Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol
Mae’r Datganiad Ysgrifenedig hwn yn rhoi’r wybodaeth ddiweddaraf i’r Aelodau am ddatblygiad rheoliadau yn ymwneud â Deddf Rheoli Cymorthdaliadau 2022. Ar 21 Gorffennaf 2022 cysylltodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol â’r llywodraethau datganoledig i’w hysbysu am ei bwriad i osod rheoliadau i ddiwygio Deddf Marchnad Fewnol y DU fel y mae’n gymwys i’r Ddeddf Rheoli Cymorthdaliadau a dileu dyletswydd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd a'r Ysgrifennydd Gwladol dros Fusnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol i ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig ynglŷn â datganiadau polisi. Ar yr un pryd, rhannodd yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol gopi drafft o ‘Reoliadau Rheoli Cymorthdaliadau (Pwerau Casglu Gwybodaeth)’.
Ni soniwyd am y rheoliadau drafft hyn na’r bwriad i ddrafftio rheoliadau o’r fath mewn cyfarfodydd ar unrhyw lefel cyn y dyddiad hwn. Nid oeddwn yn gwybod o gwbl bod yr Adran Busnes, Ynni a Strategaeth Ddiwydiannol yn gweithio arnynt ac felly ni chefais gyfle i gyfrannu at y gwaith o ddrafftio’r rheoliadau nac at y polisi sy’n sail iddynt.
Mae’r rheoliadau drafft yn darparu y bydd Deddf Marchnad Fewnol y DU yn aros wedi’i drafftio fel y mae ar hyn o bryd o safbwynt testunol. Nid ydynt yn gwneud unrhyw newidiadau i’r Ddeddf ei hun, ond maent yn gwneud diwygiad testunol ymhlyg. Effaith y diwygiad hwn fydd dileu’r gofyniad statudol i ymgynghori â’r llywodraeth ddatganoledig berthnasol, gan wneud hynny yn rhywbeth mwy dewisol i’w benderfynu gan yr Ysgrifennydd Gwladol mewn perthynas â chosbau (adran 43(8) o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU) a’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd mewn perthynas â llunio datganiad polisi (adran 42(9) o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU) o dan amgylchiadau pan fo’r darpariaethau hyn yn berthnasol i reoli cymorthdaliadau.
Rwyf wedi ystyried yr angen i osod memorandwm cydsyniad offeryn statudol ac wedi dod i’r casgliad nad yw’r rheoliad drafft hwn yn ymgysylltu â Rheol Sefydlog 30A na Rheol Sefydlog 30B.
Serch hynny, credaf mai effaith y rheoliadau, fel y maent wedi’u drafftio, fydd dileu’r ddyletswydd i ymgynghori â’r llywodraethau datganoledig ynglŷn â datganiadau polisi o dan amgylchiadau pan fo’r darpariaethau hyn yn berthnasol i reoli cymorthdaliadau. Bydd hyn yn effeithio’n negyddol ar gymhwysedd datganoledig Gweinidogion Cymru mewn perthynas â datblygu economaidd ac maent, yn eu hanfod, yn lleihau pwerau goruchwylio Gweinidogion Cymru o ran gweithrediad parhaus ac ymarferol cyfundrefn rheoli cymorthdaliadau’r DU.
Mae dileu’r rhwymedigaeth hon i ymgynghori yn enghraifft arall o ymosodiad annerbyniol Llywodraeth bresennol y DU ar ddatganoli, gan gael gwared ag amddiffyniadau angenrheidiol sy’n ceisio sicrhau dull ar draws y DU gyfan ar gyfer rheoleiddio cymorthdaliadau. Mae hyn, yn ei dro, yn bygwth niweidio ffyniant economaidd Cymru.
At hynny, roedd adran 67 o Ddeddf Marchnad Fewnol y DU (y pŵer galluogi ar gyfer y rheoliadau drafft hyn) yn un o’r darpariaethau a oedd dan sylw yn y Cynnig Cydsyniad Deddfwriaethol pan wrthododd Senedd Cymru roi cydsyniad. Roeddwn felly’n teimlo ei bod yn briodol tynnu sylw’r Senedd at y mater hwn.