Neidio i'r prif gynnwy

Kirsty Williams, Y Gweinidog Addysg
Ken Skates, Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Medi 2019
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae ymrwymiad yn y Cynllun Cyflogadwyedd i dreialu Cyfrifon Dysgu Personol. Bydd y cyfrif yn cynnig cyllid ar gyfer ailhyfforddi pobl sydd wedi’u cyflogi yn y sectorau diwydiannol mewn maes galwedigaethol lle mae prinder sgiliau amlwg.

Heddiw, mae’r Rhaglen Cyfrifon Dysgu Personol yn cael ei lansio a bydd yn cynorthwyo pobl sy’n gyflogedig i gael sgiliau a chymwysterau ar lefel uwch gan agor ymhellach y cyfleoedd sydd i bobl newid gyrfa.

Mae’r rhaglen ar gael i unrhyw un sy’n byw yng Nghymru ac sydd dros 19 oed ac mewn swydd ond yn ennill llai nag incwm canolrifol Cymru (£26,000 y flwyddyn). Mae’n cael ei threialu gan Goleg Gwent yn y de-ddwyrain a Grŵp Llandrillo Menai yn y gogledd. Mae’n cynnig cyfle i bobl sydd mewn swydd ddilyn cyrsiau hyblyg a di-dâl o fewn sectorau â blaenoriaeth Llywodraeth Cymru, gan ddechrau gyda’r sectorau peirianneg, adeiladu a TGCh.

Mae’r rhaglen yn cael ei chyflwyno ar y cyd rhyngom fel y Gweinidog Addysg a Gweinidog yr Economi a Thrafnidiaeth. Yn y Cytundeb Blaengar a wnaed rhwng y Prif Weinidog a’r Gweinidog Addysg ym mis Rhagfyr 2018 roedd ymrwymiad newydd i gyflwyno hawl i ddysgu gydol oes gan fuddsoddi mewn sgiliau y bydd eu hangen ar bobl drwy gydol eu bywyd. Bydd y Cyfrif Dysgu Personol yn grymuso unigolion i ailgydio o’r newydd mewn dysgu gan eu galluogi i gymryd cyfrifoldeb am eu dysgu er mwyn eu helpu i drosglwyddo rhwng rolau gwahanol swyddi a hybu eu gyrfa.

Yn wyneb yr hinsawdd economaidd bresennol, mae’r hawl i gael addysg gydol oes yn bwysicach nag erioed ac mae’r cynllun hwn wedi’i gyflwyno er mwyn helpu pobl yng Nghymru i wella eu sgiliau a goresgyn rhwystrau a allai eu dal yn ôl rhag gwireddu eu potensial llawn. Bydd y dull cydweithredol hwn yn sicrhau bod gan unigolion sgiliau a chymwysterau ar lefel uwch i’w galluogi i gael swydd ar lefel yn uwch a bydd hynny, yn ei dro, yn helpu cyflogwyr i recriwtio pobl â’r sgiliau a’r cymwysterau cywir i alluogi i’w busnesau dyfu yn ogystal â’r economi.

Mae cyflogwyr o fewn y sectorau peirianneg, adeiladu a TGCh yn wynebu prinder cynyddol o sgiliau ac yn edrych i recriwtio unigolion â’r sgiliau a’r cymwysterau galwedigaethol perthnasol sydd eu hangen arnynt i lenwi bylchau sydd ganddynt nawr ac unrhyw fylchau yn y dyfodol. Bydd y rhaglen newydd hon yn eu helpu i wneud hynny drwy gynnig darpariaeth hyblyg yn lleol a fydd yn ateb y galw ac yn fodd i leihau’r bylchau mewn sgiliau.

Mae’r cyrsiau i gyd yn cael eu hariannu gan Lywodraeth Cymru a bydd cynghorwyr gyrfaoedd penodedig gan Gymru’n Gweithio yn helpu pob unigolyn i sefydlu cynllun ymarferol y bydd modd ei weithredu o gwmpas eu hymrwymiadau presennol a’u helpu i gyrraedd eu nod o ran eu gyrfa yn y dyfodol. Bydd y rhaglen beilot yn para am ddwy flynedd a bydd yn cael ei monitro gyda’r bwriad o sicrhau y bydd cyrsiau ychwanegol ar gael ar draws mwy o sectorau â blaenoriaeth gan ehangu ymhellach y cyfleoedd sydd ar gael i bobl newid gyrfa.

Bydd ein Cyfrif Dysgu Personol yn rhoi i unigolion y cyfle i gael y sgiliau, yr wybodaeth a’r cymwysterau sydd eu hangen arnynt i ddechrau ar yrfa newydd ac i wneud hynny mewn ffordd sy’n cyd-fynd â’u ffordd o fyw.

Gall unigolion weld y rhaglen drwy Gymru’n Gweithio. Gallant alw heibio i swyddfa Gyrfa Cymru, gallant edrych ar wefan https://cymrungweithio.llyw.cymru/, ffonio 0800 028 4844 neu gysylltu â’r colegau yn uniongyrchol.