Y Gwir Anrh. Carwyn Jones AC, Prif Weinidog i Gymru
Mae’r datganiad hwn yn rhoi manylion am raglen Llywodraeth Cymru ar gyfer teithiau masnach ac arddangosfeydd yn 2013-14. Mae’n rhaglen ragweithiol a chynhwysfawr.
Mae’r rhaglen yn cynnwys 44 o ymweliadau tramor amlsector ac ymweliadau â sectorau penodol o fewn 20 o farchnadoedd. Mae hyn yn adlewyrchu ein hymrwymiad i gefnogi’r gwaith o greu economi rhyngwladol i Gymru. Mae’r rhain yn elfennau gweladwy o’r gefnogaeth rydym yn ei rhoi i gwmnïau mewn marchnadoedd rhyngwladol. Yn sail i hyn, rhoddir cefnogaeth ariannol i gwmnïau unigol i’w galluogi i edrych ar farchnadoedd sydd eisoes yn bodoli a’r rhai newydd, gwneud gwaith ymchwil ac ymweld â’r marchnadoedd hynny.
Ynghlwm, ceir y rhestr lawn ac fe welwch fod tri o’r digwyddiadau hyn wedi’u cynnal yn barod. Yr UDA yw ein partner masnachu mwyaf a dyma’r wlad yr ydym yn ymweld â hi amlaf. Mae gennym hefyd gysylltiadau cryf â’r Almaen, yr Emiraethau Arabaidd Unedig a Tsieina.
Eleni, bydd gennym bresenoldeb yn rhai o sioeau masnach fwyaf nodedig yr UDA, Ewrop, y Dwyrain Canol ac Asia. Byddwn hefyd yn mynd i Advamed, a gynhelir yn Washington DC eleni, Mobile World Congress yn Barcelona, Big 5 Construction yn Dubai a Sioe Awyr Singapore.
Mae hyn yn adeiladu ar y rhaglen a ailgyflwynwyd y llynedd ac mae’n rhan o gyfres o gefnogaeth a roddir i helpu cwmnïau i ddatblygu busnes allforio newydd.
Er bod y rhaglen wedi’i anelu’n bennaf at helpu busnesau i fasnachu’n rhyngwladol, mae hefyd yn fodd inni adeiladu ar y buddsoddiad uniongyrchol o dramor yng Nghymru a gyhoeddwyd ddoe. Mae hyn yn fodd i godi proffil Cymru ymhellach fel lleoliad i fuddsoddi ynddo.
Mae’r rhaglen ar gyfer teithiau masnach ac arddangosfeydd yn un rhan o’n cynllun ar gyfer cynnal gweithgareddau tramor yn 2013-14. Byddwn yn hyrwyddo Cymru fel lleoliad i fuddsoddi ynddo, lleoliad twristiaeth a lleoliad i gynnal digwyddiadau mawr mewn arddangosfeydd a chynadleddau sy’n canolbwyntio ar sectorau penodol fel Marchnad Ffilm Ewrop ym Merlin, Confensiwn Cymdeithas Gweithredwyr Teithiau’r UDA yn Arizona a Sport Accord yn St Petersburg.
Gwelir y ddolen i'r rhaglen o deithiau ac arddangosfeydd: https://business.wales.gov.uk/cy/teithiau-masnach-llywodraeth-cymru