Julie Morgan, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Heddiw, rwy'n cyhoeddi pecyn o gymorth lles gwerth £36.6m i'n plant a'n teuluoedd fel rhan o ymrwymiad y llywodraeth hon i gefnogi pobl Cymru i adfer o'r pandemig.
Mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i sicrhau bod plant a phobl ifanc ledled Cymru yn cael y dechrau gorau mewn bywyd, a'r cyfleoedd i gyflawni eu potensial. Rydym wedi rhoi hawliau plant wrth wraidd ein hymateb i'r pandemig, gan ddarparu cymorth a chyfleoedd i blant a theuluoedd yn eu lleoliadau cymunedol, gofal plant, chwarae ac addysg.
O’r dyraniad hwn, mae £16.6m yn gyllid cyfalaf i gefnogi ein lleoliadau gofal plant a chwarae, gan gynnwys lleoliadau Dechrau'n Deg, gyda £5m yn benodol i gefnogi mwy o gyfleoedd chwarae yn unol â chynlluniau gweithredu’r asesiadau digonolrwydd cyfleoedd chwarae. Caiff yr arian hwn ei ddyrannu drwy ein hawdurdodau lleol.
Yn ychwanegol at hyn, ac i gefnogi'r ymrwymiadau a nodir yn Adnewyddu a Diwygio, bydd £20m o'r cyllid hwn yn adeiladu ar lwyddiant prosiectau fel yr Haf o Hwyl, gan ddarparu mwy o gyfleoedd i blant a phobl ifanc 0-25 oed ddatblygu eu lles cymdeithasol, emosiynol a chorfforol. Bydd yn darparu cyfleoedd i chwarae ac i gymryd rhan mewn gweithgareddau cymdeithasol, diwylliannol a chorfforol y tu allan i ddysgu ffurfiol. Bydd gweithgareddau ar gael yn Gymraeg ac yn Saesneg, ar draws Cymru gyfan.
Yn benodol, mae'n cynnwys £2.3m mewn dyraniadau i gefnogi gweithgareddau gan ein hamgueddfeydd, llyfrgelloedd, Chwaraeon Cymru a'u partneriaid cenedlaethol, ac Urdd Gobaith Cymru. Bydd hyn yn galluogi darparu gweithgareddau mewn clybiau chwaraeon cymunedol, amgueddfeydd, llyfrgelloedd a chyfleusterau hamdden, ac yn sicrhau amrywiaeth eang o gyfleoedd i bob oedran a gallu."
Byddaf yn darparu canllawiau gyda’r cyllid i sicrhau ein bod ni i gyd yn gallu gweithio tuag at gyflawni'r canlyniadau a ddymunir i'n pobl ifanc a'u teuluoedd.
Unwaith eto, mae Comisiynydd Plant Cymru’n darparu llwyfan ar gyfer yr holl wybodaeth a'r gweithgareddau sydd ar gael i'r bobl ifanc rhwng 0 a 25 oed o bob cymuned yng Nghymru.
Dyma’r genhedlaeth nesaf ac mae'r llywodraeth hon wedi ymrwymo i gefnogi a darparu cyfleoedd i'n plant a'n pobl ifanc wella eu lles nawr ac ar gyfer eu dyfodol.