Neidio i'r prif gynnwy

Rebecca Evans AS, Y Gweinidog Cyllid a Llywodraeth Leol

Cyhoeddwyd gyntaf:
28 Mehefin 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar 3 Mawrth 2021, cafodd y Gorchymyn Cychwyn cyntaf mewn perthynas â Deddf Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru) 2021 (“y Ddeddf”) ei wneud gan y Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol ar y pryd. Roedd y Gorchymyn Cychwyn hwn yn cynnwys darpariaeth i ddod â’r pŵer cymhwysedd cyffredinol i rym ar gyfer cynghorau cymuned cymwys ar 5 Mai 2022.

Mae ‘cyngor cymuned cymwys’ yn gyngor cymuned sy'n bodloni'r meini prawf cymhwystra a nodir yn adran 30 o Ddeddf 2021, neu mewn rheoliadau a wnaed gan Weinidogion Cymru o dan adran 35 o Ddeddf 2021, ac yn pasio penderfyniad ei fod yn bodloni'r meini prawf.

Mae'r amodau y mae'n rhaid i gyngor cymuned eu bodloni er mwyn pasio penderfyniad ei fod yn ‘gyngor cymuned cymwys’ fel a ganlyn:

  • Datganwyd bod o leiaf ddau draean o gyfanswm aelodau'r cyngor wedi'u hethol, boed mewn etholiad cyffredin neu mewn isetholiad.
  • Mae clerc y cyngor yn dal unrhyw gymhwyster neu ddisgrifiad o gymhwyster o fath a bennir gan Weinidogion Cymru drwy reoliadau.
  • Mae'r cyngor wedi cael barn archwilio ddiamod gan Archwilydd Cyffredinol Cymru, am ddwy flwyddyn ariannol yn olynol. Mae'n rhaid i'r farn archwilio ddiamod ddiweddaraf fod wedi'i chael yn ystod y 12 mis cyn y diwrnod y cafodd penderfyniad y cyngor ei basio.

Cyn cychwyn y darpariaethau hyn, rhaid ymgynghori ar Reoliadau penodol a gwneud y Rheoliadau hynny.

Fel y nodir uchod, mae’r Ddeddf yn cynnwys darpariaeth sy’n galluogi Gweinidogion Cymru i bennu, mewn rheoliadau, y cymwysterau neu ddisgrifiad o’r cymwysterau y mae’n rhaid i glerc cyngor cymuned feddu arnynt er mwyn i’r cyngor cymuned fodloni’r ail o’r tri amod cymhwystra i fod yn ‘gyngor cymuned cymwys’.

Heddiw, rwy’n lansio ymgynghoriad ar fersiwn ddrafft o Reoliadau Cynghorau Cymuned Cymwys (Pŵer Cymhwysedd Cyffredinol) (Cymwysterau Clercod) (Cymru) 2021, sy’n nodi’r cymwysterau y mae’r rhaid i glerc feddu arnynt er mwyn i gyngor cymuned fodloni’r ail amod cymhwystra.

Mae’r ddogfen ymgynghori a’r Rheoliadau drafft ar gael drwy’r ddolen ganlynol: Rheoliadau cymwysterau clercod cynghorau cymuned.

Mae’r ymgynghoriad yn agored tan 24 Medi 2021.