Neidio i'r prif gynnwy

Y Prif Weinidog, Mark Drakeford AS

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae’r Cabinet bellach am adolygu Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 5) (Cymru) 2020 bob wythnos. Hynny am fod y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd wedi datblygu mor gyflym yn sgil dyfodiad amrywiolyn omicron a’i ledaeniad ledled y DU.

Mae’r data diweddaraf am iechyd y cyhoedd yn awgrymu bod nifer yr achosion o goronafeirws wedi dechrau gostwng o lefelau uchel iawn. Mae amrywiaeth o wybodaeth, gan gynnwys manylion cyfraddau, arolygon dŵr gwastraff, canlyniadau arolwg heintio’r ONS a data cleifion ysbyty, yn dangos arwyddion positif bod adferiad yn digwydd, er bod lefel yr heintiadau yn y gymuned yn parhau’n uchel.  

Mae rhagor na 1.75m o bobl – dwy ran o dair o’r boblogaeth 12 oed a throsodd – wedi cael y pigiad atgyfnerthu neu drydydd dos o frechlyn Covid-19.

Gallwn nawr edrych yn fwy hyderus tua’r dyfodol a chynllunio ar gyfer dechrau codi cyfyngiadau rhybudd lefel dau. Rydym heddiw yn cyhoeddi cynllun i ddychwelyd i lefel rhybudd sero.  Fel o’r blaen, byddwn yn dechrau trwy lacio’r cyfyngiadau yn yr awyr agored.

Mae un newid yn cael ei wneud ar unwaith – o fory, bydd nifer y bobl sy’n cael bod mewn digwyddiad awyr agor yn cynyddu o 50 i 500. Ni fydd y nifer hwnnw’n cynnwys y rheini sy’n cymryd rhan mewn gemau tîm. Mae’n golygu y caiff 500 o wylwyr fod yn bresennol

Os bydd yr amodau’n caniatáu, byddwn yn parhau i godi cyfyngiadau lefel rhybudd dau fesul cam.

O ddydd Gwener, 21 Ionawr, bydd gweithgareddau awyr agored yn symud i lefel rhybudd sero:

  • Byddwn yn codi’r cyfyngiadau ar nifer y bobl fydd yn cael cymryd rhan mewn gweithgareddau awyr agored.
  • Bydd torfeydd yn cael dychwelyd i ddigwyddiadau chwaraeon awyr agored
  • Bydd modd cynnal lletygarwch yn yr awyr agored heb y mesurau rhesymol ychwanegol fel y rheol o chwech a’r gofyn i weini wrth fyrddau
  • Bydd dal angen Pas Covid i gael mynediad i ddigwyddiadau awyr agored mwy

Cyn belled â bod y duedd am i lawr yn parhau, o ddydd Gwener, 28 Ionawr, byddwn yn symud i lefel rhybudd sero o ran pob gweithgaredd dan do:

  • Bydd clybiau nos yn cael ailagor.
  • Bydd gofyn i fusnesau, cyflogwyr a sefydliadau eraill barhau i gynnal asesiad risg penodol ar gyfer coronafeirws a chymryd camau rhesymol i leihau’r perygl o ledaenu coronafeirws
  • Ni fydd angen cadw mwyach at y rheol cadw pellter o 2m ar safleoedd sy’n agored i’r cyhoedd a gweithleoedd
  • Ni fydd angen i gynulliadau gadw at y rheol o chwech mwyach mewn safleoedd rheoledig, fel lletygarwch, sinemâu a theatrau.
  • Ni fydd angen i safleoedd trwyddedig weini wrth fyrddau a chasglu manylion cyswllt.
  • Bydd Llywodraeth Cymru’n dal i gynghori pobl i weithio gartref ond ni fydd mwyach yn ofyn cyfreithiol
  • Bydd dal angen Pas Covid i fynd i ddigwyddiadau mawr dan do, clybiau nos, sinemâu, neuaddau cyngerdd a theatrau.

Bydd pob rheol lefel rhybudd sero arall, gan gynnwys bod pawb sy’n cael canlyniad positif i brawf covid yn hunanynysu a’r gofyn i wisgo gorchuddion wyneb yn y rhan fwyaf o leoedd dan do yn parhau ar ôl 28 Ionawr.

Erbyn dydd Gwener 11 Chwefror, byddwn wedi dychwelyd i’r cylch adolygu tair wythnos. Caiff adolygiad ei gynnal erbyn 10 Chwefror. Byddwn yn adolygu pob cyfyngiad lefel rhybudd sero fydd yn dal mewn grym ac yn cyhoeddi unrhyw newidiadau ar 11 Chwefror.

Byddwn yn cadw golwg fanwl ar y sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd, yn enwedig mewn ysgolion i sicrhau y gall myfyrwyr barhau i gael eu dysgu wyneb yn wyneb.

Mae sefyllfa’r amrywiolyn hwn yn symud yn gyflym ac yn anwadal a gallai’r sefyllfa o ran iechyd y cyhoedd newid yn sydyn.  Rwy’n pwyso ar bawb i gadw at y rheolau a’r holl fesurau sy’n eu cadw nhw a’u hanwyliaid yn ddiogel.  Os nad ydych wedi cael eich pigiad atgyfnerthu eto, gwnewch hynny’n flaenoriaeth.