Mick Antoniw AC, Y Cwnsler Cyffredino
Mae’r Uchel Lys wedi rhoi ei ddyfarniad ar yr achos uchod ddoe. Daeth y Llys i’r casgliad nad oes gan Lywodraeth y Deyrnas Unedig y pŵer i roi rhybudd o dan Erthygl 50 y bydd yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd gan ddefnyddio uchelfraint y Goron.
Cyhoeddwyd y bydd yr achos hwn yn destun apêl i’r Goruchaf Lys cyn diwedd y flwyddyn. Ochr yn ochr â hyn, rhoddodd Uchel Lys Cyfiawnder Gogledd Iwerddon ei ddyfarniad ar achos Re McCord’s (Raymond) Application yn ddiweddar. Unwaith eto, mae’n dra hysbys y caiff y mater hwn ei gyfuno yn y pen draw â’r achos gerbron y Goruchaf Lys.
A minnau wedi ystyried y dyfarniad ar y ddau achos, rwyf o’r farn eu bod yn codi pynciau sydd o bwysigrwydd mawr, nid yn unig mewn perthynas â’r cysyniad o Sofraniaeth Seneddol, ond hefyd mewn perthynas â threfniadau cyfansoddiadol ehangach y Deyrnas Unedig a’r fframwaith cyfreithiol ar gyfer datganoli.
Maent yn codi cwestiynau ynglŷn â’r defnydd o’r pŵer uchelfreiniol i gymryd camau a fydd yn effeithio, neu a all effeithio, ar y canlynol:
- cymhwysedd deddfwriaethol Cynulliad Cenedlaethol Cymru;
- pwerau Gweinidogion Cymru;
- y berthynas gyfreithiol a’r berthynas gyfansoddiadol rhwng y Cynulliad a Senedd y Deyrnas Unedig;
- y berthynas gyfreithiol a’r berthynas gyfansoddiadol rhwng Llywodraeth Cymru a Llywodraeth y Deyrnas Unedig;
- yr effaith gymdeithasol a’r effaith economaidd ar Gymru.
Felly, yn unol â’r pŵer a roddir imi o dan adran 67 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006, rwy’n bwriadu gwneud cais am ganiatâd i ymyrryd yn yr apêl arfaethedig gerbron y Goruchaf Lys. Bwriadaf gyflwyno sylwadau am oblygiadau penodol penderfyniad arfaethedig y Llywodraeth i Gymru.
Byddaf yn rhoi datganiad llafar i’r Cynulliad yr wythnos nesaf.