Vaughan Gething, y Dirprwy Weinidog Iechyd
Hoffwn ddiolch i staff ein GIG, gwasanaethau cymdeithasol a gofal cymdeithasol trwy Gymru a fu’n gweithio’n ddiflino y gaeaf hwn i sicrhau bod pobl yn cael y driniaeth, y gofal a’r cymorth sydd ei hangen arnynt pan fyddant yn cael anaf neu salwch. Rwy’n ddiolchgar iawn am eu hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau gofal o ansawdd uchel.
Mae'r gaeaf bob amser yn gyfnod prysur iawn i’n gwasanaethau iechyd a’n gwasanaethau cymdeithasol ac ni fu’r tymor hwn ddim gwahanol er gwaetha’r tywydd mwynach. Fodd bynnag, yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr 2016, mae’r GIG wedi profi cynnydd sylweddol yn y galw am wasanaeth gofal brys y tu hwnt i’r hyn a brofwyd yn ystod yr un cyfnod yn 2015.
Diolch i’r broses gynllunio integredig dros y gaeaf, sy’n dod â byrddau iechyd, awdurdodau lleol a Gwasanaeth Ambiwlans Cymru ynghyd, ac sydd wedi bod ar waith dros y blynyddoedd diwethaf, mae’r GIG a’r gwasanaethau cymdeithasol wedi gallu rheoli pwysau’r gaeaf a brofwyd hyd yn hyn. Yn ogystal â hyn, mae capasiti gwelyau ychwanegol wedi dod ar gael yn ein hysbytai yn ôl yr angen ond yn bwysicach fyth, bu ffocws ar rwystro cleifion rhag cael eu derbyn i ysbytai heb angen a chynllunio ar gyfer rhyddhau cleifion yn gynnar.
Mae cynlluniau eraill a roddwyd ar waith i wella cydnerthedd y gaeaf hwn yn cynnwys cryfhau trefniadau gweithio saith diwrnod; cynyddu cymorth meddygon ymgynghorol; estyn oriau gweithio; cymorth ychwanegol ar gyfer gwasanaethau y tu allan i oriau a chartrefi gofal; gwneud gwell defnydd o weithwyr cymdeithasol mewn ysbytai a gwneud gwell defnydd o gymorth fferyllwyr.
Dros gyfnod y Nadolig, gwnaeth gwasanaethau brys y GIG brofi cynnydd sydyn mewn gweithgarwch ar adegau. Er hyn, yn ystod wythnos gyntaf mis Ionawr – fel arfer y mis prysuraf – y mae’r gwasanaethau wedi wynebu cynnydd sylweddol mewn pwysau, gyda chyfnodau o gynnydd mwy sylweddol yn y galw yn dilyn cyfnod y Nadolig. Mae hyn yn enwedig o ran galwadau brys am ambiwlans, ymgyngoriadau gofal sylfaenol y tu allan i oriau a nifer y bobl sydd wedi mynychu adrannau achosion brys.
Mae’r wybodaeth reoli yn dangos y bu cynnydd yn y nifer sydd wedi mynychu Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys mewn ambiwlans ers y flwyddyn newydd – roedd yr adeg brysuraf 22% yn uwch na’r cyfartaledd ar gyfer mis Ionawr 2015. Mae’r ffigurau’n dangos hefyd bod nifer y bobol a fynychodd Adrannau Damweiniau ac Achosion Brys 23% yn uwch na chyfartaledd mis Ionawr 2015.
Mae GIG Cymru a'r gwasanaethau cymdeithasol wedi ymdopi’n dda â'r cynnydd hwn yn y galw. Mae byrddau iechyd yn sicrhau bod pob gwely sydd ar gael yn cael ei ddefnyddio i ddarparu gofal i'r cleifion gwaelaf eu hiechyd. Bu rhywfaint o oedi mewn rhai ysbytai, ond mae staff yn gweithio'n galed i gynnal llif cleifion drwy'r system.
Mae'r Gronfa Gofal Canolraddol yn helpu pobl eiddil a hŷn ledled Cymru i aros gartref. Mae hyn yn eu rhwystro rhag cael eu derbyn i'r ysbyty pan nad oes angen ac i gefnogi'r broses ryddhau yn gynnar drwy wahanol fentrau tai a gofal cymdeithasol. Bydd rhagor o gyllid o'r Gronfa Gofal Canolraddol yn cael ei ddyrannu i barhau â'r gwelliant hwn yn ystod y gaeaf.
Yn dilyn cyfnod o bwysau a galw sylweddol, mae'r sefyllfa'n sefydlogi er bod nifer mawr o bobl yn parhau i fynd i'r adrannau achosion brys i gael help. Mae ein GIG yn rhagweld y bydd rhagor o gyfnodau o gynnydd yn y galw wrth i’r gaeaf fynd rhagddo, fel sy'n arferol yr adeg hon o’r flwyddyn. Bydd byrddau iechyd hefyd yn parhau i weithredu eu trefniadau cynllunio ar gyfer y gaeaf i reoli'r pwysau hwn.
Gall y cyhoedd helpu'r GIG hefyd drwy wneud dewis doeth ac ystyried a oes angen iddynt fynd i'r adran achosion brys pan fyddant yn cael anaf neu salwch, a all gwasanaethau iechyd lleol eraill helpu, neu a allent ofalu am eu hunain gyda chyngor gan Galw Iechyd Cymru.
Gall ein hymgyrch Dewis Doeth helpu pobl i benderfynu at bwy i droi i gael yr help sydd ei angen arnynt, beth mae gwahanol wasanaethau'r GIG yn eu gwneud a pha bryd y dylid eu defnyddio.
Drwy wneud Dewis Doeth gall pobl gael y driniaeth orau ar gyfer eu cyflwr penodol ac mae hefyd yn caniatáu i wasanaethau prysur y GIG i helpu'r bobl sydd fwyaf eu hangen.
Gallwch gysylltu â Galw Iechyd Cymru ar 0845 46 47.