Kirsty Williams, Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg
Mae Addysg yng Nghymru: Cenhadaeth ein Cenedl yn manylu ar y newidiadau sy’n ofynnol ym maes addysg os ydym i godi safonau, lleihau’r bwlch cyrhaeddiad a darparu system addysg sy’n destun balchder a hyder.
Cafodd y Rhaglen Addysg ac Ysgolion ar gyfer yr 21ain Ganrif ei datblygu mewn partneriaeth rhwng Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru, Colegau Cymru a’r Cyfarwyddwyr Esgobaethol. Yn y don gyntaf o fuddsoddi a fydd yn dod i ben yn 2019, bydd mwy nag £1.4 biliwn wedi’i fuddsoddi i helpu i ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau ar draws Cymru.
Yn ddiamheuol, mae llwyddiant y Rhaglen hon yn chwarae rhan hanfodol a thyngedfennol yn y gwaith o godi safonau addysg ar draws Cymru. Gan adeiladu ar y llwyddiannau sylweddol hyd yma, y llynedd cyhoeddais ail gylch buddsoddi ar gyfer y Rhaglen. Bydd yn dechrau ym mis Ebrill 2019
Fy mwriad yn ystod ail don y Rhaglen yw y byddwn yn parhau â’n huchelgais gwreiddiol drwy ddisodli adeiladau sy’n mynd â’u pen iddynt â chyfleusterau addysg modern, effeithlon a chynaliadwy. Ni fyddem am fynd yn ôl i’r hen feddylfryd ‘clytio a thrwsio’ a ragflaenai’r Rhaglen hon.
Hefyd, rwyf am i uchelgais yr ail don hon ddarparu cenhedlaeth newydd o ysgolion a cholegau sy’n ganolfannau dysgu i’r gymuned ehangach. Gyda gwell cynllunio a thrwy gyfuno cyllidebau seilwaith, hoffwn hefyd i’r Rhaglen hon geisio darparu mwy o ‘hybiau’ i’w cymunedau, yn cynnig nid dim ond addysg ond ystod ehangach o weithgareddau cymunedol.
Megis gyda’r pecyn buddsoddi cyntaf, bydd yr ail becyn yn cael ei ariannu ar y cyd rhwng Llywodraeth Cymru, Awdurdodau Lleol ac eraill. Bydd y rhan fwyaf o’r Rhaglen yn cael ei hariannu o gyllidebau cyfalaf. Fodd bynnag, mewn cyferbyniad â thon gyntaf y Rhaglen, bydd y don nesaf hon yn ceisio cynnwys buddsoddiad ychwanegol gyda gwerth cyfalaf o oddeutu £55 miliwn yn cael ei ariannu drwy'r Model Buddsoddi Cydfuddiannol.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gefnogi prosiectau, yn amodol ar gymeradwyo achosion busnes. Mae fforddiadwyedd y Rhaglen yn dyngedfennol os ydym i wireddu’r un llwyddiannau yn yr ail don ag a wnaed ar y cam cyntaf.
Roedd y lefel wreiddiol o gefnogaeth i gynlluniau cyfalaf yn 50%. Fodd bynnag, yn y cyfnod hwn o gyni ac o wrando ar bryderon ein partneriaid cyflawni ynglŷn â’r pwysau ar eu cyllidebau refeniw, rwyf wedi penderfynu cynyddu cyfradd ymyrraeth Llywodraeth Cymru i gynlluniau cyfalaf o 50% i 65% o’u cost.
Hefyd, i gefnogi disgyblion ag anghenion dysgu ychwanegol a’r rhai mewn unedau cyfeirio disgyblion rwy’n cynnig cyfradd ymyrraeth o 75% ar gynlluniau cyfalaf ar gyfer y cyfleusterau hyn, gyda’n partneriaid cyflawni’n talu’r 25% sy’n weddill o’r costau.
Gyda’r cynnydd hwn yn y cyfraddau ymyrraeth, bydd angen inni wneud mwy nag erioed i weithio’n agosach gyda’n partneriaid i gytuno ar pa mor gyflym y caiff eu prosiectau eu gwireddu. Mae’n bosibl y bydd y cyfraddau ymyrraeth uwch hyn yn golygu bod rhaid arafu’r cyflawni ond byddwn yn edrych i gyflymu’r Rhaglen pan fydd cronfeydd ychwanegol o arian ar gael.
Credaf fod y newid hwn yn y cymorth gan Lywodraeth Cymru yn dyngedfennol os ydym i gynnal fforddiadwyedd y rhaglen lwyddiannus hon a’n gallu i’w chyflawni. Mae’n holl bwysig felly fod cynlluniau buddsoddi fforddiadwy gennym sydd hefyd yn gwireddu ein cyd-uchelgais i greu amgylcheddau dysgu cynaliadwy sy’n diwallu anghenion ehangach ein cymunedau.