Neidio i'r prif gynnwy

Jane Hutt AC, Y Gweinidog Cyllid a Busnes y Llywodraeth

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Chwefror 2016
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Heddiw, rwyf yn cyhoeddi £43m o hwb ar unwaith i brosiectau tai cymdeithasol ac Ysgolion yr 21ain Ganrif ar hyd a lled Cymru yn ystod y flwyddyn ariannol bresennol hon.

Mae buddsoddi mewn seilwaith yn elfen allweddol o'n dull o gefnogi twf economaidd cynaliadwy ac yn ganolog i'n hymateb i ddarparu ysgogiad economaidd yn y blynyddoedd diwethaf. Yn unol â'n blaenoriaethau sydd wedi'u nodi yn y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru, bydd y buddsoddiad hwn yn rhoi hwb i gyflogaeth yng Nghymru. Bydd yn cefnogi hyd at 800 o swyddi, gan gynnwys 300 i ddylunio ac adeiladu ysgolion newydd yn ein cymunedau a 500 i ddarparu tai fforddiadwy.

Bydd cyfanswm o £23m yn cael ei ddyrannu i brosiectau Ysgolion yr 21ain Ganrif ym mhob un o'r 22 o awdurdodau lleol yn ystod 2015-16, gan gefnogi'r gwaith o ailadeiladu ac adnewyddu dros 150 o ysgolion a cholegau. Bydd £20m pellach yn cael ei ddyrannu i'r grant Tai Cymdeithasol i helpu i adeiladu tua 230 o dai fforddiadwy ar hyd a lled y wlad. Bydd y dyraniadau hyn yn cael eu cynnwys yn Ail Gyllideb Atodol 2015-16, a gyhoeddir yr wythnos nesaf.

Yn ystod ymweliad â'r Gogledd ddoe, cefais y cyfle i weld manteision ein buddsoddiad gyda'm llygaid fy hun, o'r cyfleusterau dysgu o'r radd flaenaf sydd wrthi'n cael eu hadeiladu ar gampws dysgu Treffynnon i ddatblygiad tai cymdeithasol Llys Santes Ann sy'n darparu tai fforddiadwy i breswylwyr lleol yn Wrecsam. Dyma dystiolaeth glir bod ein buddsoddiad yn gwneud gwahaniaeth gwirioneddol i bobl a chymunedau ar hyd a lled Cymru.

Heddiw, rwyf hefyd yn cyhoeddi diweddariad ar lif o brosiectau arfaethedig y Cynllun Buddsoddi yn Seilwaith Cymru. Mae hyn yn unol â'n huchelgais i ddarparu darlun cynhwysfawr o fuddsoddi mewn seilwaith ar hyd a lled Cymru. Mae'r llif, sy'n rhoi manylion buddsoddiadau ar draws y sectorau cyhoeddus a phreifat, yn cynnwys buddsoddiad sydd wedi'i gynllunio gan Lywodraeth Cymru mewn amrywiaeth eang o brosiectau a fydd yn darparu manteision trwy Gymru gyfan megis cyflenwi band eang i gartrefi a busnesau, tai newydd fforddiadwy a thai cymdeithasol a'r rhaglen fuddsoddi cyfalaf fwyaf y mae ein system ysgolion wedi'i gweld erioed.