Neidio i'r prif gynnwy

Julie James AS, y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
17 Rhagfyr 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Yr egwyddor sydd wrth wraidd democratiaeth yw bod pob person yn gyfartal ac y dylai gael cyfle cyfartal i sicrhau newid drwy'r system ddemocrataidd. Mae hyn yn hanfodol  i strwythurau gwleidyddol a chymdeithasol Cymru.

Bob blwyddyn mae newidiadau’n digwydd i boblogaeth, diwylliant ac amgylchiadau economaidd-gymdeithasol ar draws cymunedau yng Nghymru. Nid yw'r newidiadau hyn yn digwydd mewn ffordd unffurf, er enghraifft mae rhai ardaloedd yn gweld cynnydd yn y boblogaeth tra bod eraill yn gweld gostyngiad. Mae gan y gwahaniaethau sy'n deillio o'r newidiadau hyn dros amser y potensial i gael effaith andwyol ar uniondeb y system ddemocrataidd leol ledled Cymru.

Diben cynnal adolygiadau rheolaidd o drefniadau etholiadol yw lliniaru effaith newid cyson drwy sicrhau bod pob cynghorydd lleol yn cynrychioli tua'r un faint o bobl.

Felly, ym mis Mehefin 2016 penderfynodd Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid a Llywodraeth Leol ar y pryd y dylai pob un o'r 22 adolygiad o drefniadau etholiadol gael eu cynnal a'u gweithredu o fewn y tymor llywodraeth leol presennol, h.y. cyn yr etholiadau nesaf ym mis Mai 2022. Felly, mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru ar fin cwblhau'r olaf o'r adolygiadau hyn.

Rwy’n ymwybodol bod etholwyr wedi cysylltu â nifer o aelodau ynghylch argymhellion y Comisiwn ac roeddwn yn meddwl y gallai fod yn ddefnyddiol nodi'r sefyllfa bresennol, ynghyd â rhoi syniad o bryd y mae Gorchmynion yn debygol o gael eu gwneud.

Mewn perthynas ag adolygiadau o drefniadau etholiadol, mae Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yn gyfrifol am wneud cynigion i Lywodraeth Cymru ynghylch newidiadau y mae'n teimlo eu bod yn angenrheidiol er budd llywodraeth leol effeithiol a hwylus. Mae hyn yn cynnwys newidiadau i ffiniau etholiadol, cymarebau cynghorwyr i etholwyr neu newid enwau wardiau etholiadol.

Mae'r Comisiwn wedi cwblhau ei waith ar 20 o'r 22 o’r adolygiadau o drefniadau etholiadol. Mae'r gwaith ar yr adolygiadau sy'n weddill yn mynd rhagddo’n dda, ac mae’r Comisiwn ar y trywydd iawn i gyflwyno argymhellion terfynol o fewn yr amserlen y cytunwyd arni.

Er mwyn rhoi digon o amser i awdurdodau lleol ac eraill weithredu unrhyw newidiadau gofynnol, y bwriad yw y bydd Gorchmynion i weithredu unrhyw argymhellion a dderbynnir gan Weinidogion Cymru yn cael eu gwneud erbyn diwedd mis Medi 2021.

Un ffactor allweddol wrth bennu amseriad gwneud Gorchmynion terfynol yw'r angen i ystyried yr effaith ar etholaethau Seneddol y DU. Mae Comisiwn Ffiniau Cymru (y Comisiwn Ffiniau) ar wahân i Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru. Mae Deddf Etholaethau Seneddol 1986 (fel y'i diwygiwyd) yn ei gwneud yn ofynnol iddo gynnal adolygiad o bob etholaeth seneddol yng Nghymru o bryd i'w gilydd a chyflwyno adroddiad i'r Ysgrifennydd Gwladol yn dangos yr etholaethau seneddol y maent yn eu hargymell.  Bydd y gwaith hwn yn adeiladu ar y strwythurau sydd ar waith ar gyfer yr etholiadau llywodraeth leol, ond dim ond ar sail Gorchmynion etholiadol wedi'u cwblhau y gall wneud hynny.  Mae'r amserlen bresennol ar gyfer cwblhau'r adolygiadau seneddol yn golygu mai dim ond ar Orchmynion etholiadol sydd ar waith erbyn diwedd 2020 y bydd y Comisiwn Ffiniau yn gallu seilio ei waith adolygu.

Er mwyn osgoi bod mewn sefyllfa lle mae Gorchmynion wedi'u gwneud ar gyfer rhai ardaloedd yng Nghymru ond nid pob un, fy mwriad yw na wneir unrhyw Orchmynion cyn 1 Chwefror 2021. Mae’r pandemig Covid-19 hefyd wedi cael effaith sylweddol ar bob agwedd ar gymdeithas, ac i'n galluogi i fynd i'r afael â'r heriau sy’n codi yn sgil y sefyllfa ddigynsail hon bu'n rhaid blaenoriaethu nifer o feysydd gweithredu. Mae hyn wedi arwain at oedi wrth ddatblygu nifer o benderfyniadau, gan gynnwys y rhai mewn perthynas ag adolygu trefniadau etholiadol.

Fodd bynnag, mae gwaith yn mynd rhagddo ar hyn o bryd ac rwyf yn ystyried yr adolygiadau a'r sylwadau cysylltiedig a gafwyd. Rwy'n parhau i weithio tuag at gwblhau'r gwaith hwn erbyn mis Medi 2021 yn ôl y bwriad, ond nid wyf yn rhagweld gwneud unrhyw Orchmynion cyn etholiadau Senedd Cymru ym mis Mai.

Rwy’n ymwybodol o nifer fach o adolygiadau sydd wedi denu cryn dipyn o sylwadau ac, fel gyda phob un o'r adolygiadau, byddaf yn ystyried y pwyntiau y mae unigolion wedi'u codi'n ofalus yn ystod y misoedd nesaf i lywio fy mhenderfyniadau.   

Amgaeaf drosolwg o'r broses adolygu a fydd, gobeithio, yn ddefnyddiol i'r aelodau.

Y broses

  1. Mae'r broses ar gyfer pob adolygiad yn cynnwys y canlynol:

Gweithdrefn Cyn-adolygu

  1. Cyn cynnal adolygiad o drefniadau etholiadol, mae'n ofynnol i'r corff adolygu (Comisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru) gymryd unrhyw gamau y mae'n credu eu bod yn briodol i ddwyn yr adolygiad i sylw'r ymgyngoreion gorfodol ac unrhyw berson arall y mae'n credu ei fod yn debygol o fod â diddordeb yn yr adolygiad. Os rhoddir unrhyw gyfarwyddiadau gan Weinidogion Cymru, yna mae hefyd yn ofynnol i'r corff adolygu sicrhau bod yr ymgyngoreion gorfodol a phersonau eraill â diddordeb yn ymwybodol ohonynt.

 

  1. Mewn perthynas ag adolygiadau etholiadol prif ardaloedd, mae Adran 34(3) o Ddeddf Democratiaeth Leol (Cymru) yn diffinio 'ymgyngoreion gorfodol' fel a ganlyn:
     
  • unrhyw awdurdod lleol y mae'r adolygiad yn effeithio arno;
  • comisiynydd yr heddlu a throseddu ar gyfer unrhyw ardal heddlu y gallai'r adolygiad effeithio arni;
  • unrhyw sefydliad sy'n cynrychioli'r staff a gyflogir gan awdurdodau lleol sydd wedi gofyn am gael bod yn rhan o’r ymgynghoriad;
  • unrhyw bersonau eraill a bennir drwy orchymyn a wneir gan Weinidogion Cymru.

 

  1. Mae'n ofynnol i'r corff adolygu ymgynghori ag ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill â diddordeb ar y weithdrefn a'r fethodoleg y mae'n bwriadu eu mabwysiadu ar gyfer yr adolygiad. Yn benodol, sut y mae'n bwriadu pennu'r nifer priodol o aelodau ar gyfer y prif gyngor yn yr ardal dan sylw.

Ymgynghori ac ymchwilio
 

  1. Rhaid i'r corff adolygu ymgynghori â'r ymgyngoreion gorfodol a phartïon eraill â diddordeb ynghylch y trefniadau etholiadol yn yr ardal sydd i'w hadolygu. Rhaid iddo hefyd gynnal unrhyw ymchwiliadau sy'n briodol yn ei farn ef.
     

Adroddiad Drafft

  1. Yn dilyn yr ymgynghoriad, rhaid i'r corff adolygu baratoi adroddiad sy'n cynnwys manylion yr adolygiad y mae wedi'i gynnal a chanlyniad yr adolygiad hwnnw. Rhaid i hyn gynnwys cynigion ar gyfer unrhyw newidiadau sy'n briodol yn ei farn ef, neu gynnig na ddylid gwneud unrhyw newid i'r trefniadau presennol.
     
  2. Rhaid i'r corff adolygu:
     
  • gyhoeddi'r adroddiad yn electronig,
  • trefnu bod yr adroddiad ar gael i'w archwilio (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant yn yr adolygiad drwy gydol y cyfnod ar gyfer sylwadau,
  • anfon copïau o'r adroddiad at Weinidogion Cymru a'r ymgyngoreion gorfodol,
  • hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth i'r corff adolygu sut i gael copi o'r adroddiad,
  • hysbysu'r rhai a grybwyllir uchod o ddyddiadau'r cyfnod rhoi sylwadau a gwahodd eu barn ar yr adroddiad.

 

  1. Gall y cyfnod rhoi sylwadau, a elwir fel arall yn ymgynghoriad, bara rhwng 6 a 12 wythnos. Bydd y corff adolygu yn pennu nifer yr wythnosau y mae'n eu hystyried yn briodol yn achos pob adolygiad.
     

Adroddiad Terfynol

  1. Yn dilyn y cyfnod ymgynghori, rhaid i'r corff adolygu ystyried ei gynigion yng ngoleuni'r sylwadau a ddaw i law. Yna, rhaid iddo baratoi adroddiad pellach y mae'n rhaid iddo gynnwys:
  • unrhyw argymhelliad ar gyfer newid y mae'r corff adolygu o'r farn ei fod yn briodol neu, os nad yw'n ystyried bod unrhyw newid yn briodol, argymhelliad i'r perwyl hwnnw,
  • manylion yr adolygiad a gynhaliwyd a'r ymgynghoriad a gynhaliwyd mewn perthynas â'r cynigion,
  • manylion unrhyw newidiadau i'r cynigion a wnaed yng ngoleuni'r sylwadau a dderbyniwyd ac esboniad o pam y gwnaed y newidiadau hynny.
  1. Rhaid i'r bwrdd adolygu:

 

  • gyflwyno ei adroddiad a'i argymhellion i Weinidogion Cymru.
  • cyhoeddi'r adroddiad yn electronig a sicrhau ei fod ar gael i'w archwilio (yn ddi-dâl) yn swyddfeydd unrhyw brif gyngor sydd â buddiant am gyfnod o 6 wythnos o leiaf sy'n dechrau ar y dyddiad cyhoeddi,
  • anfon copi o'r adroddiad at yr ymgyngoreion gorfodol, yr Arolwg Ordnans a Gweinidogion Cymru,
  • hysbysu unrhyw berson arall a gyflwynodd dystiolaeth neu a gyflwynodd sylwadau mewn perthynas â'r adroddiad i gael copi o'r adroddiad.
     
  1. Ceir disgrifiad manylach o'r dull a ddefnyddir gan Gomisiwn Ffiniau a Democratiaeth Leol Cymru yma

Cyfnod Rhoi Sylwadau i Weinidogion Cymru

  1. Ar ôl cyhoeddi'r Adroddiad Terfynol, mae cyfnod o chwe wythnos pan gaiff unigolion gyflwyno eu barn ar yr adroddiad i Weinidogion Cymru. Yn ystod y cyfnod hwn, ni chaiff Gweinidogion wneud Gorchymyn yn ymdrin â'r argymhellion yn yr adroddiad.
     

Penderfyniad

  1.  Caiff Gweinidogion Cymru wneud Gorchymyn i weithredu unrhyw argymhelliad, gydag addasiadau neu hebddynt, neu gallant benderfynu peidio â chymryd unrhyw gamau.