Neidio i'r prif gynnwy

Alun Davies, y Dirprwy Weinidog Amaethyddiaeth, Bwyd, Pysgodfeydd a Rhaglenni Ewropeaidd

Cyhoeddwyd gyntaf:
14 Tachwedd 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rheoleiddir pysgota am gregyn bylchog yng Nghymru trwy Orchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010.  Mae’r rheoliadau’n gwahardd treillio am gregyn bylchog mewn sawl ardal o amgylch Cymru.  Mae’r ardaloedd hynny wedi’u diffinio’n glir o gwmpas arfordir Cymru ac maent wedi’u nodi’n rhai pwysig i rywogaethau a chynefinoedd bregus y môr.  Ni chaniateir pysgota am gregyn bylchog rhwng 1 Mai - 31 Hydref bob blwyddyn yn nyfroedd tiriogaethol Cymru.

Yn ogystal â’r cyfyngiadau yng Ngorchymyn 2010, rheoleiddir pysgota am gregyn bylchog ledled Cymru hefyd drwy is-ddeddfau’r hen Bwyllgorau Pysgodfeydd Môr. O dan yr Is-ddeddfau hynny, mae angen cael caniatâd i bysgota am gregyn bylchog o fewn 6 milltir forol i forlin Cymru. Yn sgil diddymu Pwyllgorau Pysgodfeydd Môr Cymru yn 2010, Gweinidogion Cymru sy’n rhoi’r caniatâd hwnnw erbyn hyn.

Mae Gweinidogion Cymru o dan amryw rwymedigaethau (sy’n deillio o’r Gyfarwyddeb Gynefinoedd (Cyfarwyddeb y Cyngor 92/43/EEC) mewn perthynas â’r Safleoedd Morol niferus yn Ewrop (Ardaloedd Cadwraeth Arbennig ac Ardaloedd Gwarchodaeth Arbennig)) o amgylch arfordir Cymru.

Ar sail yr holl wybodaeth berthnasol sydd ar gael, rwyf wedi cytuno:

  1. bod yr amryw gyfyngiadau yng Ngorchymyn Pysgota am gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010 yn ddigon i sicrhau bod pobl yn pysgota am gregyn bylchog yng Nghymru mewn ffordd sy’n atal cynefinoedd naturiol a chynefinoedd rhywogaethau rhag dirywio ac nad yw’n aflonyddu ar y rhywogaethau y mae Safleoedd Morol Ewropeaidd Cymru wedi’u neilltuo iddynt i’r graddau y gallai aflonyddu o’r fath fod yn arwyddocaol mewn perthynas ag amcanion y Gyfarwyddeb Gynefinoedd (yn unol â rhwymedigaethau Gweinidogion Cymru o dan Erthygl 6(2) y Gyfarwyddeb Gynefinoedd);
  2. na fydd y gweithgareddau pysgota am gregyn bylchog a ganiateir trwy roi caniatâd o dan Is-ddeddfau perthnasol yr hen Bwyllgorau Pysgodfeydd Môr yn cael effaith sylweddol ar Safleoedd Morol Ewropeaidd Cymru.

Felly, yn unol â Gorchymyn Pysgota am Gregyn Bylchog (Cymru) (Rhif 2) 2010 a’r caniatâd a roddir o dan is-ddeddfau’r hen Bwyllgorau Pysgodfeydd Môr, dechreuodd y tymor pysgota ar 1 Tachwedd 2011 a daw i ben ar 30 Ebrill 2012. 

Caiff y dadansoddiad gwyddonol yn hyn o beth ei gyhoeddi ar wefan Llywodraeth Cymru maes o law.