynny yn unol â’r Rheoliadau Ewropeaidd.  Yn ein RhDG ni, y rhannau hynny yw Cyswllt Ffermio, y Gwasanaeth Cynghori Ffermwyr a’r Cynllun Cynghori Busnesau Gwledig.  Yn y rhaglen gyfredol, bydd Cyswllt Ffermio yn parhau i roi cyngor a hyfforddiant i unigolion tan 31 Mawrth 2015 ac mae’r brif raglen trosglwyddo gwybodaeth wedi cael estyniad tan 30 Mehefin 2015.  Rydym yn disgwyl gweld contractau newydd yn dechrau ym mis Gorffennaf 2015, ac erbyn hynny bydd rhaglen newydd o gyrsiau ac ati yn agor i fuddiolwyr allu ymgeisio amdani.  Y bwriad yw osgoi unrhyw doriad yn y gwasanaeth ar ôl 30 Mehefin 2015.

Caiff LEADER ei ddarparu gan Grwpiau Gweithredu Lleol (LAG).  Mae’n dda gennyf adrodd bod y LAGs a’u Strategaethau Datblygu Lleol yn cael eu hasesu gyda golwg ar eu cymeradwyo yn ystod mis Ionawr 2015.

Caiff gweddill y RhDG ei darparu trwy raglenni grantiau cymdeithasol economaidd ac i’r perwyl hwnnw caiff cyfres o geisiadau am gynigion ei chynnal.  Caiff y meini prawf ynghylch pwy sy’n gymwys ac ar gyfer eu dewis eu cyhoeddi ymlaen llaw, ynghyd â’r dyddiadau cau.  Bydd ceisiadau am gynigion yn cael eu gwneud ym mhob rhan o’r rhaglen a’u hysbysebu i sicrhau bod y rheini allai elwa arnynt yn gwybod bod y cyfnod ceisio wedi agor, faint o arian sydd yn y gyllideb a phryd y bydd y cyfnod ceisio nesaf yn dechrau.  Bydd hynny’n rhoi inni galendr o geisiadau, gan olygu y gall buddiolwyr gynllunio ymlaen llaw a bod yn barod â’u Mynegiant o Ddiddordeb.

Byddaf am barhau i sicrhau bod Aelodau’n cael gwybod am y datblygiadau diweddaraf wrth i bethau fynd yn eu blaen, a chyhoeddir mwy o fanylion yr amserlen ddisgwyliedig ar gyfer ymgeisio am nawdd.