Jeremy Miles AS, y Cwnsler Cyffredinol a'r Gweinidog Pontio Ewropeaidd
Ddydd Llun, cyfarfu Prif Weinidog y DU â Llywydd y Cyngor Ewropeaidd Charles Michel, Llywydd y Comisiwn Ewropeaidd Ursula von der Leyen, a Llywydd Senedd Ewrop David Sassoli, yn dilyn pedair rownd negodi ar berthynas y DU a'r UE yn y dyfodol, er mwyn pwyso a mesur hynt y negodiadau. Cyn y cyfarfod, roedd hi'n glir bod gwahaniaethau sylfaenol o hyd rhwng Llywodraeth y DU a'r UE ar faterion megis safonau cyffredin, pysgodfeydd, diogelwch a llywodraethu.
O ystyried y gwahaniaethau sylfaenol hyn a'r argyfwng nad oedd modd ei rag-weld yn sgil pandemig COVID-19, ysgrifennodd Prif Weinidog Cymru ar y cyd â Phrif Weinidog yr Alban yn galw i atal y negodiadau dros dro ac estyn y cyfnod pontio. Er gwaethaf gwirionedd y sefyllfa, penderfynodd Llywodraeth y DU beidio â gofyn am estyniad i'r cyfnod pontio. Gwnaed y penderfyniad hwn cyn y cyfarfod pwyso a mesur a heb drafodaeth ddigonol rhwng llywodraethau'r DU. Rydym yn dal i gredu bod hwn yn benderfyniad di-hid ac ni fydd ond yn cynyddu'r tebygolrwydd o adael y cyfnod pontio heb gytundeb cynhwysfawr. Byddai hyn yn niweidio'r economi yn ddifrifol, gan beryglu swyddi a bywoliaeth dinasyddion ledled y DU.
Yn dilyn y cyfarfod pwyso a mesur, cytunwyd y bydd y trafodaethau rhwng Llywodraeth y DU a'r UE yn dwysáu dros yr wythnosau nesaf, gan obeithio llunio a chadarnhau cytundeb yn y chwe mis nesaf. Er ein bod yn croesawu'r datblygiad hwn, mae'n glir y bydd angen i'r ddwy ochr ganfod tir cyffredin i bontio'r gwahaniaethau sy'n dal i fod. Fel y nodwyd yn ein papur polisi, 'Y berthynas rhwng y DU a’r UE yn y dyfodol: blaenoriaethau negodi i Gymru', credwn ei bod yn bosibl creu perthynas at y dyfodol sy'n seiliedig ar y Datganiad Gwleidyddol y cytunodd Prif Weinidog y DU arno â'r UE ym mis Hydref, sy'n blaenoriaethu mynediad mor gyflawn â phosibl at farchnadoedd yr UE ac sy'n cynnal y cydweithredu â'r UE mewn meysydd pwysig fel diogelwch a chyfranogiad yn rhaglenni'r UE sy'n meithrin cydweithredu a chydweithio rhwng Aelod-wladwriaethau'r UE a gwledydd eraill.
Mae'r UE wedi mynegi pryder bod Llywodraeth y DU wedi symud oddi wrth sail cytundeb y darparodd y Datganiad Gwleidyddol ar ei chyfer. Credwn mai dim ond drwy ddatblygu meysydd lle ceir tir cyffredin a thrwy ddangos parodrwydd i gyfaddawdu y gellir dod i gytundeb.
Rydym bob amser wedi ceisio gweithio mewn modd adeiladol gyda Llywodraeth y DU ynghylch y negodiadau ar y berthynas yn y dyfodol ond rydym yn dal i fod yn rhwystredig iawn yn sgil absenoldeb unrhyw ymgysylltu ystyrlon. Er ein bod yn derbyn ei mandad i greu perthynas yn y dyfodol yn seiliedig ar y Datganiad Gwleidyddol, rydym wedi ceisio manteisio ar bob cyfle i ddylanwadu ar Lywodraeth y DU er mwyn diogelu buddiannau Cymru, a byddwn yn parhau i wneud hynny. Tra mae'r rowndiau negodi wedi mynd rhagddynt, rwyf wedi nodi mewn cyfres o lythyrau ragor o fanylion ynghylch blaenoriaethau negodi Llywodraeth Cymru ar draws y ffrydiau gwaith hynny y mae gennym fuddiant uniongyrchol ynddynt.
Wrth i'r trafodaethau fynd ymlaen i'r cam hanfodol nesaf, rwyf wedi ysgrifennu ar y cyd ag Ysgrifennydd y Cabinet dros y Cyfansoddiad, Ewrop a Materion Allanol yn Llywodraeth yr Alban at Ganghellor Dugiaeth Caerhirfryn yn gofyn i Lywodraeth y DU wneud llawer mwy i weithio gyda'r Llywodraethau Datganoledig. Unwaith eto, rydym yn galw ar i Lywodraeth y DU gadw at gylch gorchwyl Cyd-bwyllgor y Gweinidogion (Negodiadau'r UE) sy'n ymrwymo pob un o'n Llywodraethau i gydweithio i gytuno ar safbwynt a rennir ledled y DU ar gyfer y negodiadau ac i sicrhau bod y negodiadau yn arwain at ganlyniadau y cytunwyd arnynt. Dim ond drwy weithio ar y cyd â'r Llywodraethau Datganoledig y gall Llywodraeth y DU sicrhau'r EU bod modd i'r berthynas y cytunir arni at y dyfodol gael ei rhoi ar waith ym mhob rhan o'r DU.
Rwyf wedi atodi copi o'r llythyr hwn, fel y'i hanfonwyd, i'r datganiad hwn.