Neidio i'r prif gynnwy

Carl Sargeant, Gweinidog Llywodraeth Leol a Chymunedau

Cyhoeddwyd gyntaf:
10 Chwefror 2012
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Mae Diogelwch Cymunedol yn flaenoriaeth gyhoeddus uchel ac yn gallu effeithio ar ansawdd bywyd unigolion a chymunedau cyfan.  Mae Llywodraeth Cymru wedi gweithio gyda'n partneriaid i wneud camau breision i fynd i'r afael â melltith camddefnyddio cyffuriau ac alcohol yng Nghymru.  Yn lleol, rydym wedi sefydlu a grymuso Partneriaethau Diogelwch Cymunedol, ac yn ddiweddarach, Fyrddau Cynllunio Ardal, i fynd i'r afael â chamddefnyddio sylweddau yn eu hardaloedd. Rydym wedi eu cefnogi nhw drwy gynyddu eu cyllid yn sylweddol fel y gallant gomisiynu gwasanaethau a delio â phroblemau lleol.  Yn genedlaethol, rydym wedi sefydlu rhaglen addysgol Cymru gyfan ac wedi comisiynu gwasanaethau arloesol i fynd i'r afael ag anghenion grwpiau penodol, fel troseddwyr a phobl ifanc sy'n camddefnyddio sylweddau.  Gyda'n gilydd, rydym wedi cynyddu nifer y bobl sy'n derbyn triniaeth ac wedi cyfrannu at ostyngiad yn y niwed sy'n cael ei achosi gan gyffuriau anghyfreithlon.

Lansiwyd 'Gweithio Gyda'n Gilydd i Leihau Niwed' yn 2008. Dyma strategaeth 10 mlynedd Llywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio cyffuriau, alcohol a sylweddau eraill yng Nghymru.  Mae'r strategaeth hon yn pennu agenda genedlaethol glir o ran sut y gallwn ni a'n partneriaid fynd i'r afael â'r niwed sy'n gysylltiedig â chamddefnyddio sylweddau yng Nghymru, a'i leihau.  Yn dilyn cyfnod gweithredu cychwynnol o dair blynedd  (2008-2011), mae'n briodol ystyried a ddylid adolygu rhai meysydd yn y strategaeth bresennol. Felly, rwyf wedi gofyn i swyddogion gynnal adolygiad cynhwysfawr o'r hyn a gyflawnwyd yn y maes hwn o dan y Strategaeth bresennol a phenderfynu a gafodd ei gyflawni yn y modd mwyaf effeithiol ac effeithlon.  

Yn unol â'm datganiad blaenorol ar y symudiad tuag at Ôl-troed Rhanbarthol i Gymru yn Haf 2011, bydd yr adolygiad hefyd yn golygu craffu ar y strwythurau llywodraethu sydd yn eu lle, a chraffu ar y cyfleoedd i resymoli a symleiddio partneriaeth i sicrhau bod y dulliau cyflawni'n addas i'r diben ac yn dangos cydweithrediad a chydlyniant rhanbarthol.  Hefyd, bydd yr Adolygiad yn cynnwys ymchwiliad i'r dulliau cyllido er mwyn rhoi gwelliannau ar waith fydd yn annog penderfyniadau strategol yn rhanbarthol ac archwilio'r potensial ar gyfer mwy o alinio i ddarparu model cyllido mwy tryloyw a syml.

Roedd y Rhaglen Lywodraethu, a lansiwyd ym mis Medi 2011, hefyd yn nodi dangosyddion penodol a mesuradwy ar gyfer cyflawni gwelliannau ym maes Camddefnyddio Sylweddau ac eraill o dan adain Diogelwch Cymunedol a oedd yn gydnaws â'r Strategaeth Camddefnyddio Sylweddau bresennol.  

Roedd yr holl ddigwyddiadau hyn gyda'i gilydd yn gatalydd ar gyfer dwyn ynghyd yr holl feysydd i'w hadolygu o dan un Rhaglen Adolygu Camddefnyddio Sylweddau a chyflymu rhai o'r amserlenni ar gyfer ei chyflwyno.  Bydd y Rhaglen Adolygu Camddefnyddio Sylweddau yn edrych ar yr hyn sydd wedi'i gyflawni yn y maes hwn dros y tair blynedd ddiwethaf o dan y Strategaeth bresennol ac yn penderfynu a gawsant eu cyflawni yn y dull mwyaf effeithiol ac effeithlon.  Bydd hyn yn cynnwys craffu ar y strwythurau llywodraethu cenedlaethol a'r dulliau cyflawni lleol a'r modelau cyllido cysylltiedig.  Comisiynwyd ymchwil hefyd i ddarparu sylfaen tystiolaeth a data.

Gobeithio y bydd canfyddiadau'r Rhaglen Adolygu yn rhoi cyfle am fwy o eglurder ynghylch nodweddion y cyflenwi ar lefel genedlaethol a lleol, a model cyllido hawdd ei ddeall.  Dylai hyn, yn ei dro, arwain at ganlyniadau a manteision gwell i ddefnyddwyr gwasanaethau unigol a'r cymunedau ehangach.  Bydd hyn yn caniatáu ymgysylltiad cadarnhaol â rhaglenni triniaeth ac adfer ac integreiddio a chyfraniad gwell a mwy cynhyrchiol i gymdeithas.  Fy mwriad i yw mai'r adolygiad hwn fydd cyfnod cyntaf gwerthusiad ehangach a mwy hirdymor o addasrwydd ac aliniad meysydd allweddol eraill o fewn Diogelwch Cymunedol, sef Cam-drin Domestig a Chyfiawnder Ieuenctid.  

Mae un maes o'r adolygiad, sy'n edrych ar Fyrddau Cynllunio Ardal, eisoes wedi darparu cyfres o argymhellion, a gafodd eu cymeradwyo gan y Rhaglen Adolygu Camddefnyddio Sylweddau a'u cadarnhau gennyf i.  Bydd gweithredu'r argymhellion hyn yn golygu cryfhau ac ehangu rôl y Byrddau Cynllunio Ardal, gyda chefnogaeth fframwaith llywodraethu clir, a chyllid yn cael ei ddosbarthu'n rhanbarthol o'r Gronfa Gweithredu Camddefnyddio Sylweddau, o Ebrill 2012, drwy'r saith Bwrdd ar draws Cymru i sicrhau bod penderfyniadau a chomisiynu gwasanaethau'n digwydd yn fwy strategol a chydweithredol.

Drwy gydol y broses adolygu, byddaf yn parhau i roi'r newyddion diweddaraf i Aelodau, prif randdeiliaid a sefydliadau partner ar y cynnydd a'r ddarpariaeth, a bydd fy swyddogion yn gweithio gyda sefydliadau perthnasol ar fanylion penodol gweithredu unrhyw newidiadau a gaiff eu cyflwyno yn sgil yr adolygiad.  Yn eu tro, rwy'n disgwyl y bydd y sefydliadau hynny'n cydweithio'n bositif â'm swyddogion i sicrhau y caiff unrhyw newidiadau y cytunir arnynt yn ystod yr ychydig fisoedd nesaf, neu fel rhan o gyfnod pontio yn ystod y flwyddyn nesaf, eu cyflawni mor ddidrafferth â phosibl. Byddai hynny'n  lleihau'r risg o ansefydlogi unrhyw ran o'r gwasanaethau cyhoeddus yn y maes hwn.