Neidio i'r prif gynnwy

John Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd a Datblygu Cynaliadwy

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Hydref 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Ym mis Tachwedd 2011, cyhoeddais fy mwriad i sefydlu Un Corff Amgylcheddol newydd i Gymru a fyddai’n cyfuno swyddogaethau Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a  Chomisiwn Coedwigaeth Cymru.

Erbyn hyn, mae’r gwaith o ddylunio’r sefydliad newydd wedi hen ddechrau a bydd y sefydliad newydd yn dod yn weithredol ar 1 Ebrill 2013. Yn ganolog i’r sefydliad hwn fydd yr ymrwymiad a’r ymroddiad i gyflawni’r weledigaeth am newid radical yn y modd yr ydym yn rheoli ein hadnoddau naturiol er lles pobl Cymru.

Heddiw, rwy’n falch o gyhoeddi mai enw’r corff sengl newydd fydd Natural Resources Wales / Cyfoeth Naturiol Cymru.  

Rwy’n credu bod yr enw hwn yn cyfleu cylch gwaith y corff newydd yn dda ac yn berthnasol i holl swyddogaethau cyfredol y tri chorff presennol. Mae’n enw a fydd yn rhoi hyder a sicrwydd i’n cwsmeriaid a rhanddeiliaid presennol. 

Seiliais fy mhenderfyniad ar yr ymateb i’r ymgynghori helaeth gyda staff Cyngor Cefn Gwlad Cymru, Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru a Chomisiwn Coedwigaeth Cymru, eu cwsmeriaid a rhanddeiliaid eraill.

Credaf fod Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweddu’n dda i waith y corff newydd.

Mae’n bleser gen i gadarnhau hefyd ein bod wedi penodi deg cyfarwyddwr anweithredol ar gyfer Cyfoeth Naturiol Cymru.  Cawsom 185 o geisiadau ar gyfer y swyddi hyn, gan ymgeiswyr o safon uchel iawn.

Y cyfarwyddwyr anweithredol yw:

  •  Dr Mike Brooker
  • Y Parchedig Hywel Davies
  • Dr Ruth Hall
  • Dr Madeleine Havard
  • Harry Legge-Bourke
  • Andy Middleton
  • Morgan Parry
  • Nigel Reader
  • Yr Athro Lynda Warren
  • Syr Paul Williams
Rhyngddynt, mae’r ymgeiswyr llwyddiannus yn meddu ar ystod eang a maith o brofiad rheoli a fydd yn helpu’r corff newydd i fwrw ymlaen â’i waith o gynnal, gwella a defnyddio ein hadnoddau naturiol er budd pobl, amgylchedd ac economi Cymru, yn awr ac yn y dyfodol.

Mae’r penodiadau hyn yn garreg filltir bwysig yn y broses o greu eich sefydliad newydd chi, yn dilyn penodiadau diweddar yr Athro Peter Matthews yn Gadeirydd, a’r Dr Emyr Roberts yn Brif Weithredwr.