John Griffiths, y Cwnsler Cyffredinol
Mae Aelodau’r Cynulliad eisoes wedi’u hysbysu am y pwerau i wneud Mesurau y gofynnir amdanynt yn amrywiol Fesurau Seneddol y DU sy’n mynd trwy Senedd y DU ar hyn o bryd. Yng ngoleuni’r bleidlais ‘Ie’ yn y Refferendwm a gynhaliwyd ar 3 Mawrth, a’r canlyniad y bydd pwerau deddfu’r Cynulliad fel y’u pennir yn Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru; ni fydd angen y pwerau arnom i wneud y Mesurau hyn bellach. Bydd Llywodraeth y DU felly’n cyflwyno diwygiadau i ddileu’r darpariaethau hyn ym mhob un o’r Mesurau Lleoliaeth, Addysg, a Chyfrifoldeb am Gyllidebau ac Archwilio Cenedlaethol.
Roedd yn y Mesur Lleoliaeth dair darpariaeth ar gyfer pwerau gwneud Mesurau, hynny mewn perthynas â refferenda lleol ar gynnyddu’r dreth gyngor, swyddogaethau rheoli datblygiadau a’r Cyfrif Refeniw Tai (HRA), a diwygio cymorthdaliadau’r Cyfrif Refeniw Tai. Mae cwmpas Atodlen 7 yn ddigonol i gynnwys y materion hyn.
Roedd yn y Mesur Addysg ddwy ddarpariaeth ar gyfer pwerau gwneud Mesurau, hynny mewn perthynas â rheoleiddio a hyfforddi athrawon a’r gweithlu addysg ehangach yng Nghymru a Chyllido Ysgolion Cyn-16. Mae Atodlen 7 hefyd yn ymdrin â’r pwyntiau hyn.
Roedd yn y Mesur Cyfrifoldeb am Gyllidebau ac Archwilio Cenedlaethol ddarpariaethau ar gyfer pwerau gwneud Mesurau mewn perthynas â threfniadau llywodraethu Archwilydd Cyffredinol Cymru. Nid yw Atodlen 7 fel y mae’n bodoli ar hyn o bryd yn ymdrin â hyn, ac felly mae’r Mesur yn gwneud darpariaeth hefyd ar gyfer y diwygio angenrheidiol i Atodlen 7. Bydd y ddarpariaeth honno’n aros, ond nid oes angen y ddarpariaeth gyfatebol sy’n diwygio Atodlen 5 bellach, a bydd yn cael ei adael o’r Mesur.
Bydd Llywodraeth y DU hefyd yn cyflwyno gwelliant i’r Mesur Gwasanaethau Post i ddileu’r ddarpariaeth bresennol sy’n diwygio Mater 6.1 (yr Amgylchedd) yn Atodlen 5 Deddf Llywodraeth Cymru 2006, er mwyn dileu’r cyfeiriad at y Comisiwn Gwasanaethau Post yn yr eithriad. Nid oes cyfeirnod cyfatebol i’r Comisiwn Gwasanaethau Post yn Atodlen 7 Deddf Llywodraeth Cymru 2006.