Neidio i'r prif gynnwy

Dawn Bowden AS, Y Gweinidog Plant a Gofal Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
1 Ebrill 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae cymorth i blant a theuluoedd yn flaenoriaeth hollbwysig i Lywodraeth Cymru, felly rwy'n falch o rannu'r wybodaeth ddiweddaraf ynghylch y rhaglen Bwndel Babi. Mae cynnig Bwndel Babi i deuluoedd ledled Cymru yn parhau i fod yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru ac yn ymrwymiad yn y Rhaglen Lywodraethu. 

Rydyn ni wedi sicrhau bod £2.5 miliwn ar gael ar gyfer y rhaglen Bwndel Babi yn 2025-26. Bydd y rhaglen yn targedu pob teulu sy'n disgwyl plentyn ac sy'n byw yn un o ardaloedd craidd Dechrau'n Deg. Bydd ymarferwyr iechyd hefyd yn gallu cynnig Bwndel Babi i nifer cyfyngedig o deuluoedd sydd angen mwy o gymorth ond nad ydyn nhw'n byw mewn ardal Dechrau'n Deg, trwy waith maes. 

Bydd Bwndel Babi yn cynnwys eitemau fel blanced a dillad cynnes, yn ogystal â gwybodaeth ddefnyddiol ynghylch lle i gael rhagor o help a chefnogaeth. Bydd darparu Bwndel Babi yn lleihau'r pwysau ariannol y mae teuluoedd yn ei wynebu yn rhai o ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru a helpu i gyflawni yn erbyn ymrwymiad ein Strategaeth Tlodi Plant i leihau costau a chynyddu incwm teuluoedd.

Mae'n bleser gen i gadarnhau y bydd manyleb y tendr ar gyfer y rhaglen Bwndel Babi yn mynd yn fyw yn ddiweddarach yr wythnos hon. Bydd y cyfnod caffael yn rhedeg tan ganol mis Mai 2025 ac, ar ôl hynny, bydd Swyddogion yn asesu'r ceisiadau a'r contract yn cael ei ddyfarnu erbyn diwedd mis Mehefin.

Yn ystod y misoedd nesaf, bydd Swyddogion yn parhau i weithio gyda bydwragedd a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill i gwblhau'r broses gofrestru i gael Bwndel Babi. 

Yn amodol ar ymarfer caffael llwyddiannus, ein nod yw y bydd teuluoedd yn gallu cofrestru i gael Bwndel Babi o ddiwedd mis Tachwedd ymlaen.

Fel Budd-dal Cymreig allweddol, bydd yn bwysig bod teuluoedd yn cael eu gwneud yn ymwybodol ohono trwy ein gwaith ehangach i gefnogi ymwybyddiaeth o fudd-daliadau a'r nifer sy'n manteisio arnynt a'u rhoi ar waitha gweithredu ein Siarter Budd-daliadau Cymreig.

Edrychaf ymlaen at ddarparu rhagor o wybodaeth am ddatblygiad y rhaglen maes o law.