Neidio i'r prif gynnwy

Carwyn Jones, y Prif Weinidog, ac Ieuan Wyn Jones, y Dirprwy Brif Weinidog

Cyhoeddwyd gyntaf:
25 Ionawr 2011
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2007 i 2011

Mae’r GIG yng Nghymru wedi bod o dan bwysau mawr dros y gaeaf. Mae’n glod i holl staff y gwasanaeth iechyd yng Nghymru eu bod wedi llwyddo i barhau i ddarparu gwasanaethau hanfodol er gwaethaf y pwysau hyn. Hoffwn ddiolch i’r staff am eu gwaith caled a’u hymroddiad dros gyfnod anodd iawn. 

Bob gaeaf, mae’r GIG yn disgwyl gweld mwy o alw am ei wasanaethau ac mae’n paratoi ymlaen llaw mewn ymdrech i fodloni’r galw hwnnw. Fodd bynnag, eleni, mae cyfnodau arbennig o arw o dywydd aruthrol o oer ac eira wedi rhoi mwy o bwysau ar wasanaethau. Mae hyn wedi dod ar ben y problemau iechyd arferol sy’n gysylltiedig â’r gaeaf ac y mae’n rhaid i’r staff fynd i’r afael â hwy.     

Heddiw, cyhoeddwyd yr ystadegau am berfformiad y gwasanaeth ambiwlans ym mis Rhagfyr.

Mae angen edrych ar y ffigurau hyn yng nghyd-destun y pwysau a roddwyd ar wasanaethau ym mis Rhagfyr. O ganlyniad i’w hymdrechion, a’u gwaith cynllunio a chydgysylltu, llwyddwyd i gynnal gwasanaethau o dan amgylchiadau anodd iawn.  

Mae’r gwasanaeth ambiwlans yn cael dros 25,000 o alwadau brys bob mis. Gwelwyd cynnydd sylweddol ym mis Rhagfyr yn nifer y galwadau brys hynny ac yn nifer y galwadau lle’r oedd bywyd yn y fantol.

Cafwyd dros 35,600 o alwadau brys ym mis Rhagfyr 2010 – 18 y cant yn fwy nag ym mis Rhagfyr 2009 a 23 y cant yn fwy nag ym mis Tachwedd 2010.  

Wrth reswm, bydd yr angen i griwiau yrru’n arafach ar yr eira ac ar ffyrdd rhewllyd wedi effeithio ar yr amser yr oedd ambiwlansys yn ei gymryd i ymateb i alwadau - roedd llawer o’r is-ffyrdd a’r ffyrdd ymyl ar gau am fwy nag wythnos - o ganlyniad, roedd hi’n anodd cyrraedd y safon o ran ymateb o fewn 8 munud. Yn wir, mewn rhai achosion, roedd yr amodau ar y ffyrdd mor ddifrifol fel bod angen gofyn am gymorth y Gwasanaeth Tân. Gadewch i ni fod yn glir, roedd yr amodau hyn yn rhai anodd i bawb.

Mae’r ffigurau ar gyfer damweiniau ac achosion brys hefyd yn dangos faint o bwysau sydd wedi bod ar y gwasanaethau iechyd.

I roi hyn yn ei gyd-destun, aeth 70,000 o bobl i adrannau achosion brys neu i unedau mân anafiadau yng Nghymru ym mis Rhagfyr 2009. Ym mis Rhagfyr 2010, cododd y ffigur hwn yn sylweddol i dros 74,400.

Cafodd bron 84 y cant o’r cleifion eu gweld, eu trin, eu trosglwyddo neu eu rhyddhau ymhen pedair awr. Er ein bod yn derbyn y bydd rhai o’r cleifion wedi aros yn hirach na hynny - ac rydym wrthi’n gweithio i wella perfformiad yn hyn o beth - byddai’r staff wedi trin cleifion yn nhrefn blaenoriaeth glinigol.

Yn ogystal â’r llithro, y baglu a’r cwympo sy’n gysylltiedig â thywydd oer, mae adrannau achosion brys wedi gweld cynnydd hefyd yn nifer y cleifion sy’n cael eu derbyn i’r ysbyty am eu bod wedi cael trawiad ar y galon neu strôc neu am eu bod yn dioddef o niwmonia. Yn ogystal â hynny, aeth nifer o bobl i adrannau achosion brys am eu bod yn pryderu am y ffliw tymhorol. Mae pob ysbyty wedi cyfeirio at y ffaith iddynt weld cynnydd y nifer y cleifion a oedd yn dioddef o symptomau anadlol difrifol. O ganlyniad, roedd angen iddynt aros yn yr ysbyty am gyfnod hirach nag arfer, ac roedd cynnydd hefyd yn nifer y cleifion yr oedd angen gofal critigol arnynt.

Bob gaeaf, rydym hefyd yn gweld mwy o achosion o norofeirws – sy’n cael ei alw hefyd yn glefyd chwydu’r gaeaf – ar led yn y gymuned. Bu’n rhaid cau nifer o wardiau ar draws Cymru er mwyn ceisio atal yr haint rhag lledaenu. Wrth reswm, effeithiodd hyn ar wasanaethau hefyd, gan ychwanegu at y pwysau difrifol ar y GIG.

Mae gan y GIG gynlluniau yn eu lle i reoli pwysau’r gaeaf ac rydym wedi bod yn cydweithio â’r Byrddau Iechyd a’r Ymddiriedolaeth Ambiwlans i fonitro’r galw ac i gadw llygad ar faint o welyau sydd ar gael, er mwyn cydgysylltu a rheoli gwasanaethau drwy gyfrwng galwadau cynadledda dyddiol ar lefel uwch-reolwyr.

Rydym hefyd wedi lansio ymgyrch, Dewis Doeth, i helpu pobl i ddeall lle y dylent fynd os ydynt yn anhwylus.